Back to All Events

Momentwm - Bangor


  • Pontio Arts and Innovation Centre Deiniol Road Bangor, Wales, LL57 2TQ United Kingdom (map)

Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Bangor 
Dydd Mawrth, 4:30pm–6:30pm 

Dyddiadau 2026: 15, 22 a 29 Medi, 6, 13 a 20 Hydref, 3, 10 ac 17 Tachwedd a 1 ac 8 Rhagfyr.

Dyddiadau 2027: 5, 12, 19 a 26 Ionawr a 2 ac 16 Chwefror. 


Sesiynau dawns wythnosol AM DDIM i bobl ifanc 12–22 oed ledled Gogledd Orllewin Cymru. 

Mae Momentwm yn rhaglen datblygu dawns gyffrous gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru sy’n cynnig sesiynau wythnosol dwy awr o hyd dan arweiniad artistiaid dawns proffesiynol ledled Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn

Drwy gydol y rhaglen, fe gewch gyfleoedd i edrych ar:

  • Techneg Dawns - datblygu eich sgiliau a hyfforddi ar draws ystod o arddulliau dawns gydag artistiaid proffesiynol profiadol.

  • Coreograffi a Chreadigrwydd - arbrofi gyda symudiad, rhannu syniadau a chreu eich gwaith eich hun.

  • Perfformio - datblygu'r sgiliau, yr hyder a'r presenoldeb llwyfan i berfformio, dan arweiniad gweithwyr proffesiynol y diwydiant.

  • Cydweithredu a Lles - cysylltu â phobl ifanc eraill, mynegi eich hun a datblygu gwaith tîm a meddwl creadigol.

P'un a ydych eisoes yn dawnsio'n rheolaidd neu'n edrych am gyfle i fynd â'ch hyfforddiant ymhellach, bydd Momentwm yn eich cefnogi i hyfforddi, archwilio, creu a thyfu.

Rydyn ni’n chwilio am bobl ifanc o bob rhan o Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn i gymryd rhan yn y rhaglen 18 wythnos hon sydd wedi’i hariannu’n llawn.


Sesiynau wedi dechrau erbyn hyn? Mae dal modd i chi ymuno! 

Os ydych chi’n 12–22 oed ac yn byw neu’n gallu teithio i Wynedd, Conwy neu Ynys Môn, byddem yn dwlu clywed gennych chi. 

Cwestiynau? Cysylltwch â nyaw@nyaw.org.uk

Previous
Previous
August 27

Diwrnod Dawns i Fechgyn

Next
Next
September 17

Momentwm - Caergybi