Back to All Events

Momentwm - Llandudno


  • Llandudno Llandudno, Wales United Kingdom (map)

Mostyn, Llandudno 
Dydd Sadwrn, 10:45am–12:45pm 

Dyddiadau 2026: 19 a 26 Medi, 17 a 24 Hydref, 7 a 28 Tachwedd, a 5 ac 19 Rhagfyr.

Dyddiadau 2027: 9, 16, 23 a 30 Ionawr, a 6 Chwefror.

neu

Stiwdio Dawns Providero, Llandudno 
2:30pm–4:30pm 

Dyddiadau 2026: 3 a 10 Hydref, 14 Tachwedd a 12 Rhagfyr.


Sesiynau dawns wythnosol AM DDIM i bobl ifanc 12–22 oed ledled Gogledd Orllewin Cymru. 

Mae Momentwm yn rhaglen datblygu dawns gyffrous gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru sy’n cynnig sesiynau wythnosol dwy awr o hyd dan arweiniad artistiaid dawns proffesiynol ledled Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn

Drwy gydol y rhaglen, fe gewch gyfleoedd i edrych ar:

  • Techneg Dawns - datblygu eich sgiliau a hyfforddi ar draws ystod o arddulliau dawns gydag artistiaid proffesiynol profiadol.

  • Coreograffi a Chreadigrwydd - arbrofi gyda symudiad, rhannu syniadau a chreu eich gwaith eich hun.

  • Perfformio - datblygu'r sgiliau, yr hyder a'r presenoldeb llwyfan i berfformio, dan arweiniad gweithwyr proffesiynol y diwydiant.

  • Cydweithredu a Lles - cysylltu â phobl ifanc eraill, mynegi eich hun a datblygu gwaith tîm a meddwl creadigol.

P'un a ydych eisoes yn dawnsio'n rheolaidd neu'n edrych am gyfle i fynd â'ch hyfforddiant ymhellach, bydd Momentwm yn eich cefnogi i hyfforddi, archwilio, creu a thyfu.

Rydyn ni’n chwilio am bobl ifanc o bob rhan o Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn i gymryd rhan yn y rhaglen 18 wythnos hon sydd wedi’i hariannu’n llawn.


Sesiynau wedi dechrau erbyn hyn? Mae dal modd i chi ymuno! 

Os ydych chi’n 12–22 oed ac yn byw neu’n gallu teithio i Wynedd, Conwy neu Ynys Môn, byddem yn dwlu clywed gennych chi. 

Cwestiynau? Cysylltwch â nyaw@nyaw.org.uk

Previous
Previous
September 17

Momentwm - Caergybi