Band Pres

Cenedlaethol

Ieuenctid Cymru

Perfformiwch Dros Gymru

Nodyn gan cynhyrchydd BPCIC

“Ry’n ni wir yn edrych ymlaen at groesawu Margaret Antrobus i arwain Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru am y tro cyntaf yn 2027. Mae Margaret yn arweinydd profiadol dros ben ac fe weithiodd gyda Band Pres Ieuenctid Ewrop yn 2025, a hynny’n llwyddiannus iawn. Mae wastad yn gyffrous gweithio gyda phobl newydd fydd, yn anochel, yn dod a ffyrdd newydd o weithio a meddwl am y gerddoriaeth, gan ei wneud yn brofiad gwych i bawb.”

Matthew Jones

Cynhyrchydd Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Rhaglen 2027

Arweinydd: Margaret Antrobus

Mae Margaret Antrobus yn arweinydd, athrawes, a chwaraewr bariton sy’n weithgar yn y byd bandiau pres ar draws y DU a Norwy. Mae’n Ddirprwy Bennaeth yn Manger Folkehogskole yn Norwy, ble mae wedi arwain bandiau’n cynnwys y "Manger Old Stars" a chyfrannu at gwrs bandiau pres ysgolion fel rhan o’r tîm arweinyddion. Arweiniodd Margaret hefyd Fand Pres Ieuenctid Ewrop yn 2025.

Fel perfformwraig, mae parch mawr at Antrobus ymhlith y gymuned bandiau pres, a hithau wedi chwarae’r Bariton Unawdol gyda’r Yorkshire Building Society Band llwyddiannus a threulio nifer o flynyddoedd gyda Manger Musikklag yn Norwy. Bu’n aelod hefyd o’r Yamaha Neo Brass Ensemble, gan berfformio yn y gystadleuaeth Brass in Concert. Mae’n chwarae bariton Yamaha YBH-831S ac mae’n cydnabod ei hathrawon Helga Vetaas, Kim Lofthouse, David King, a Morgan Griffiths fel dylanwadau allweddol.

Mae Antrobus yn brysur hefyd fel beirniad, ac wedi dyfarnu mewn cystadlaethau pwysig yn cynnwys Pencampwriaethau Ewrop yn 2026 a Phencampwriaethau NABBA yn 2025.

Repertoire: Mae repertoire y flwyddyn nesaf yn dal i’w gadarnhau, ond mae’n siŵr o gynnwys y cyfuniad arferol o ddarnau safonol y bandiau pres, darnau prawf heriol a ffefrynnau rhaglenni cyngherddau!

Sut i ymuno…

  • Darllen beth i’w ddisgwyl a’r hyn fydd angen iti ei baratoi yn yr adran Cwestiynau Cyffredin isod

  • Edrych ar ba ddyddiad a lleoliad clyweliad yr wyt am ei fynychu

  • Clicia ar y botwm i fynd a ti i’r ffurflen gais

  • Cysyllta gyda ni os oes gennyt unrhyw gwestiynau auditions@nyaw.org.uk

    Mae ein clyweliadau’n cael eu rhedeg ar ffurf gweithdai cyfeillgar a chefnogol, a gallwn helpu gyda chostau clyweliad yn ogystal â’r ffioedd aelodaeth.


    Byddwn hefyd yn gofyn am unrhyw anghenion mynediad pan fyddi’n archebu dy glyweliad.

Ymgeisiwch ebryn:

11 Hydref 2026

Clyweliadau:

22ain Tachwedd – Caerfyrddin

28ain Tachwedd – Caerdydd

29ain Tachwedd – Caerdydd

6ed Rhagfyr – Gogledd Cymru

Dyddiad cau fideo: 22 Tachwedd 2026

Canlyniadau:

w/d 14 Rhagfyr 2026

Perfformiadau: Mae'r perfformiadau i'w cadarnhau ar hyn o bryd ond byddant yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ledled Cymru ar ddiwedd y cyfnod preswyl. 

Cwestiynau Sy’n Codi’n Aml…