Yn galw ar holl gyn-aelodau: Ymunwch â Cherddorfa Cyn-aelodau CGIC i ddathlu ei phen-blwydd yn 80
Llun gan Ken Grant, Gorffennaf 2025
Mae gan Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC) y fraint unigryw o fod yn gerddorfa genedlaethol ieuenctid cyntaf y byd, gyda’i pherfformiad cyntaf ym 1946.
Yn 2026, mae CGIC yn nodi 80 mlynedd o hyfforddiant cerddorol eithriadol a pherfformiadau cofiadwy.
Fel rhan o'n dathliadau pen-blwydd yn 80, rydym yn dod â cherddorfa o gyn-aelodau at ei gilydd i ymarfer, ailgysylltu a pherfformio dros benwythnos Gŵyl y Banc Calan Mai. Bydd y Gerddorfa arbennig hon o gyn-aelodau yn cael ei harwain gan yr arweinydd o fri rhyngwladol, Carlo Rizzi.
Mae Carlo Rizzi wedi bod yn ffrind gwerthfawr i Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ers amser maith, ac wedi arwain y gerddorfa'n rheolaidd ers ymddangos gyda hi am y tro cyntaf yn 2012. Rydym yn falch iawn o'i groesawu yn ôl i arwain ein Cerddorfa o Gyn-aelodau i nodi ei Phen-blwydd yn 80 oed.
Yn dilyn diddordeb mawr, rydym yn hynod gyffrous i ddod â cherddorfa ynghyd ar gyfer cyngerdd cyhoeddus ddydd Sul 3 Mai yn Neuadd Hoddinott y BBC, Bae Caerdydd. Rydym yn gwahodd unrhyw gyn-aelod sy'n parhau i chwarae eu hofferyn yn rheolaidd i gymryd rhan.
Mae hwn yn argoeli i fod yn achlysur hanesyddol - cyfle i ailgysylltu â ffrindiau a chyd-gyn-fyfyrwyr o bob cyfnod, ar y llwyfan ac yn y gynulleidfa!
Bydd y repertoire yn cael ei gyhoeddi maes o law, ond gallwch edrych ymlaen at ailymweld â rhai o'r gweithiau a ffurfiodd eich amser gyda'r gerddorfa.
Os ydych chi'n gyn-aelod o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ac yr hoffech fod yn rhan o'r dathliadau pen-blwydd - p'un a hoffech ymuno â'n cerddorfa o gyn-aelodau ai peidio - cwblhewch ein ffurflen ar gyfer cyn-aelodau a byddwn yn rhoi gwybod i chi am gynlluniau a diweddariadau.
Mae hwn yn ddathliad o hanes y gerddorfa a'r cerddorion niferus sydd wedi bod yn rhan ohoni. Byddai’n fraint o’r mwyaf pe byddech yn dathlu gyda ni!