Creadigrwydd fel Amddiffyniad: Pam mae Celfyddydau Ieuenctid yn Bwysig ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd

Thema fyd-eang Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni yw Profiadau bywyd yn cael eu clywed: lleisiau go iawn, newid go iawn. Rydyn ni, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, yn gweld hyn bob tro y mae person ifanc yn dod i mewn i ystafell ymarfer, neuadd gymunedol neu eglwys gadeiriol ac yn cael ei gymryd o ddifri fel artist, ac fel person. 

Plentyndod yng Nghymru  

Mae'r angen yn parhau i fod yn ddwys. Mae Asesiad o Anghenion Iechyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd yn 2026 yn amcangyfrif bod gan 135,500 o blant a phobl ifanc rhwng 8 a 25 oed yng Nghymru gyflwr iechyd meddwl gyda diagnosis (mae hynny'n oddeutu un o bob chwe phlentyn 8–10 oed, un o bob pum plentyn 11–16 oed, ac un o bob pedwar person ifanc 17–24 oed). Anawsterau emosiynol fel gorbryder sydd wedi cynyddu fwyaf sydyn. Mae merched a phobl ifanc o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn cael eu heffeithio'n anghyfartal. 

Canfu astudiaeth arall gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gyhoeddwyd yr hydref hwn, fod cwsg gwael, bwlio, pwysau academaidd, delwedd negyddol o'r corff a diffyg cefnogaeth gan athrawon neu ffrindiau i gyd yn gysylltiedig ag iechyd meddwl gwaeth a lles is. Mae pobl ifanc yn disgrifio gwasanaethau sy'n rhy aml yn teimlo'n rhy gyffredinol a heb eu teilwra ar gyfer yr unigolyn, yn enwedig pan fo anghenion iechyd meddwl yn gorgyffwrdd â niwroamrywiaeth. 

Ni fydd y canfyddiadau hyn yn synnu'r athrawon, y gweithwyr ieuenctid a’r rhieni rydyn ni'n cwrdd â nhw ledled Cymru. Yr hyn a ddylai gael ei glywed yn glir eleni, yw'r canfyddiad arall yn yr un Asesiad: sef, ochr yn ochr â pherthnasoedd cynnar, cysylltu â’r gymuned ac ymarfer corff, fe enwir cyfleoedd ar gyfer creadigrwydd fel ffactor amddiffynnol. 

Y Dystiolaeth 

Canfu adolygiad Sefydliad Iechyd y Byd fwy na 3,000 o astudiaethau fod cymryd rhan yn y celfyddydau (cerddoriaeth, drama, dawns, celfyddydau gweledol) yn lleihau iselder, gorbryder a straen tra'n cryfhau hunan-barch a chysylltiad cymdeithasol. Mae ymchwil gan Grŵp Ymchwil Bioymddygiad Cymdeithasol UCL yn dangos bod pobl ifanc sy'n cymryd rhan yn rheolaidd yn y celfyddydau yn wynebu risg is o iselder yn ystod eu harddegau, ac mae ganddynt hunan-barch uwch sy'n parhau wrth iddynt dyfu’n oedolion. 

Yn dilyn y cyfnod clo fe ddywedodd aelod preswyl CCIC yn glir: "Roedd bod yn aelod o CCIC yn werthfawr iawn i'm hiechyd meddwl... Roedd dychwelyd i breswyliad ar leoliad yn brofiad anhygoel, ac yn sicr fe wnaeth fy helpu i adennill llawer o'r hyder yr oeddwn wedi'i golli." 

Mae hwnna’n brofiad byw. Mae hefyd yn ataliad.  

Mae atal o werth economaidd yn ogystal â gwerth dynol 

Mae iechyd meddwl gwael eisoes yn costio’n ddrud. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi, hyd yn oed cyn y pandemig, fod problemau iechyd meddwl yn £4.8 biliwn y flwyddyn i economi Cymru - ac mae'r costau hynny wedi cynyddu ers hynny. Yr opsiwn drutaf un yw aros nes bod pobl ifanc yn cyrraedd argyfwng. 

Mae'r dewis arall yn dechrau cael ei feintioli. Mae ymchwil annibynnol dan arweiniad economegwyr iechyd ym Mhrifysgol Bangor, a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn amcangyfrif bod ymgysylltu â'r celfyddydau yn darparu o leiaf £588 miliwn y flwyddyn mewn manteision iechyd, lles a chynhyrchiant ledled Cymru. Mae buddsoddi mewn sefydliadau aml-flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynhyrchu enillion o £11.08 am bob £1 mewn termau iechyd, lles a chynhyrchiant. 

Y ffigwr ieuenctid yw'r un sydd fwyaf diddorol. Mae'r un dadansoddiad yn canfod pe bai rhaglenni celfyddydol yn cyrraedd dim ond 5% o bobl ifanc ar lwybrau iechyd meddwl y GIG yng Nghymru (gan gynnwys y rhai a gyfeiriwyd at CAMHS) y gallent gynhyrchu tua £9.5 miliwn y flwyddyn mewn buddion iechyd meddwl a lles. Mae'r amcangyfrif hwnnw'n fwriadol geidwadol, ac wedi'i fodelu ar raglenni creadigol a werthuswyd eisoes sydd yn rhedeg yng Nghymru yn barod. 

