Cerddorfa
Côr
Ieuenctid Cymru
Perfformiwch Dros Gymru!
Mae'r dyddiad cau ar gyfer clyweliadau bellach wedi pasio ond mae gennym ni rai lefydd ledled Cymru a gallwn ni dderbyn archebion hwyr. Cysylltwch ag auditions@nyaw.org.uk
Nodyn gan cynhyrchydd CCIC
“Mae CCIC yn adnabyddus am ei berfformiadau egnïol ac ystod eclectig o gerddoriaeth - o repertoire o “glasuron” traddodiadol i gomisiynau newydd, theatr gerdd a hyd yn oed trefniannau o gerddoriaeth boblogaidd. Mae Tim Rhys-Evans wedi bod yn ganolog i dwf y côr ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gydag ef unwaith eto yn 2027.”
Matthew Jones
Cynhyrchydd Côr Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Rhaglen 2027
Arweinyd: Tim Rhys Evans
Mae Tim Rhys-Evans yn adnabyddus i Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru gan iddo arwain y côr ers 2018. Fel cyn-aelod, mae’n deall pa mor werthfawr all y profiad CCIC fod i ganwr ifanc ac, fel arweinydd corawl ac arbenigwr lleisiol a gydnabyddir yn rhyngwladol, mae wedi arwain y Côr o nerth i nerth ers gafael yn yr awenau bron i ddeng mlynedd yn ôl.
Ymarferion cyn y Preswyliad: 24 - 25 Mawrth 2027
Preswyliad yr Haf: Dydd Mawrth 17 Awst –Dydd Gwener 27 Awst 2027 (Prifysgol Bangor)
Cyngherddau:
Dydd Mercher 25 Awst – Cadeirlan Llanelwy
Dydd Iau 26 Awst – Eglwys Gadeiriol Tyddewi
Dydd Gwener 27 Awst – Neuadd Brangwyn, Abertawe
Repertoire: Ry’n ni’n dal i weithio ar y repertoire terfynol ac mae ambell i ddewis cyffrous yn cael ei ystyried ar hyn o bryd.
Sut i ymuno…
Darllen beth i’w ddisgwyl a’r hyn fydd angen iti ei baratoi yn yr adran Cwestiynau Cyffredin isod
Edrych ar ba ddyddiad a lleoliad clyweliad yr wyt am ei fynychu
Clicia ar y botwm i fynd a ti i’r ffurflen gais
Cysyllta gyda ni os oes gennyt unrhyw gwestiynau auditions@nyaw.org.uk
Mae ein clyweliadau’n cael eu rhedeg ar ffurf gweithdai cyfeillgar a chefnogol, a gallwn helpu gyda chostau clyweliad yn ogystal â’r ffioedd aelodaeth.
Byddwn hefyd yn gofyn am unrhyw anghenion mynediad pan fyddi’n archebu dy glyweliad.
Ymgeisiwch ebryn:
11 Hydref 2026
Mae'r dyddiad cau ar gyfer clyweliadau bellach wedi pasio ond mae gennym ni rai lefydd ledled Cymru a gallwn ni dderbyn archebion hwyr. Cysylltwch ag auditions@nyaw.org.uk
Clyweliadau:
18fed Tachwedd – RWCMD, Caerdydd LLAWN
22ain Tachwedd – UWTSD, Caerfyrddin
27ain Tachwedd - RWCMD, Caerdydd
28ain Tachwedd – RWCMD, Caerdydd - CAPASITI CYFYNGEDIG
29ain Tachwedd – RWCMD, Caerdydd
3ydd Rhagfyr - RWCMD, Caerdydd
5ed Rhagfyr – Prifysgl Bangor, Gogledd Cymru
6ed Rhagfyr – Theatr Clwyd, Gogledd Cymru
Canlyniadau:
w/d 14 Rhagfyr 2026
Cwestiynau Sy’n Codi’n Aml…
-
Dylet fod rhwng 16 a 22 oed ar 31 Awst 2027. (Mae hyn yn golygu y gallet ddod am
glyweliad yn 15 oed, cyn belled ag y byddi’n 16 oed erbyn y dyddiad uchod). Fodd bynnag, ar gyfer yr ensembles offerynnol, fe allwn dderbyn ymgeiswyr iau i’r ensembles ar achlysuron ble y dangosir talent eithriadol. Bydd hyn fel y barno CCIC yn ddoeth yn unig. Mae rhaid iti fod un ai wedi dy eni yng Nghymru a / neu’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd neu’n astudio’n llawn amser yng Nghymru. Mae CCIC yn cadw’r hawl i eithrio unrhyw un rhag cymryd rhan yn ei ensembles fel y gwêl yn rhesymol ddoeth, i’w weithredu gan uwch-aelodau o staff neu’r ymddiriedolwyr. Os oes gennyt unrhyw gwestiynau am ein meini prawf cymhwysedd, cysyllter â: nyaw@nyaw.org.uk.
