Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn cydsefyll â Chyngor Celfyddydau Cymru yn ei ymateb i'r Gyllideb Ddrafft a gyhoeddwyd ddoe. Rydym yn rhannu barn y Cyngor bod setliad stond i'r celfyddydau yn doriad mewn termau real. Mae'r gyllideb ddrafft yn rhoi cynnydd ariannol o 0.4% i Gyngor y Celfyddydau y flwyddyn nesaf a 0.3% y flwyddyn ganlynol, ymhell islaw chwyddiant.
Rydym yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i symud at gyllidebau aml-flwyddyn, rhywbeth y mae sefydliadau celfyddydol wedi galw amdano ers tro. Mae sicrwydd yn bwysig. Ond pobl ifanc fydd fwyaf yn teimlo effaith sicrwydd o doriad mewn termau real am ddwy flynedd yn olynol, wrth i bob rhan o'r system sy'n cefnogi eu creadigrwydd ddod dan bwysau ar yr un pryd: ysgolion, gwasanaethau awdurdodau lleol a'r cwmnïau cenedlaethol.
CCIC yw'r unig sefydliad sy'n rhedeg pob un o bum ensemble ieuenctid cenedlaethol Cymru: cerddorfa, côr, band pres, dawns a theatr. I lawer o bobl ifanc, yr ensembles hyn yw'r gris uchaf ar ysgol sy'n dechrau yn yr ystafell ddosbarth, mewn grwpiau cymunedol neu gyda'r Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol. Dyma lle daw talent o bob cwr o Gymru at ei gilydd, a lle mae llawer o artistiaid, athrawon ac arweinwyr diwylliannol y dyfodol yn dechrau ar eu taith.
Heb fuddsoddiad ychwanegol, mae sefydliadau fel ein un ni yn wynebu dewisiadau a fyddai wedi bod yn annychmygol ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae Cymru mewn perygl o golli darpariaeth ieuenctid genedlaethol sydd wedi cymryd degawdau i'w hadeiladu ac na ellid ei hailadeiladu'n hawdd. Unwaith y bydd cenhedlaeth o bobl ifanc yn colli'r cyfle, ni ellir dadwneud y golled honno.
“Roedd bod yn aelod o CCIC yn werthfawr iawn i fy iechyd meddwl… roedd preswyliad personol yn brofiad anhygoel, a oedd yn bendant wedi fy helpu i adennill llawer o’r hyder yr oeddwn wedi’i golli.”
- Cyfranogwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2026
Mae adroddiad cyllideb Llywodraeth Cymru yn dweud bod diwylliant yn darparu "manteision economaidd, cymdeithasol ac iechyd". Rydym yn cytuno. Mae cymryd rhan yn y celfyddydau yn magu hyder, ymdeimlad o berthyn a lles, a hynny ar adeg pan fo iechyd meddwl pobl ifanc yn destun pryder cenedlaethol. Mae ei gefnogi yn fuddsoddiad mewn atal, nid yn ychwanegiad dewisol.
Mae'r Gweinidog Cyllid wedi gadael cyllid heb ei ddyrannu i'w drafod â phleidiau eraill cyn y Gyllideb Derfynol ym mis Chwefror. Rydym yn annog pob plaid i fanteisio ar y cyfle hwnnw i gryfhau'r buddsoddiad yn y celfyddydau drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, ac i sicrhau bod mynediad pobl ifanc at gyfleoedd celfyddydol rhagorol o arwyddocâd cenedlaethol yn cael ei ddiogelu a'i ehangu.
Dywedodd Evan Dawson, Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru:
"Mae Cyngor y Celfyddydau wedi cyflwyno'r achos yn glir, ac rydym yn ei gefnogi. Mae pobl ifanc yng Nghymru yn haeddu'r un cyfle i ddarganfod a datblygu eu talent â phobl ifanc yn unrhyw fan arall yn y DU. Gyda Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon i Gymru yn cael ei datblygu ar hyn o bryd, mae cyfle gwirioneddol i gydnabod y celfyddydau ieuenctid fel rhan o seilwaith diwylliannol Cymru, a'u hariannu felly. Rydym yn barod i weithio gyda'r Llywodraeth, Cyngor y Celfyddydau a phob plaid yn y Senedd i wireddu hynny."