NEWYDDION
CYFWELIAD: Osian Meilir
Yn cyflwyno Coreograffydd Gwadd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2026, Osian Meilir.
Cyflwyno Coreograffydd Gwadd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2026, Osian Meilir.
Kirsten McTernan Photography
1. Beth mae’n ei olygu i ti’n bersonol i ddychwelyd i DGIC, y tro hwn fel coreograffydd?
Mae’n golygu llawer iawn imi’n bersonol oherwydd mae’n wych gallu rhoi’n ôl i sefydliad roddodd gymaint imi yn y gorffennol. Ond yr hyn sy’n llawer pwysicach na hynny yw’r hyn y mae’r sefydliad hwn yn ei gynnig i bobl ifanc yn y celfyddydau creadigol yng Nghymru heddiw ac mae bod yn rhan o hynny, i feithrin a chefnogi cyfleoedd ar gyfer dawnswyr ifanc yng Nghymru nawr, yn bwysig iawn imi. Mae’n wych hefyd gallu arddangos i’r dawnswyr y gallwch chi gael gyrfa mewn dawns yng Nghymru ac y gall rhywun oedd unwaith yn union yr un sefyllfa â nhw, ddychwelyd fel coreograffydd gwadd wedi creu gyrfa yn y diwydiant hwnnw.
2. Sut mae dy berthynas gyda DGIC wedi esblygu ers dy gyfnod fel dawnsiwr yma?
Ers bod yn rhan o’r cwmni, dwi wedi cadw mewn cysylltiad dros y blynyddoedd ac maen nhw wastad wedi bod yn gefnogol o fy nawnsio, fy natblygiad a’r hyn yr ydw i wedi ei gyflawni yn fy ngyrfa hyd yma. Nawr, rwyf wedi dychwelyd fel coreograffydd gwadd, sy’n anrhydedd, ac rwy’n gyffrous iawn ynghylch hynny.
3. Wnes di erioed ddychmygu dy hun yn y rôl hon pan oeddet ti’n perfformio gyda’r cwmni?
Wnes i erioed ddychmygu fel dawnsiwr ifanc gyda DGIC, y byddwn i’n cael fy ngwahodd yn ôl fel coreograffydd gwadd 10 mlynedd yn ddiweddarach. Ar y pryd, roeddwn i wedi ymgolli mewn dysgu a datblygu fy sgiliau fel dawnsiwr, yn achub ar bob cyfle. Roeddwn i wastad yn gwybod fy mod yn mwynhau creu gweithiau ac wrth fy modd yn coreograffu a chreu symudiadau. Mae fy agwedd tuag at fy ngyrfa wastad wedi bod yn ddull un cam ar y tro; ymroi fy hun i’r dasg, y swydd neu’r ennyd o fy mlaen a gweld ble byddai hynny’n fy arwain. Nawr, mae wedi fy arwain yn ôl i ble gychwynnais i – mae’n ennyd sy’n cwblhau’r cylch!
4. Pa stori neu deimlad wyt ti’n gobeithio y bydd y dawnswyr - a’r gynulleidfa - yn mynd adref gyda nhw?
Rwy’n gobeithio y byddan nhw’n gadael gan deimlo y gall dawns ddod a phobl at ei gilydd. Gall symud a dawnsio fod yn ddathliad o bwy ydyn ni a’n straeon ni. Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn teimlo wedi eu cyffroi, sut bynnag bydd hynny. Rwy’n gobeithio hefyd y byddan nhw’n teimlo fel eu bod wedi profi rhywbeth sy’n unigryw Gymreig, ond sydd hefyd yn perthyn i’r byd.
5. Oes unrhyw atgofion penodol o fod yn aelod sy’n sefyll allan i ti?
Cwrdd â phobl eraill, dawnswyr ifanc eraill oedd ar yr un siwrnai a’r un llwybr â mi ar yr oedran hwnnw. Gan fy mod i’n dod o ardal gweddol wledig, yn aml iawn doeddwn i ddim yn adnabod unrhyw ddawnswyr eraill ar y cwrs preswyl ac yn teimlo braidd fel rhywun ar y tu allan oherwydd nad oeddwn i’n rhan o raglenni eraill fel NDCWales Associates, Rubicon Dance, neu County Youth yn Abertawe. Fodd bynnag, mae’r rhwystrau hyn yn cael eu chwalu’n fuan wrth ichi ddechrau creu cysylltiadau’n ystod y broses greadigol, ac rydw i wedi gwneud ffrindiau oes ar gyrsiau preswyl DGIC. Rwy’n dal i ddod ar draws cyd-aelodau allan yn y diwydiant ac mae’r hyn enillion ni oddi wrth DGIC wedi ein harwain ni gyd i ble ry’n ni heddiw.
6. Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i ddawnswyr yn y cwmni allai, un dydd, fod am gymryd yr un cam i mewn i’r byd proffesiynol?
Cymerwch bob cyfle fel y mae’n codi. Cofiwch ymroi eich hun i’r ennyd a’r hyn allwch chi ei ddysgu yn y fan a’r lle. Peidiwch â meddwl ymlaen yn rhy bell, os allwch chi wneud y gorau o’r hyn sydd gennych yn yr ennyd yna bydd eich ymrwymiad, eich chwilfrydedd a’ch crefft yn torri’ch cwys ar eich cyfer o hynny ymlaen … a pheidiwch anghofio cael hwyl!
7. Sut mae bod yn aelod, yn weithiwr cyswllt a nawr yn goreograffydd gyda DGIC wedi cefnogi dy yrfa?
Yn sicr, fe wnaeth fy mhrofiadau cynnar o weithio gyda choreograffwyr blaenllaw o’r diwydiant trwy DGIC fy siapio a fy ysbrydoli i dyfu’n ddyfeisiwr a pherfformiwr. Fe wnaeth cael profi hyfforddiant mor drylwyr a chael fy arwain gan bobl greadigol o’r radd flaenaf osod esiampl imi o sut i weithio’n llwyddiannus ac mewn modd parchus.
——
Bydd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio gwaith newydd gan y coreograffydd o Gymru, Osian Meilir, fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Ballet Cymru yn 40.
Mae Adfyw yn edrych ar y cysylltiad dwys rhwng diwylliant, natur, a’n hanghenion dynol greddfol i oroesi a pherthyn. Wedi’i wreiddio yn nhirwedd Cymru ac wedi’i ysbrydoli gan ficro-ecolegau newidiol y tir, mae’r gwaith yn dychmygu byd lle mae’r ffiniau rhwng amgylcheddau dynol a naturiol yn diddymu ac yn cydblethu.
Mae’r gwaith yn rhan o BALLET CYMRU*40 Dawns Eithriadol a Grëwyd yng Nghasnewydd, noson yn dathlu dawns a grëwyd yng Nghymru ar 29 + 30 Hydref. Tocynnau ar gael yma.