NEWYDDION

National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn Mynd i Ŵyl Ymylol Caeredin ym Mis Awst Eleni

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) yn perfformio yng Ngŵyl Ymylol Caeredin dros yr haf, gan ymuno â Chwmni Dawns Cenedlaethol Ieuenctid yr Alban (NYDCS) ar gyfer bil dwbl beiddgar o ddawns gyfoes. 

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) yn perfformio yng Ngŵyl Ymylol Caeredin dros yr haf, gan ymuno â Chwmni Dawns Cenedlaethol Ieuenctid yr Alban (NYDCS) ar gyfer bil dwbl beiddgar o ddawns gyfoes. 

Cynhelir Celtic Collective, a gyflwynir gan YDance a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, yn Assembly @ Dance Base rhwng 7 a 16 Awst 2026, gyda pherfformiadau dyddiol am 4:05pm.

Ar ôl dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed yn 2025, mae perfformio yng ngŵyl gelfyddydau fwyaf y byd yn garreg filltir go arbennig i DGIC, gan fynd ag egni creadigol rhai o ddawnswyr ifanc mwyaf addawol Cymru i gynulleidfa ryngwladol. 

Bydd DGIC yn perfformio Momentum – Undone, gan y Coreograffydd Marcus Jarrell Willis gan ddefnyddio casgliad pwerus o gerddoriaeth sy’n cynnwys darnau gan James Blake, Jacob Collier, Tchaikovsky, ac Ólafur Arnalds. Mae'r darn yn ein hatgoffa nad yw'r daith byth wedi'i gorffen mewn gwirionedd, gan ofyn y cwestiwn "Unwaith y byddwn yn dod o hyd i gyfeiriad go iawn, beth sy'n digwydd nesaf?" 

Dywedodd Jamie Jenkins, Pennaeth Dawns Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: "Mae Momentum – Undone yn fyfyrdod pwerus ar wytnwch, trawsnewid, a symudiad cyson datblygu. Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn parhau i greu lle i artistiaid ifanc archwilio syniadau uchelgeisiol gyda gonestrwydd, dewrder ac egni anhygoel." 

"Fel dawnsiwr ifanc o Gymru, mae cael y cyfle i berfformio yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn anrhydedd anhygoel. Mae'n gyfle i rannu fy angerdd ar y llwyfan, dysgu gan gymaint o berfformwyr talentog, a chynrychioli Cymru gyda balchder. Rwy'n edrych ymlaen yn arw at wneud y mwyaf o bob eiliad o'r profiad anhygoel yma." - Dawnsiwr DGIC 

Gan rannu'r llwyfan, bydd NYDCS yn perfformio Afterglow, wedi’i goreograffu gan Tess Letham - gwaith sy'n symud trwy chwilio, methu, ac yn y pen draw ildio i lawenydd cyfunol. Gyda'i gilydd, mae'r ddau ddarn yn dathlu'r gorau o'r hyn sydd gan y genhedlaeth nesaf o ddawnswyr o Gymru a'r Alban i'w gynnig. 

Meddai Cyfarwyddwr YDance, Anna Kendrick: "Mae YDance wrth eu boddau’n cyflwyno cydweithfa Geltaidd yng Ngŵyl Ymylol 2026. Mae'r cydweithrediad hwn rhwng Cwmni Dawns Cenedlaethol Ieuenctid yr Alban a Chwmni Dawns Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn dathlu cyfuno dau ddylanwad diwylliannol gwahanol, a chreu bil dwbl pwerus, arloesol. Rydw i’n edrych ymlaen yn arw at weld y perfformwyr ifanc yma’n dod at ei gilydd i wthio’u hunain, rhannu technegau, datblygu eu crefft  ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddawnswyr cyfoes."

Rydym yn gobeithio y byddwch yn ymuno â ni yng Nghaeredin ym mis Awst ac yn profi angerdd, manylrwydd ac uchelgais dawnswyr ifanc cyffrous Cymru. 

Mae tocynnau ar gael o £14.25 i fyny ac argymhellir y sioe 60 munud o hyd i blant 12 oed a hŷn. 

Mae tocynnau ar gael ar gwefan Gŵyl Ymylol Caeredin. 

Read More