Bwrsariaethau yn Agor y Drws: Y nifer uchaf erioed o bobl ifanc ledled Cymru yn ymuno yn yr ensembles cenedlaethol dros yr haf

CCIC 2026

Unwaith eto eleni, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi dweud ‘ie’ wrth gerddorion, cantorion, actorion a dawnswyr ifanc na fyddai fel arall wedi gallu cymryd rhan yn un o’r ensembles. 

Gall teithio, ffioedd preswyliad ac amser i ffwrdd o gartref olygu bod ensemble cenedlaethol allan o gyrraedd i rai, hyd yn oed ar ôl clyweliad llwyddiannus. Mae cynllun bwrsariaeth CCIC yn bodoli er mwyn sicrhau nad incwm aelwydydd sy'n penderfynu pwy sy'n cael hyfforddi a pherfformio ar y lefel uchaf. 

Yn 2026/27, dyfarnwyd y swm uchaf erioed o £142,514 mewn cymorth bwrsariaeth.  Derbyniodd 230 o'r 355 aelod (65%) gymorth. Roedd hynny i fyny o £81,627 y flwyddyn flaenorol, a ddyfarnwyd i 166 o aelodau o gyfanswm o 272. 

Gall cymorth dalu hyd at 100% o ffioedd preswyliad. Gall y rhai sydd fwyaf mewn angen hefyd dderbyn cymorth gyda chostau teithio a chostau eraill. Mae hepgor ffioedd awtomatig yn parhau i fod ar waith i bobl ifanc mewn aelwydydd sy'n derbyn Credyd Cynhwysol, Prydau Ysgol am ddim neu Grant Dysgu llawn Llywodraeth Cymru, ac ar gyfer gofalwyr ifanc, aelodau â phrofiad ofod mewn gofal a'r rhai sy'n ceisio lloches. Mae ffioedd clyweliad hefyd yn cael eu hepgor yn llawn lle byddent yn rhwystr. 

"O ran y fwrsariaeth fe wnaeth wahaniaeth enfawr i'm profiad cyffredinol o fod yn aelod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru am y tro cyntaf. A bod yn onest, pan ges i fy nghlyweliad, doeddwn i ddim yn gwybod digon am y costau a faint y byddai'n rhaid i ni ei dalu i fod yn rhan o'r rhaglen. Fodd bynnag, unwaith y des i wybod am y fwrsariaeth codwyd pwysau mawr oddi ar fy ysgwyddau." 
- Aelod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 

Dywedodd rhiant aelod o Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: "Roedd y broses fwrsariaeth yn syml i wneud cais amdani ac yn cael ei phrosesu'n brydlon."  

Dim ond oherwydd ein cyllidwyr y mae'r gwaith hwn yn bosib. 

Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Leverhulme. Mae ei grant ‘Art Scholarship’ wedi caniatáu i CCIC dyfu'r rhaglen fwrsariaeth, gan gynnwys cymorth tuag at 100% o’r  ffioedd i aelodau iau o aelwydydd incwm is a chymorth ychwanegol gyda theithio a threuliau. Mae bwrsariaeth Leverhulme ochr yn ochr â dyfarniadau asesu incwm CCIC ei hun - nid oes rhaid i aelodau ddewis pa gynllun i wneud cais amdano. 

Rydyn ni hefyd yn diolch i Sefydliad Garfield Weston am ei ddyfarniad o gefnogaeth graidd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r grant hwnnw'n helpu i ddiogelu pum ensemble ieuenctid cenedlaethol Cymru a gwaith ehangach CCIC ledled y wlad. 

Mae'r gronfa fwrsariaeth hefyd yn cael ei chefnogi bob blwyddyn gan Gronfa Bwrsariaeth Neil a Mary Ellen Webber, Ymddiriedolaeth Bluefields, Cyfeillion Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, ac unigolion sy'n rhoi yn rheolaidd.

Mae nod CCIC yn parhau i fod yn syml: ni ddylai unrhyw berson ifanc sy'n cael cynnig lle orfod ei wrthod am resymau ariannol. Talent, ymrwymiad a haelioni yn unig ddylai fod o bwys. 

Os hoffech helpu person ifanc arall i gymryd eu lle mewn ensemble, ewch I ccic.org.uk/cyfrannu neu cysylltwch â nyaw@nyaw.org.uk

Next
Next

Perfformiwch dros Gymru: Clyweliadau ar agor ar gyfer ensembles cerddoriaeth ieuenctid Cymru 2027