NEWYDDION
CCIC a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn Partneru ar Raglen Llwybrau Proffesiynol Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Yn ystod haf 2026, cymerodd 25 o aelodau Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2026 ran mewn rhaglen sgiliau ar y llwyfan ac oddi arno i berfformwyr a gwneuthurwyr theatr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC), Caerdydd.
Yn ystod haf 2026, cymerodd 25 o aelodau Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2026 ran mewn rhaglen sgiliau ar y llwyfan ac oddi arno i berfformwyr a gwneuthurwyr theatr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC), Caerdydd.
Llwybrau Proffesiynol yw rhaglen hyfforddi a datblygu breswyl hirsefydlog ThCIC. Mae’n canolbwyntio ar sgiliau perfformio ymarferol, gan agor meysydd newydd ym myd creu theatr a chyfleoedd proffesiynol i bobl ifanc 16 – 22 oed bob blwyddyn.
Eleni, cafodd yr aelodau fudd o sesiynau pwrpasol dan arweiniad penaethiaid adrannau CBCDC yn yr adrannau Celfyddydau Cynhyrchu, Drama a Theatr Gerddorol (a nifer ohonynt yn gyn-aelodau ThCIC eu hunain). Roedd y sesiynau’n cynnwys gwisgoedd, rheoli llwyfan a chreu propiau, yn ogystal â gweithdai symud ac actio drwy lais.
Cafodd Llwybrau Proffesiynol 2026 gefnogaeth hael hefyd gan Theatr Cymru, drwy weithdai ysgrifennu. Roedd tîm o arbenigwyr llawrydd hefyd yn arwain gweithdai byrfyfyrio a hyfforddiant hunan-recordio, ynghyd â sesiynau llais, symud a lles.
“Dyma’r profiad mwyaf anhygoel hyfryd erioed – roedd yn agoriad llygad, ac mae wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau cymdeithasol yn ogystal â fy sgiliau fel actor.” – Aelod ThCIC 2026, Llwybrau Proffesiynol
“Ysbrydoledig, addysgiadol, des i oddi yno gyda gwell dealltwriaeth o ystod ehangach y diwydiant.” – Aelod ThCIC 2026, Llwybrau Proffesiynol
Cynhaliwyd y rhaglen ochr yn ochr ag ensemble Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, a oedd yn paratoi ar gyfer eu sioe yn rhannu gwaith ar y gweill, a werthodd bob tocyn, o gynhyrchiad blaenllaw ThCIC 2027 gan Bethan Marlow. Cafodd cyfranogwyr Llwybrau Proffesiynol gyfle i weithio gyda Bethan yn ystod sesiynau ysgrifennu a theatr gair-am-air, a chwaraeodd yr aelodau ran allweddol yn y gwaith parhaus o brofi a datblygu cynhyrchiad 2027.
“Mae’r berthynas rhwng ThCIC a CBCDC yn mynd yn ôl yn bell – cynhaliwyd preswyliad cyntaf erioed ThCIC yn CBCDC yn 1976, felly roedd yn teimlo’n gwbl addas dychwelyd yn y flwyddyn pen-blwydd arwyddocaol hon. Rwy’n hynod ddiolchgar i holl dimau CBCDC am fod mor hael gyda’u harbenigedd a’u cyfleusterau, ac am yr ymrwymiad y maent wedi’i ddangos i sicrhau bod pobl ifanc o bob cefndir yn cael mynediad at hyfforddiant o safon uchel yma yng Nghymru. Un o uchafbwyntiau personol y cyfnod oedd cael adborth mor wych gan arweinwyr y gweithdai am allu a brwdfrydedd y bobl ifanc dalentog hyn drwy gydol y preswyliad.”
- Megan Childs, Cynhyrchydd a Phennaeth Theatr CCIC“Mae fy ngyrfa yng Ngholeg Brenhinol Cymru wedi bod yn agos iawn at ThCIC ers dros bedwar degawd, yn gyntaf fel aelod perfformio, ac yna fel cynllunydd proffesiynol. Ymunais â’r Coleg fel aelod o staff yn 1992, a dod yn Gyfarwyddwr yn ddiweddarach, ac mae meithrin y berthynas hon wedi parhau’n bwysig i mi.
Mae’r llwybr o ThCIC i’r Coleg, ac ymlaen i’r diwydiannau creadigol ac arweinyddiaeth addysgol, wedi creu cyfleoedd i genedlaethau o artistiaid ac ymarferwyr. Mae cryfhau’r cysylltiad hwnnw unwaith eto’n teimlo’n arbennig o arwyddocaol. Mae’n nodi dechrau cyfnod newydd lle gall perfformwyr, cynllunwyr, technegwyr, ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr uchelgeisiol rannu profiadau, datblygu eu sgiliau a lansio eu dyfodol gyda chyfuniad o arweiniad, arbenigedd a chefnogaeth y ddau sefydliad.”
- Sean Crowley, Cyfarwyddwr Cynllunio CBCDC
Mae sicrhau bod y cyfleoedd hyn ar gael i gynifer o bobl ifanc â phosibl yn rhan bwysig o waith Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Mae cymorth bwrsari yn helpu i gael gwared ar rwystrau ariannol rhag cymryd rhan mewn rhaglenni fel Llwybrau Proffesiynol, ac mae ein hymgyrch Chwarae Dy Ran yn un o’r ffyrdd rydyn ni’n codi arian i ddarparu’r gefnogaeth hon. Mae hyn yn golygu y gall mwy o bobl ifanc elwa ar y mewnwelediad proffesiynol, y sgiliau a’r profiad y mae’r rhaglen yn eu cynnig. Cafodd cyfanswm o 83% o aelodau ThCIC 2026 fwrsari llawn neu rannol i fynychu’r cwrs.
“Fe wnaeth y bwrsari fy helpu i gymryd rhan mewn rhywbeth rwy’n angerddol amdano, a’m helpu i sylweddoli pa lwybr y dylwn ei ddilyn.”
– Derbynnydd bwrsari ac aelod o Lwybrau Proffesiynol ThCIC 2026
Cymerwch gip yma i weld beth wnaethon ni dros yr haf.
Llun gan Kirsten McTernan