GYRFAOEDD

Cyfle Swydd

Cydlynydd Prosiectau Dawns Ieuenctid (Llawrydd)

Cyfnod ymrwymo: 10 mis i ddechrau, gyda photensial am gyfnod pellach yn amodol ar gyllid.

Ffi: £200 y dydd (hyd at oddeutu 60 diwrnod, cytunwyd arno ymlaen llaw)

Lleoliad: Cymru (gweithio o bell ac ar y safle yn ôl yr angen)

Dyddiad cau: 4pm ar 11 Mai 2026

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn awyddus i benodi Cydlynydd Prosiectau Dawns Ieuenctid (Llawrydd) i ymuno a’r tîm.

Yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ein cenhadaeth yw grymuso'r genhedlaethnesaf o gerddorion, actorion, dawnswyr a gwneuthurwyr i adeiladu dyfodol creadigol, hyderus a hael i Gymru.

Mae CCIC yn grymuso pobl ifanc trwy'r celfyddydau. Mae ein darpariaeth ddawns yn cefnogi dawnswyr ifanc talentog ac uchelgeisiol ledled Cymru, tra hefyd yn ehangu mynediad at gyfleoedd creadigol o ansawdd uchel i'r rheiny sy'n wynebu rhwystrau i gymryd rhan. Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol llawrydd profiadol i gefnogi cydlyniant a darpariaeth elfennau o'n rhaglen datblygu dawns ieuenctid, Momentwm.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sector celfyddydau a sefydliad cynhwysol ac amrywiol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a'u bod yn gallu bod ynnhw eu hunain yn llawn. Rydym ni’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir ac amgylchiadau. Cysylltwch â ni i drafod unrhyw gefnogaeth neu addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch i'ch helpu i gwblhau eich cais - neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu'r sefydliad.

Sut i ymgeisio

Anfonwch eich CV atom a ddatganiad byr (uchafswm o 1 dudalen) yn amlinellu eich profiad perthnasol a'ch diddordeb yn y gwaith erbyn 4pm ar 11 Mai 2026 i jamiejenkins@nyaw.org.uk.

Gofynnwn i bob ymgeisydd gwblhau Ffurflen Cyfle Cyfartal i'n helpu i fonitro cyrhaeddiad ein hysbysebion swyddi. Fel sefydliad cenedlaethol, rydym am i'n tîm staff fod yn gynrychioliadol o'r gymuned gyfan. Rydym yn annog ceisiadau gan y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn draddodiadol yn y diwydiannau creadigol – gan gynnwys pobl o'r Mwyafrif Byd-eang, pobl D/byddar, pobl sy'n byw gydag anabledd, pobl niwroamrywiol, a'r rhai o gefndiroedd incwm is.

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Cysylltwch â ni ar unrhyw adeg o'r broses ymgeisio os gallwn gynorthwyo gydag unrhyw anghenion mynediad.