NEWYDDION

National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn ymddangos ar albwm cyntaf yr hen aelod Nathan James Dearden

Mae Côr Cenedlaethol Ieuenctid  Cymru (CCIC) ymhlith yr ensembles sy'n ymddangos ar i breathe, albwm cyntaf y cyfansoddwr Cymreig Nathan James Dearden, sy'n cael ei ryddhau ar label Signum Classics y mis hwn.

Mae Côr Cenedlaethol Ieuenctid  Cymru (CCIC) ymhlith yr ensembles sy'n ymddangos ar i breathe, albwm cyntaf y cyfansoddwr Cymreig Nathan James Dearden, sy'n cael ei ryddhau ar label Signum Classics y mis hwn.

Mae'r albwm yn dwyn ynghyd bymtheg gwaith corawl a ysgrifennwyd dros gyfnod o ddegawd. Yn ogystal â Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, mae'n cynnwys Côr Royal Holloway – lle mae Nathan wedi bod yn Gyfansoddwr Preswyl ers 2021 – a Kantos Chamber Choir, sydd wedi'i leoli ym Manceinion. Ymunodd Nathan, a fagwyd yn Tonyrefail yng Nghymoedd De Cymru, â CCIC pan oedd yn ei arddegau. Gan ei fod wedi tyfu i fyny yng nghanol corau cymunedol a thraddodiad canu emynau Cymreig, daeth o hyd i le yn y côr lle datblygodd y profiadau cynnar hynny'n berthynas barhaol ac ystyrlon â cherddoriaeth gorawl.   

“Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wrth eu bodd bod Nathan wedi gofyn i Côr Cenedlaethol Ieuenctid  Cymru recordio ei gyfansoddiad ‘Everything about us’ ar gyfer ei albwm cyntaf. Comisiynodd CCIC Nathan – a oedd yn aelod o CCIC ei hun yn y gorffennol – i gyfansoddi'r darn yn 2022, gyda chefnogaeth gan Tŷ Cerdd. Mae'r Côr wedi perfformio'r darn sawl gwaith ers hynny; mae ei elfennau trochi cyffrous wedi ei wneud yn boblogaidd iawn gyda'r Côr a'r gynulleidfa fel ei gilydd. Mae'n wych bod recordiad y Côr bellach yn mynd i fyw am byth ar albwm Nathan. Dymunwn bob llwyddiant iddo gyda'r rhyddhau!” 

- Matthew Jones, Dirprwy Brif Weithredwr a Chynhyrchydd Uwch yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 

Cafodd ‘Everything about us’, a ysgrifennwyd ar gyfer CCIC, ei greu yn sgil y pandemig. Mae'r rhan agoriadol yn rhoi rhyddid i unigolion feddiannu gofod trwy ddarnau o gân, testun llafar, a barddoniaeth, cyn i'r côr ddod at ei gilydd i wneud datganiad cyfunol pwerus: “now it’s my time”. Mae'r darn yn archwilio'r berthynas rhwng mynegiant unigol a chryfder llais a rennir.  

Wrth fyfyrio ar y prosiect, dywedodd Nathan: “Wrth lunio'r albwm hwn, sylweddolais fod edafedd penodol yn rhedeg trwy fy iaith gerddorol fy hun. Gweadau sy'n eich cofleidio. Eiliadau syml o ganu ar y cyd sy'n meddu ar rym mawr – yn union fel yr emynau Cymreig enwog y tyfais i fyny gyda nhw yn y Cymoedd.”  

Mae i breathe ar gael nawr ar CD, drwy ffrydio ac i'w lawrlwytho gan Signum Classics. 

Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (2025) gan Kirsten McTernan Ffotograffiaeth

Read More