NEWYDDION

Charlotte Moult Charlotte Moult

Gwobr David Jackson gyntaf yn cael ei chyflwyno yng nghyngerdd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Cyflwynwyd Gwobr David Jackson gyntaf yng nghyngerdd olaf taith 2026 Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar 21 Awst, yn Neuadd Brangwyn, Abertawe.

Cyflwynwyd Gwobr David Jackson gyntaf yng nghyngerdd olaf taith 2026 Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar 21 Awst, yn Neuadd Brangwyn, Abertawe. 

Crëwyd y wobr er cof am David Jackson, Cadeirydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru o fis Hydref 2017 hyd haf 2025, pan fu’n rhaid iddo gamu i lawr oherwydd salwch. Bu farw ar 17 Hydref 2025. 

Yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd, arweiniodd David y sefydliad drwy ei flynyddoedd ffurfiannol. Canolbwyntiodd i ddechrau ar arweinyddiaeth y pum Ensemble Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, cyn helpu i ehangu cylch gwaith CCIC i gynnwys celfyddydau eraill. Eiriolodd dros greadigrwydd cyfunol o ansawdd uchel i bob person ifanc, ac roedd yn benderfynol na fyddai neb yn cael ei adael ar ôl, yn enwedig oherwydd anabledd neu galedi ariannol. Mae miloedd o bobl ifanc ledled Cymru wedi cymryd rhan ym mhrosiectau, ensembles a pherfformiadau CCIC o ganlyniad. 

Cyn ei farwolaeth, cytunodd CCIC â David y byddai gwobr flynyddol newydd yn cael ei sefydlu yn ei enw i ddathlu’r canwr mwyaf addawol yng Nghôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Ar ei awgrym ef, mae’r wobr yn cydnabod y canwr mwyaf “addawol a hael” y flwyddyn, fel y’i dewisir gan arweinydd a thiwtoriaid y côr. 

Mae’r enillydd yn derbyn gwobr ariannol a’r cyfle i roi recital unigol yng nghyngerdd olaf y côr y flwyddyn nesaf. 

Cyflwynwyd y wobr gyntaf eleni i James Oakley. 

Llun gan Kirsten McTernan

Dyweddod arweinydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Tim Rhys-Evans: “Dwi wrth fy modd bod Gwobr David Jackson eleni wedi mynd i James Oakley, canwr côr sydd nid yn unig wedi bod yn aelod ffyddlon ac ymroddedig o CCIC ers blynyddoedd lawer, ond sydd hefyd yn ymgorffori’r haelioni a oedd yn rhan mor ganolog o bwy oedd David, a pham y dewisodd y gair penodol hwnnw ar gyfer meini prawf y wobr sy’n dwyn ei enw. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf o’i gyfnod gyda’r côr, mae James wedi bod yn Arweinydd Adran y Tenoriaid yn y Nash, ac mae bob amser yn gefn i’w gyd-denoriaid. Mae’n wynebu pob her â phositifrwydd a gwên fawr... rhywbeth dwi’n gwybod y bydd yn rhinwedd bwysig yn ei yrfa ddewisol yn Theatr Gerdd. Mae James yn angerddol iawn dros ganu ac mae ganddo lais cain, ynghyd â sensitifrwydd wrth berfformio ym maes Theatr Gerdd. Mae’n flin gen i fod amser James yn Nash wedi dod i ben, ond dwi’n ddiolchgar iawn am bopeth y mae wedi’i gyfrannu at y côr. Dymunaf bob llwyddiant iddo ar gyfer y dyfodol." 

Bwriad Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yw i Wobr David Jackson ddod yn uchafbwynt blynyddol yn nhymor Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Os hoffech roi rhodd i gefnogi’r gwaith hwn, ewch i https://www.ccic.org.uk/cyfrannu.

 

Read More