Back to All Events

Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru - Cyngerdd Hamddenol a Hygyrch

  • Canolfan yr Holl Genhedloedd, Rhodfa Sachville Caerdydd, CF14 3NY United Kingdom (map)
Taflen Gyhoeddusrwydd Clywedol Cyngerdd Hamddenol a Hygyrch CGIC (Saesneg)

Darllenwch fwy am ein Cyngerdd Hamddenol (tudalen we)

Erioed wedi bod eisiau profi cerddorfa, ond ddim yn siŵr beth i'w ddisgwyl?

Yn y cyngerdd hamddenol hwn, mae Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn adrodd hanes Romeo a Juliet trwy ddarnau byr o gerddoriaeth.

Byddwch hefyd yn profi stori dylwyth teg hudol The Firebird, ac yn mynd â chi ar daith gerddorol o amgylch oriel gelf.

Yn y cyngerdd hamddenol hwn, does dim angen aros yn dawel na chadw'n llonydd. I unrhyw un sy'n teimlo eu bod nhw’n cael eu llethu, bydd mannau “ymlacio” pwrpasol yn yr adeilad ar gyfer unrhyw un sydd angen seibiant. Bydd digon o le ar gyfer cadeiriau olwyn, pramiau a bygis — mae croeso i bawb, o 0-100+ mlwydd oed! 

Oherwydd amgylchiadau annisgwyl, ni fydd y cyngerdd hamddenol hwn yn cynnwys dehongliad BSL mwyach. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

Darllenwch ein Canllaw i'n Cyngerdd Hamddenol (fformat PDF)

Darllenwch ein Canllaw i'n Cyngerdd Hamddenol (fformat Word)

Darllenwch eich Canllaw Gweledol i Ganolfan yr Holl Genhedloedd (fformat Word)

Niamh O'Donnell: 'Five Windows'

Stravinsky: The Firebird Suite (1945), K 010

Prokofiev: 'Romeo a Juliet': dewisiad.

Tocynnau: Talwch beth y gallwch

Rhodd a awgrymir fesul tocyn: £10 pris llawn, £8 consesiynau, £5 dan 26 oed (gyda rhai dan 12 am ddim)

Previous
Previous
August 30

Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru - Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Next
Next
September 1

Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru - Neuadd Brangwyn, Abertawe