Canolfan Ucheldre, Caergybi
Dydd Iau, 5:00pm–7:00pm
Dyddiadau 2026: 17 a 24 Medi, 1, 8, 15 a 22 Hydref, 5, 12, 19 a 26 Tachwedd, a 3, 10 ac 17 Rhagfyr.
Dyddiadau 2027: 7, 14, 21 a 28 Ionawr a 4 Chwefror.
Sesiynau dawns wythnosol AM DDIM i bobl ifanc 12–22 oed ledled Gogledd Orllewin Cymru.
Mae Momentwm yn rhaglen datblygu dawns gyffrous gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru sy’n cynnig sesiynau wythnosol dwy awr o hyd dan arweiniad artistiaid dawns proffesiynol ledled Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn.
Drwy gydol y rhaglen, fe gewch gyfleoedd i edrych ar:
Techneg Dawns - datblygu eich sgiliau a hyfforddi ar draws ystod o arddulliau dawns gydag artistiaid proffesiynol profiadol.
Coreograffi a Chreadigrwydd - arbrofi gyda symudiad, rhannu syniadau a chreu eich gwaith eich hun.
Perfformio - datblygu'r sgiliau, yr hyder a'r presenoldeb llwyfan i berfformio, dan arweiniad gweithwyr proffesiynol y diwydiant.
Cydweithredu a Lles - cysylltu â phobl ifanc eraill, mynegi eich hun a datblygu gwaith tîm a meddwl creadigol.
P'un a ydych eisoes yn dawnsio'n rheolaidd neu'n edrych am gyfle i fynd â'ch hyfforddiant ymhellach, bydd Momentwm yn eich cefnogi i hyfforddi, archwilio, creu a thyfu.
Rydyn ni’n chwilio am bobl ifanc o bob rhan o Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn i gymryd rhan yn y rhaglen 18 wythnos hon sydd wedi’i hariannu’n llawn.
Sesiynau wedi dechrau erbyn hyn? Mae dal modd i chi ymuno!
Os ydych chi’n 12–22 oed ac yn byw neu’n gallu teithio i Wynedd, Conwy neu Ynys Môn, byddem yn dwlu clywed gennych chi.
Cwestiynau? Cysylltwch â nyaw@nyaw.org.uk.