Cerddorfa
Genedlaethol
Ieuenctid Cymru
Perfformiwch Dros Gymru!
Mae'r dyddiad cau ar gyfer clyweliadau bellach wedi pasio ond mae gennym ni rai lefydd ledled Cymru a gallwn ni dderbyn archebion hwyr. Cysylltwch ag auditions@nyaw.org.uk
Nodyn gan cynhyrchydd CGIC
“Yn 2027 byddwn yn croesawu’r Maestro Carlo Rizzi i arwain Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru unwaith eto ac rydyn ni’n cydweithio ag ef i ddod â symffoni fawr i gynulleidfaoedd ledled Cymru yr haf nesaf. Fel bob amser bydd gennym ni ein tîm arferol o diwtoriaid o’r radd flaenaf wrth i ni baratoi ar gyfer cyngherddau ym Mangor, Eglwys Gadeiriol Tyddewi ac Abertawe. Unwaith eto, fe fydd yn brofiad na ddylid ei golli!”
Matthew Jones
Cynhyrchydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Rhaglen 2027
Arweinydd: Carlo Rizzi
Mae Carlo Rizzi yn arweinydd opera a cherddorfaol rhyngwladol arobryn sydd wedi gweithio dros y byd i gyd yn cynnwys yn La Scala yn yr Eidal a gyda’r Met yn Efrog Newydd yn ogystal â bod a pherthynas hirsefydlog gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Mae hefyd wedi arwain Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru nifer o weithiau ac mae’n mwynhau perthynas arbennig gyda’n haelodau. Daw Carlo â chyfoeth o brofiad a natur gerddorol tan gamp ac mae bob amser wedi ysbrydoli aelodau’r Gerddorfa i berfformio’n wych – ry’n ni wir yn edrych ymlaen at weithio gydag e unwaith eto’r flwyddyn nesaf.
Ymarferion cyn y Preswyliad: 20-21 Mawrth 2027
Preswyliad yr Haf: 20 Gorffennaf – 1 Awst 2027 (lleoliad i'w gytuno)
Cyngherddau:
Dydd Iau 29 Gorffennaf – Neuadd Prichard Jones, Bangor
Dydd Gwener 30 Gorffennaf – PCYDDS Llanbedr Pont Steffan
Dydd Sadwrn 31 Gorffennaf – Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Tyddewi
Dydd Sul 1 Awst – Neuadd Brangwyn, Abertawe
Repertoire: Rydyn ni’n trafod opsiynau i berfformio symffoni fawr ar hyn o bryd.
Sut i ymuno…
Darllen beth i’w ddisgwyl a’r hyn fydd angen iti ei baratoi yn yr adran Cwestiynau Cyffredin isod
Edrych ar ba ddyddiad a lleoliad clyweliad yr wyt am ei fynychu
Clicia ar y botwm i fynd a ti i’r ffurflen gais
Cysyllta gyda ni os oes gennyt unrhyw gwestiynau auditions@nyaw.org.uk
Mae ein clyweliadau’n cael eu rhedeg ar ffurf gweithdai cyfeillgar a chefnogol, a gallwn helpu gyda chostau clyweliad yn ogystal â’r ffioedd aelodaeth.
Byddwn hefyd yn gofyn am unrhyw anghenion mynediad pan fyddi’n archebu dy glyweliad.
Ymgeisiwch ebryn:
11 Hydref 2026
Dyddiad cau fideo:
22 Tachwedd 2026
Mae'r dyddiad cau ar gyfer clyweliadau bellach wedi pasio ond mae gennym ni rai lefydd ledled Cymru a gallwn ni dderbyn archebion hwyr. Cysylltwch ag auditions@nyaw.org.uk
Clyweliadau:
22ain Tachwedd – UWTSD, Caerfyrddin
28ain Tachwedd – RWCMD, Caerdydd
29ain Tachwedd – RWCMD, Caerdydd
5ed Rhagfyr - Prifysgol Bangor, Gogledd Cymru
6ed Rhagfyr – Theatr Clwyd, Gogledd Cymru
Canlyniadau:
w/d 14 Rhagfyr 2026
Cwestiynau Sy’n Codi’n Aml…
-
Dylai ymgeiswyr, fel arfer, fod o safon gradd 8 er nad oes rhaid iti fod wedi sefyll arholiad gradd 8 ar adeg y clyweliad. Dylet fod rhwng 16 a 22 oed ar 31 Awst 2027. (Mae hyn yn golygu y gallet ddod am glyweliad yn 15 oed, cyn belled ag y byddi’n 16 oed erbyn y dyddiad uchod).
Fodd bynnag, ar gyfer yr ensembles offerynnol, fe allwn dderbyn ymgeiswyr iau i’r ensembles ar achlysuron ble y dangosir talent eithriadol.
