NEWYDDION

Tom Kemp Tom Kemp

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn Dathlu Llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd wastad wedi bod yn ddathliad o ddiwylliant, creadigrwydd ac ysbryd cymunedol Cymru, a doedd eleni ddim yn eithriad.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd wastad wedi bod yn ddathliad o ddiwylliant, creadigrwydd ac ysbryd cymunedol Cymru, a doedd eleni ddim yn eithriad. Fel bob amser, roedd y digwyddiad yn arddangosfa fawreddog o dalentau gorau'r genedl, ac ymhlith y rhai a ddaeth i'r amlwg roedd nifer o aelodau a chyn-fyfyrwyr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC). Roedd eu perfformiadau a’u llwyddiannau rhyfeddol yn tanlinellu llwyddiant a dylanwad parhaus CCIC wrth lunio’r genhedlaeth nesaf o artistiaid Cymreig.

Ymhlith y llu o aelodau a chyn-fyfyrwyr a welsom ar y Maes roedd Kellie-Gwen Morgan o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC), a syfrdanodd y beirniaid ac ennill yn y gystadleuaeth ddeialog gyda’u partner actio. Uchafbwynt arall oedd cynrychiolaeth gref aelodau CCIC yn y cystadlaethau offerynnol. Cymerodd llawer o aelodau Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (BPCIC) ran gyda Band Ieuenctid De Cymru a Band Pres Ieuenctid Beaumaris.

Yn y categori corawl, fe wnaeth Côr Taflais, oedd yn cael ei gyd-arwain gan aelod o Griw Creu Newid CCIC ac aelod o Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru Caradog Jones, ennill y gystadleuaeth 'Côr Newydd i’r Eisteddfod' a ffurfiwyd yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod eleni. Mae'r cyflawniad hwn yn adlewyrchu'r gwaith caled a'r cydweithio sydd wrth galon ethos CCIC, gan ddangos sut mae ein haelodau'n cyfrannu at dirwedd ddiwylliannol ehangach Cymru.  Roeddem hefyd wrth ein bodd i weld aelodau Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru Branwen Medi Jones yn dod yn ail yn y gystadleuaeth unawd “alaw werin” a’r gystadleuaeth unawd o sioe gerdd, ynghyd ag Erin Thomas, wnaeth greu argraff wrth ddod yn ail yng nghystadleuaeth yr unawd mezzo/contralto/uwchdenor. Fodd bynnag, nid yr aelodau presennol yn unig y gwnaethom ni eu gweld. Braf oedd gweld cyn-fyfyrwyr Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Caitlin Hockley a Rhys Archer yn dod yn ail yn y cystadlaethau unawd soprano ac unawd tenor yn eu tro yn ogystal â Nathan James Dearden yn hawlio Tlws y Cyfansoddwr.

Dywedodd Matthew Jones, Uwch Gynhyrchydd CCIC: “Fel bob amser, roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad gwych o ddiwylliant cyfoethog Cymru. O ystyried bod y bywyd diwylliannol hwn yn teimlo dan fygythiad i ryw raddau ar hyn o bryd, roedd yn wych bod yn rhan o ddathliad mor fywiog. Llongyfarchiadau i’n holl aelodau a chyn-fyfyrwyr wnaeth gymryd rhan, perfformio ar y llwyfan a mwynhau llwyddiant a hyd yn oed weithio y tu ôl i’r llenni. Roedd yn hyfryd cerdded o gwmpas y Maes a gweld cymaint o wynebau cyfarwydd, cyfeillgar!”

Yn ogystal â'r buddugoliaethau hyn, cafodd cerddorion cerddorfaol CCIC effaith arwyddocaol hefyd. Ffurfiodd pump o chwaraewyr llinynnol presennol Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC) yr ensemble ar gyfer perfformiad siambr hyfryd o Requiem Fauré yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Muni ar ei newydd wedd.

Wrth i’r Eisteddfod ddirwyn i’w therfyn, gwelsom offerynwyr taro CGIC yn ymuno â’n chwaraewyr llinynnol i chwarae yn y cyngerdd clo, gan berfformio ddarn newydd a ysbrydolwyd gan yr Anthem Genedlaethol. Roedd y perfformiad hwn yn ddiweddglo teilwng i wythnos sydd wedi amlygu dawn ac undod cymuned CCIC.

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac ABRSM yn cydweithio i hybu addysg gerddorol yng Nghymru

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a The Associated Board of the Royal Schools of Music yn gyffrous i gyhoeddi partneriaeth newydd i gefnogi addysg gerddorol yng Nghymru.

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) a The Associated Board of the Royal Schools of Music (ABRSM) yn gyffrous i gyhoeddi partneriaeth newydd i gefnogi addysg gerddorol yng Nghymru.

Mae'r ddau sefydliad yn rhannu ymrwymiad i hyrwyddo addysg a phrofiadau cerddoriaeth hygyrch, difyr a chynhwysol o ansawdd uchel i bobl ifanc ledled Cymru.

Cyhoeddwyd y bartneriaeth mewn cyngerdd gan Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn y Neuadd Fawr, Abertawe ddydd Sul 28 Gorffennaf.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, bydd y bartneriaeth yn canolbwyntio ar y tri ffrwd canlynol:

1. Llwybrau Talent

Mae CCIC yn cynnal clyweliadau ledled Cymru bob blwyddyn - ac yna'n cefnogi'r cerddorion ifanc mwyaf talentog i ffurfio ensembles, gan dderbyn hyfforddiant o'r radd flaenaf a pherfformio gyda'i gilydd.

