Back to All Events

Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yng Ngŵyl Ymylol Caeredin


  • Dance Base 14-16 Grassmarket Edinburgh, Scotland, EH1 2JU United Kingdom (map)

Daw Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru â Momentum – Undone i Ŵyl Ymylol Caeredin fel rhan o Celtic Collective – bil dwbl arbennig gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Ieuenctid yr Alban

Wedi'i goreograffu gan Marcus Jarrell Willis, gan ddefnyddio casgliad pwerus o gerddoriaeth gan gynnwys darnau gan James Blake, Jacob Collier, Tchaikovsky, ac Ólafur Arnalds. Mae'r darn yn ein hatgoffa nad yw'r daith byth wedi'i gorffen mewn gwirionedd, gan ofyn y cwestiwn "Unwaith y byddwn yn dod o hyd i gyfeiriad go iawn, beth sy'n digwydd nesaf?" 

Cynhelir Celtic Collective, a gyflwynir gan YDance a Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, yn Assembly @ Dance Base rhwng 7 a 16 Awst 2026, gyda pherfformiadau dyddiol am 4:05pm. 
 
Mae tocynnau o £14.25 i fyny ac argymhellir y sioe 60 munud o hyd i blant 12 oed a hŷn. 

Mae tocynnau ar werth nawr. 

Previous
Previous
August 1

Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn Fyw yn Abertawe

Next
Next
August 19

Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn Fyw yn Llanelwy