Bydd hyn fel y barno CCIC yn ddoeth yn unig. Mae rhaid iti fod un ai wedi dy eni yng Nghymru a / neu’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd neu’n astudio’n llawn amser yng Nghymru.
Mae CCIC yn cadw’r hawl i eithrio unrhyw un rhag cymryd rhan yn ei ensembles fel y gwêl yn rhesymol ddoeth, i’w weithredu gan uwch-aelodau o staff neu’r ymddiriedolwyr.
Os oes gennyt unrhyw gwestiynau am ein meini prawf cymhwysedd, cysyllter â: nyaw@nyaw.org.uk.
-
Unwaith iti glicio ar y botwm Archebu Nawr cei dy arwain i’r ffurflen gais ble byddwn yn gofyn am fanylion personol a manylion cyswllt yn ogystal â gofyn rhai cwestiynau am dy ysgol / coleg a phrofiad perfformio fydd yn ein helpu’n ystod dy glyweliad. Bydd y ffurflen yn gofyn iti uwchlwytho llun pen ac ysgwydd diweddar o dy hun (gall hwn fod yn hun-lun / ffoto ar ffôn (dim mwy na 4MB). Ni ddylai gymryd mwy na tua 10 munud i’w chwblhau. Os wyt ti’n talu’r ffi clyweliad, anfonir dolen dalu atat mewn e-bost unwaith iti gyflwyno dy ffurflen gais. Os oes gennyt unrhyw gwestiynau, neu broblemau gyda’r ffurflen, e-bostia: auditions@nyaw.org.uk
-
Cost y clyweliad yw £30 – mae hyn yn mynd i dalu am ein gwaith gweinyddol; hurio’r ganolfan a chostau ffioedd y panel. Gallwn gynnig Clyweliadau Am Ddim i bawb sy’n methu fforddio talu am ba bynnag reswm. Gall ymgeiswyr ddewis yr opsiwn hepgoriad ffioedd ar y ffurflen.
-
Unwaith i’r dyddiad cau basio, byddwn yn dy e-bostio i gadarnhau manylion lleoliad, dyddiad, ac amser dy glyweliad a sut i gyrraedd yno. Bydd hyn, fel arfer, o leiaf 2 wythnos cyn dyddiad dy glyweliad.
-
Bydd gofyn iti berfformio darnau hunan-ddewisiad, detholiad o raddfeydd (scales) ac, yn y mwyafrif o achosion, ddetholiadau byr, wedi eu paratoi o’r repertoire cerddorfaol.
Cei hyd i fanylion llawn yr hyn sydd ei angen, yn cynnwys arweiniad ar gyfer offerynnau penodol, yn ein pecynnau clyweliadau.
-
Bydd ein paneli clyweliad yn penderfynu ar y canlyniadau unwaith i’r holl glyweliadau gael eu cynnal, a byddwn yn anelu i hysbysu pob ymgeisydd cyn gynted â phosibl wedi hynny. Eleni, rydym yn bwriadu anfon yr e-byst canlyniadau atoch yn ystod yr wythnos yn dechrau 14eg Rhagfyr.
-
Ffioedd - £1,050 + £50 Bond na ellir ei ad-dalu Mae dy ffi aelodaeth yn gyfraniad tuag at yr holl gostau hyfforddiant, llety, pob pryd bwyd, teithio’n ystod y cwrs preswyl a gweithgareddau cymdeithasol. Mae gwerth yr aelodaeth y bydd pob unigolyn yn ei dderbyn dros £2,750 - ond, diolch i gefnogaeth hael ein cyllidwyr a’n cefnogwyr, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn sybsideiddio cyfran sylweddol o’r gost i fod yn aelod o un o’r ensembles ieuenctid cenedlaethol. Fodd bynnag, rydym yn anelu i wneud yn siŵr nad yw arian fyth yn rhwystr i gyfranogi yn unrhyw un o’n hensembles neu’n prosiectau. Rydym yn deall y gall y cyfraniad hwn fod allan o gyrraedd rhai o’n hymgeiswyr, a dyma pam ein bod yn rhedeg cynllun bwrsariaethau hael sy’n cefnogi ble fo angen cymorth. Os yw incwm blynyddol dy aelwyd yn llai na £125,000, gallai ein Cronfa Bwrsariaethau helpu i dalu am beth, neu’r cyfan, o dy dâl aelodaeth.
Rydym hefyd yn cynnig cynllun talu mewn rhandaliadau.
-
Gallai ein Cronfa Bwrsariaethau helpu i dalu am beth neu’r cyfan o dy ffioedd aelodaeth, fel na fydd unrhyw un yn cael ei rwystro rhag ymgeisio am le ar Ensembles CCIC am resymau ariannol. Cer i CRONFA BWRSARIAETHAU CCIC am wybodaeth lawn, yn cynnwys sut i hawlio cymorth tuag at gostau clyweliad a ffioedd aelodaeth.