NEWYDDION

National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Mae Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn dychwelyd i Gaerdydd ym mis Awst

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn dychwelyd yr haf hwnam gwrs preswyl 4 diwrnod, fydd yn cael ei gynnal 25–28 Awst yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn dychwelyd yr haf hwnam gwrs preswyl 4 diwrnod, fydd yn cael ei gynnal 25–28 Awst yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd

Yn agored i gerddorion ifanc 14+ mlwydd oed, mae'r cwrs preswyl yn cynnig wythnos llawn hwyl o chwarae, dysgu a gwneud cerddoriaeth gyda'i gilydd, gan weithio ochr yn ochr â thîm rhagorol o diwtoriaid gan gynnwys Huw Warren, Andrew Bain, Paula Gardiner, Tomos Williams a Joe Northwood

Nid yw'r cwrs yn addas ar gyfer dechreuwyr llwyr - fel canllaw, dylai cyfranogwyr fod o gwmpas safon Gradd 3 neu uwch - ond y peth pwysicaf yw angerdd am jazz a pharodrwydd i ddysgu, chwarae a chydweithio gyda cherddorion ifanc eraill o bob cwr o Gymru. 

Meddai Angharad Jenkins, Cynhyrchydd Gwerin a Jazz Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: "Allwn ni ddim aros i groesawu cerddorion jazz ifanc o bob cwr o Gymru i Gaerdydd yr haf hwn. Mae'n wythnos llawen, gydweithredol, ac yn gyfle gwych i chwarae ochr yn ochr â rhai o addysgwyr jazz mwyaf blaenllaw y wlad."

Meddai Pennaeth Astudiaethau Jazz yng Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru: “Mae’n wych i gyhoeddi dychweliad Cwrs Preswyl Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Rydym wrthi'n cynllunio cwrs arbennig gyda rhai o gerddorion jazz gorau Cymru, sy’n barod i ysbrydoli a meithrin y genhedlaeth nesaf o dalent jazz ifanc Cymraeg. Alla i ddim aros i ddechrau!”

Mae'r wythnos yn adeiladu tuag at digwyddiad rhannu yng nghyntedd CBCDC ar yPrynhawn Gwener, lle gwahoddir rhieni, ffrindiau a theulu i ymuno a dathlu cerddoriaeth yr wythnos cyn i bawb fynd adref. 

Mae’r cwrs preswyl 4 diwrnod yn costio £400, sy'n cynnwys dysgu, tair noson o lety a phrydau bwyd. Mae bwrsariaethau ar gael i'r rhai sydd angen cymorth ariannol, ac mae unrhyw un sy'n teithio o ymhellach i ffwrdd sydd angen llety ar nos Lun yn cael eu hannog i gysylltu â ni. 

Mae Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn bartneriaeth uchelgeisiol rhwng Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Gwasanaethau Cerdd Cenedlaethol Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, gan adeiladu rhaglen ddatblygu newydd i ysbrydoli a chefnogi cerddorion jazz ifanc ledled Cymru. 

Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly argymhellir cadw lle yn gynnar. 

I gadw eich lle, ewch i: https://www.ccic.org.uk/digwyddiadau/cwrs-preswyl-jazz-cenedlaethol-ieuenctid-cymru


Read More
National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Diwrnodau Darganfod Gwerin a Jazz i Gerddorion Ifanc ledled Cymru

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn falch iawn o gyhoeddi Diwrnodau Darganfod Gwerin a Jazz RHAD AC AM DDIM ledled Cymru ym mis Mawrth, gan gynnig y cyfle i gerddorion ifanc 14–22 mlwydd oed ddod o hyd i'w sain!

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn falch iawn o gyhoeddi Diwrnodau Darganfod Gwerin a Jazz RHAD AC AM DDIM ledled Cymru ym mis Mawrth, gan gynnig y cyfle i gerddorion ifanc 14–22 mlwydd oed ddod o hyd i'w sain! 

Wedi'i gynllunio ar gyfer cerddorion o Gradd 4 ac uwch, mae'r gweithdai undydd hyn yn darparu amgylchedd hwyliog, cynhwysol a chefnogol i brofi cerddoriaeth werin a jazz gyda cherddorion eraill.  

Dan arweiniad tiwtoriaid profiadol, bydd y Diwrnodau Darganfod yn cyflwyno'r cyfranogwyr i sylfeini gwerin a jazz trwy weithdai ymarferol, chwarae grŵp ac archwilio creadigol, gan orffen y diwrnod gyda sesiwn rhannu anffurfiol i rieni a gofalwyr. 

Dywedodd Cynhyrchydd Gwerin a Jazz Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Angharad Jenkins: “Mae'r Diwrnodau Darganfod hyn yn ymwneud â throchi eich traed i mewn i genre newydd a darganfod ffyrdd newydd o wneud cerddoriaeth gydag eraill. Rydym ni’n croesawu cerddorion clasurol ifanc sy'n chwilfrydig i archwilio genres newydd, yn ogystal â chwaraewyr traddodiadol talentog o bob cefndir a diwylliant nad ydynt efallai wedi dilyn llwybr cerddoriaeth glasurol. Mae gwerin a jazz yn arddulliau cerddoriaeth hynod groesawgar, creadigol, waeth beth fo'ch cefndir cerddorol neu brofiad blaenorol. Dewch draw i roi cynnig ar rywbeth newydd!"  

Hoffai Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru annog cerddorion o bob cefndir cerddoriaeth draddodiadol i gymryd rhan yn y Diwrnodau Darganfod ym mis Mawrth – p'un a yw eich cefndir yn Werin Cymreig, neu unrhyw draddodiad cerddoriaeth byd arall, bydd y sesiynau hyn yn hwyl i bawb! 

Cyflwynir y rhaglen gan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a cefnogir yn strategol gan Cyngor Celfyddydau Cymru, gan gryfhau llwybrau i bobl ifanc yng Nghymru ddarganfod cyfleoedd datblygu yn eu teithiau cerddorol. 
 
Mae lleoedd yn rhad ac am ddim ond yn gyfyngedig, felly mae angen cadw lle ymlaen llaw.  

Am ddyddiadau a lleoliadau, ac i gofrestru, ewch i: www.ccic.org.uk/digwyddiadur

 

Read More