Back to All Events

Cwrs Preswyl Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru


  • Royal Welsh College of Music and Drama 10 North Road Cardiff, Wales, CF10 3ER United Kingdom (map)

Mae Celfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd yr haf yma gyda Chwrs Preswyl Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, rhwng 25 a 28 Awst yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd. 

Ymunwch â ni am wythnos llawn hwyl o chwarae, dysgu a chreu cerddoriaeth gyda’n gilydd! 

Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda thîm ardderchog o diwtoriaid, gan gynnwys Huw Warren, Andrew Bain, Paula Gardiner, Tomos Williams and Joe Northwood

Mae’r Cwrs Preswyl yn agored i bobl ifanc 14 oed a hŷn. Nid yw’n addas ar gyfer dechreuwyr llwyr — fel canllaw, dylai cyfranogwyr fod tua Gradd 3 neu’n uwch — ond y peth pwysicaf yw eich bod yn angerddol am jazz ac yn barod i ddysgu, chwarae a chydweithio. 

Bydd y cofrestru yn agor am 9:30yb ddydd Mawrth 25 Awst, gyda’r gwersi’n dechrau am 10:00yb.  

Bydd y cwrs yn dod i ben brynhawn dydd Gwener 28ain Awst gyda sesiwn rhannu yng nghyntedd CBCDC. Mae croeso cynnes i rhieni, ffrindiau a theuluoedd i ymuno â ni i ddathlu’r gwaith cerddorol a wnaed dros yr wythnos cyn i bawb fynd adref.

Pris cwrs 4-diarnod yw £400. Mae’r pris yn cynnwys ffi hyfforddiant,  llety am 3 noson a bwyd. Bydd bwrsarïau ar gael ar gyfer i rheiny  sydd angen cymorth ariannol. Ac os ydych yn teithio o bell ac angen llety ychwanegol ar y nos Lun, cysylltwch yn uniongyrchol gyda ni. 

Gobeithio gweld chi yng Nghaerdydd haf yma! 

Diwrnod cau ar gyfer cofrestru yw Dydd Mawrth 4 Awst.

Previous
Previous
August 23

Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn Fyw yng Nghasnewydd