Back to All Events

DGIC ADFYW yn Casnewydd


Bydd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio gwaith newydd gan y coreograffydd o Gymru, Osian Meilir, fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Ballet Cymru yn 40. 

Mae Adfyw yn edrych ar y cysylltiad dwys rhwng diwylliant, natur, a’n hanghenion dynol greddfol i oroesi a pherthyn. Wedi’i wreiddio yn nhirwedd Cymru ac wedi’i ysbrydoli gan ficro-ecolegau newidiol y tir, mae’r gwaith yn dychmygu byd lle mae’r ffiniau rhwng amgylcheddau dynol a naturiol yn diddymu ac yn cydblethu. 

Mae Adfyw yn gofyn i ni ystyried y posibilrwydd o berthynas newydd, symbiotaidd gyda’r byd naturiol, wedi’i wreiddio mewn cysylltiad, cilyddiaeth ac adnewyddu. 

Mae’r gwaith yn rhan o BALLET CYMRU*40 Dawns Eithriadol a Grëwyd yng Nghasnewydd, noson yn dathlu dawns a grëwyd yng Nghymru. 

Previous
Previous
September 19

Momentwm - Llandudno