-
Unwaith iti glicio ar y botwm Archebu Nawr cei dy arwain i’r ffurflen gais ble byddwn yn gofyn am fanylion personol a manylion cyswllt yn ogystal â gofyn rhai cwestiynau am dy ysgol / coleg a phrofiad perfformio fydd yn ein helpu’n ystod dy glyweliad. Bydd y ffurflen yn gofyn iti uwchlwytho llun pen ac ysgwydd diweddar o dy hun (gall hwn fod yn hun-lun / ffoto ar ffôn (dim mwy na 4MB). Ni ddylai gymryd mwy na tua 10 munud i’w chwblhau. Os wyt ti’n talu’r ffi clyweliad, anfonir dolen dalu atat mewn e-bost unwaith iti gyflwyno dy ffurflen gais. Os oes gennyt unrhyw gwestiynau, neu broblemau gyda’r ffurflen, e-bostia: auditions@nyaw.org.uk
-
Cost y clyweliad yw £30 – mae hyn yn mynd i dalu am ein gwaith gweinyddol; hurio’r ganolfan a chostau ffioedd y panel. Gallwn gynnig Clyweliadau Am Ddim i bawb sy’n methu fforddio talu am ba bynnag reswm. Gall ymgeiswyr ddewis yr opsiwn hepgoriad ffioedd ar y ffurflen.
-
Unwaith i’r dyddiad cau basio, byddwn yn dy e-bostio i gadarnhau manylion lleoliad, dyddiad, ac amser dy glyweliad a sut i gyrraedd yno. Bydd hyn, fel arfer, o leiaf 2 wythnos cyn dyddiad dy glyweliad.
-
Bydd gofyn iti berfformio darnau hunan-ddewisiad, detholiad o raddfeydd (scales) ac, yn y mwyafrif o achosion, ddetholiadau byr, wedi eu paratoi o’r repertoire cor.
Cei hyd i fanylion llawn yr hyn sydd ei angen, yn cynnwys arweiniad ar gyfer offerynnau penodol, yn ein pecynnau clyweliadau.
-
Bydd ein paneli clyweliad yn penderfynu ar y canlyniadau unwaith i’r holl glyweliadau gael eu cynnal, a byddwn yn anelu i hysbysu pob ymgeisydd cyn gynted â phosibl wedi hynny. Eleni, rydym yn bwriadu anfon yr e-byst canlyniadau atoch yn ystod yr wythnos yn dechrau 14eg Rhagfyr.
-
£1080
Mae dy ffi aelodaeth yn gyfraniad tuag at yr holl gostau hyfforddiant, llety, pob pryd bwyd, teithio’n ystod y cwrs preswyl a gweithgareddau cymdeithasol. Mae gwerth yr aelodaeth y bydd pob unigolyn yn ei dderbyn dros £2,750 - ond, diolch i gefnogaeth hael ein cyllidwyr a’n cefnogwyr, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn sybsideiddio cyfran sylweddol o’r gost i fod yn aelod o un o’r ensembles ieuenctid cenedlaethol. Fodd bynnag, rydym yn anelu i wneud yn siŵr nad yw arian fyth yn rhwystr i gyfranogi yn unrhyw un o’n hensembles neu’n prosiectau. Rydym yn deall y gall y cyfraniad hwn fod allan o gyrraedd rhai o’n hymgeiswyr, a dyma pam ein bod yn rhedeg cynllun bwrsariaethau hael sy’n cefnogi ble fo angen cymorth. Os yw incwm blynyddol dy aelwyd yn llai na £125,000, gallai ein Cronfa Bwrsariaethau helpu i dalu am beth, neu’r cyfan, o dy dâl aelodaeth. Rydym hefyd yn cynnig cynllun talu mewn rhandaliadau. -
Gallai ein Cronfa Bwrsariaethau helpu i dalu am beth neu’r cyfan o dy ffioedd aelodaeth, fel na fydd unrhyw un yn cael ei rwystro rhag ymgeisio am le ar Ensembles CCIC am resymau ariannol. Cer i CRONFA BWRSARIAETHAU CCIC am wybodaeth lawn, yn cynnwys sut i hawlio cymorth tuag at gostau clyweliad a ffioedd aelodaeth.