Dyma'r achos atal wedi’i gyflwyno mewn niferoedd. Nid yw creadigrwydd yn disodli gofal clinigol - ond fe all leihau nifer y bobl ifanc sydd angen cymorth iechyd meddwl - ac mae'n dychwelyd gwerth a llawenydd i economi Cymru ar yr un pryd. Dylid cynllunio cyllidebau diwylliant, addysg ac iechyd ar y cyd am y rheswm hwnnw. Mae punt a wariwyd yn gynnar mewn ystafell ymarfer yn werth mwy na phunt a wariwyd yn hwyr pan mae rhywun ar restr aros. 

Dyfodol Creadigol: mynd â'r gwaith i'r lle mae ei angen fwyaf 

Y llynedd fe wnaethom ysgrifennu am Fwlch y Celfyddydau Ieuenctid - y mannau hynny yng Nghymru lle mae’r angen uchaf o ran cymorth iechyd meddwl a lle mae’r cyfleoedd creadigol yn brin. Eleni rydyn ni wedi bod yn gweithio o fewn y bwlch hwnnw. 

Cefnogwyd ein prosiect Dyfodol Creadigol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac fe’i hariannwyd gan Grant Arloesi Tlodi Plant Llywodraeth Cymru. Darparodd weithdai wythnosol am ddim i bobl ifanc 10–18 oed mewn chwe chymuned ar draws Torfaen a Blaenau Gwent. Gyda phartneriaid yn cynnwys Ballet Cymru a Cherdd Gwent, fe wnaeth y cyfranogwyr ysgrifennu a chynhyrchu caneuon, datblygu coreograffi, ac ymarfer y sgiliau sy’n hanfodol i unrhyw berfformiad: hyder, gwaith tîm ac arwain. Yr Asesiad Effaith Iechyd a gynhaliwyd gennym oedd y tro cyntaf i hyn gael ei wneud ar brosiect celfyddydol yng Nghymru erioed.

Beth mae CCIC yn ei wneud 

Bob blwyddyn, mae cannoedd o bobl ifanc o bob awdurdod lleol yng Nghymru yn ymuno â'r ensembles Ieuenctid Cenedlaethol - y Gerddorfa, y Côr, y Band Pres, y Theatr a’r ensemble Dawns. Maent yn ymarfer yn ddwys, yn perfformio ar lwyfannau proffesiynol (yr haf hwn ym Mangor, Llanelwy, Tyddewi, Abertawe a Chasnewydd) ac yn cloi’r cyfan gyda ffrindiau newydd a chyfeillgarwch parhaol. Mae rhaglenni fel Momentwm yn ymestyn y cynnig hwnnw'n lleol, gan gynnig sesiynau dawns wythnosol am ddim ar draws Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn. Rydyn ni hefyd yn cyflwyno amrywiaeth o raglenni llwybrau, megis Sgiliau Côr, Llwybr Llinynnau, Diwrnodau Darganfod Cerddoriaeth Werin a Jazz.  

Mae mynediad yn rhan o'r gwaith iechyd meddwl. Eleni, fe dderbyniodd 61% o aelodau ein hensembles - 166 o'r 272 o bobl ifanc - gymorth bwrsariaeth. Derbyniodd 95 person ifanc fwrsariaeth lawn. Ni ddylai cost byth fod yn rheswm dros atal person ifanc rhag bod yn yr ystafell y maent yn teimlo eu bod yn perthyn iddi. 

Nid moethusrwydd yw'r celfyddydau. I lawer o bobl ifanc maent yn gwbl hanfodol: yn ffynhonnell hyder, yn lle i berthyn, ac yn ffordd o gael eu clywed cyn i argyfwng daro. 

Buddsoddi mewn Cenedlaethau'r Dyfodol 

Mae pobl ifanc yng Nghymru eisoes yn dweud wrthym beth sy'n eu helpu: bod gyda chyfoedion sydd eisiau'r un pethau â nhw; gweithio gydag oedolion sy'n disgwyl iddyn nhw fod yn fedrus, a chael rhywle i fynd iddo yn rheolaidd nad yw'n glinig nac yn ystafell ddosbarth. 

Nid yw hynny'n cymryd lle CAMHS, cwnsela neu ddull system gyfan NEST/NYTH. Mae'n rhan o'r darlun ehangach. Os yw creadigrwydd yn ffactor amddiffynnol, yna mae celfyddydau ieuenctid yn seilwaith iechyd cyhoeddus. Mae'r dystiolaeth economaidd bellach yn cyfateb i'r hyn y mae pobl ifanc wedi bod yn ei ddweud wrthym ers blynyddoedd lawer. Dylid eu hariannu, eu cynllunio a'u mesur fel y cyfryw - ar draws Addysg, Diwylliant ac Iechyd - oherwydd bod atal yn rhatach, yn fwy caredig ac yn fwy effeithiol nag argyfwng. 

Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, byddwn yn parhau i eirioli dros bwysigrwydd celfyddydau ieuenctid. Mae pob person ifanc yng Nghymru yn haeddu'r cyfle i greu, cysylltu a ffynnu. 


Evan Dawson, Prif Swyddog Gweithredol, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 

Next
Next

Bwrsariaethau yn Agor y Drws: Y nifer uchaf erioed o bobl ifanc ledled Cymru yn ymuno yn yr ensembles cenedlaethol dros yr haf