Y tu ôl i'r Llenni: Sut y daeth Cwmni Richards Bros â pherfformwyr ifanc i bob cwr o Gymru dros yr haf

Llun gan Ken Grant

Bob haf, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn dod â cherddorion, cantorion, actorion a dawnswyr ifanc o bob cwr o Gymru at ei gilydd cyn cyflwyno'r gwaith maen nhw'n ei greu gyda'i gilydd i gynulleidfaoedd ledled y wlad.  

I'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan, mae hynny'n golygu teithio o'u cartrefi i breswylfeydd ac yna mynd ar daith - o eglwys gadeiriol i neuadd gyngerdd ac o Fangor i Abertawe a Chasnewydd. Yr haf hwn, roedd y teithiau hynny'n bosib diolch i gefnogaeth hael Richards Bros, y cwmni bysiau yn Aberteifi sydd wedi cefnogi gweithgareddau haf CCIC ar daith ers dros 20 mlynedd. 

Mae mynd â grwpiau mawr o bobl ifanc o amgylch Cymru yn ddiogel, yn gyfforddus ac ar amser yn rhan fawr o lwyddiant yr haf. Mae'r bysiau’n dod yn rhan o'r profiad hefyd; maent yn cynnig cyfle i ymlacio rhwng ymarferion a pherfformiadau, lle i sgwrsio â ffrindiau ac, weithiau, mynd yn ôl i gasglu’r esgidiau cyngerdd neu'r offeryn y mae rhywun wedi'u gadael ar eu hôl ar ddamwain! 

Heb deithio ar fysiau dibynadwy, byddai dod â phobl ifanc o bob rhan o Gymru ynghyd yn llawer anoddach. Dyma sut y gall aelodau o Ynys Môn a Gwent ymarfer gyda'i gilydd, a sut y gall y gwaith maen nhw'n ei greu gyrraedd cynulleidfaoedd ym Mangor, Tyddewi, Abertawe a Chasnewydd. 

Dros yr haf, roedd bysiau Bros Richards ar daith ledled Cymru yn cefnogi rhaglen genedlaethol CCIC. Fe deithiodd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed, i berfformiadau yn Neuadd Prichard-Jones ym Mangor, Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Neuadd Brangwyn yn Abertawe. Teithiodd mwy na 90 o aelodau o Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru o'u preswyliad yng Nghaerfyrddin i berfformiadau yng Nghadeirlan Llanelwy, Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Neuadd Brangwyn, tra teithiodd Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i Fangor, Tyddewi a Glan yr Afon yng Nghasnewydd. Roedd aelodau Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru hefyd yn defnyddio bysiau Richards Bros i deithio o'u preswyliad yn Aberystwyth i Gaerdydd. 

Roedd yn golygu y gallai pobl ifanc deithio gyda'i gilydd yn gyfforddus rhwng ymarferion, preswyliadau a pherfformiadau, tra gallai cynulleidfaoedd mewn gwahanol rannau o Gymru brofi'r gwaith sy'n cael ei greu gan artistiaid ifanc CCIC. 

Dwedodd Matthew Jones OBE, Uwch Gynhyrchydd a Dirprwy Brif Weithredwr CCIC: 

"Gall symud ensembles mawr o bobl ifanc, hyd a lled Cymru ar gyfer taith ddwys ar amserlenni tynn fod yn straen. Mae cael partner teithio dibynadwy a sympathetig yn hanfodol a diolch byth rydym wedi cael y pleser o gydweithio â Richards Bros ers dros 20 mlynedd bellach. Mae eu gyrwyr bob amser yn broffesiynol ac mae ganddynt synnwyr digrifwch gwych a byddant bob amser yn mynd y tu hwnt i’r disgwyliad i sicrhau bod ein haelodau yn cyrraedd eu canolfan gyngerdd nesaf yn teimlo mor hamddenol â phosib. Maen nhw hefyd yn amyneddgar iawn pan ddaw'r alwad anochel i ddweud bod rhywun wedi gadael eu hesgidiau cyngerdd ar y bws!! Rydym yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth ychwanegol eleni." 

Dwedodd Gemma Richards, Rheolwr Trafnidiaeth Cynorthwyol Richard Bros: "Rydym yn falch iawn o gefnogi cerddorion ifanc Cymru ar raglenni teithiau'r haf ac mae wedi bod yn fraint o’r mwyaf gwasanaethu Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ers cymaint o flynyddoedd."

I CCIC, mae'r gefnogaeth gan Richards Bros yn golygu mwy na theithio o A i B. Mae'n helpu i wneud rhaglen genedlaethol yn bosib, gan ddod â phobl ifanc ynghyd o bob cwr o Gymru, rhoi cyfle iddynt berfformio yn rhai o leoliadau mwyaf arbennig y wlad a sicrhau bod cynulleidfaoedd ledled Cymru yn gallu profi'r gwaith maen nhw'n ei greu. 

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn ddiolchgar i Richards Bros am eu cefnogaeth hael wrth helpu pobl ifanc o bob cwr o Gymru i ddod at ei gilydd a rhannu eu gwaith gyda chynulleidfaoedd ledled y wlad. 

Next
Next

CYFWELIAD: Osian Meilir