Er mwyn galluogi hyn i ddigwydd, mae CCIC yn gweithio gyda gwasanaethau cerddoriaeth, sefydliadau ac ysgolion ledled Cymru i ddadansoddi llwybrau dilyniant ar draws gwahanol offerynnau (a lleisiau) a genres cerddoriaeth.

Gan fanteisio ar y gwaith uchod, bydd CCIC ac ABRSM yn nodi mannau oer yn y ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc ac yn cyflwyno amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys "Côr Skills" i roi profiad i gantorion o ganu corawl, a rhaglen "Strings Attached" i hybu sgiliau chwaraewyr ffidil, fiola, bas a sielo ifanc.

2. Llais Ieuenctid

Bydd ABRSM a CCIC yn cefnogi rhaglenni cynrychiolaeth ieuenctid y naill a’r llall, gan gynnwys cynnig cyfleoedd newydd i bobl ifanc ar gyfer hyfforddiant, dylanwadu ar bolisi a phrofiad gwaith. Yn ddiweddar, mae CCIC wedi penodi tri ymddiriedolwr ifanc i'w bwrdd ac wedi creu 'Criw Creu Newid' ifanc i ddylanwadu ar weithgareddau CCIC. Bydd yn rhannu'r profiadau hyn gydag ABRSM, gyda'r bwriad o ddatblygu modelau newydd o arfer gorau ar gyfer sector y celfyddydau gyda'i gilydd.

3. Data

Bydd ABRSM a CCIC yn datblygu ffyrdd newydd o gasglu data am addysg gerddorol a chyfranogiad ledled Cymru, ac yn cymathu eu data presennol, i nodi pa offerynnau sy'n cael eu dysgu i safon uchel, pa rai sy'n llai poblogaidd, a pha rannau o'r wlad sydd fwyaf angen cymorth.

Dywedodd James Welburn, Dirprwy Bennaeth Ymgysylltu ABRSM: "Rydym ni’n falch iawn o fod yn cydweithio â Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar yr hyn yr ydym ni’n rhagweld fydd yn bartneriaeth ddiddorol ac egnïol i gefnogi cerddorion ifanc ledled Cymru. Rydym ni’n arbennig o gyffrous am ein rhaglenni llais ieuenctid, gan helpu i wreiddio lleisiau pobl ifanc o fewn ein sefydliadau a'r sector ehangach, a chadw cerddorion ifanc wrth wraidd popeth a wnawn."

Dywedodd Evan Dawson, Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: “ABRSM yw un o sefydliadau addysg gerddorol mwyaf blaenllaw Y byd ac rydym ni’n gyffrous i gychwyn ar y bartneriaeth newydd hon. Gyda'n gilydd, rydym ni’n deall y rôl emosiynol mae cerddoriaeth yn ei chwarae ym mywydau pobl ifanc, gan gydnabod a dathlu'r ystod amrywiol o gefndiroedd mae pob unigolyn yn eu cyflwyno, wrth fanteisio ar ein rhwydwaith cerddorol o gyfansoddwyr, athrawon a pherfformwyr. Rydym ni i gyd wrth ein bodd ein bod yn gweithio mewn partneriaeth agosach ag ABRSM i helpu i ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc i ffynnu trwy greu cerddoriaeth greadigol, arloesol a hael, ledled Cymru gyfan." 

Read More
Guest User Guest User

Llongyfarchiadau i enillwyr ein gwobrau Cerddorfa a Band Pres 2024

Bob blwyddyn ar ein preswyliadau, rydym yn dathlu ein cerddorion sy'n dangos yr addewid a'r ymroddiad mwyaf. Y tiwtoriaid adrannol sy'n penderfynu pwy sy'n derbyn pob gwobr yn ystod y cyfnodau preswyl.

Bob blwyddyn ar ein preswyliadau, rydym yn dathlu ein cerddorion sy'n dangos yr addewid a'r ymroddiad mwyaf. Y tiwtoriaid adrannol sy'n penderfynu pwy sy'n derbyn pob gwobr yn ystod y cyfnodau preswyl.

Hoffai Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru rhoi diolch i'r rhai sydd wedi rhoi arian i greu'r gwobrau hyn.

Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Tlws Coffa John Childs

Dyfarnwyd i’r chwaraewr mwyaf addawol ar y cwrs preswyl eleni

Solomon Maghur

Gwobr David Mabey

Dyfarnwyd i’r chwaraewr sydd wedi gwella fwyaf ar y cwrs preswyl

Cari Jones

Tlws y Prif Gornet

Er cof Tony Small

Erin Maloney

Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru

Gwobr Haydn Davies

Dyfarnwyd i’r chwaraewr mwyaf addawol sy’n dal i fod ym myd addysg

Xinrong Zou

Gwobrau Irwyn Walters (Ffrindiau CGIC)

Dyfarnwyd i’r ddau chwaraewr llinynnol mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni

Sharon Liang a Mali Wood

Gwobr Wil Jones

Dyfarnwyd i’r chwaraewr chwythbrennau mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni

Amélie Donovan

Gwobr Goronwy Evans

Dyfarnwyd i'r chwaraewr pres mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni

Carys Williams

Gwobr Telyn Tony Moore

Dyfarnwyd i’r telynor mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni

Yasmin Richards

Gwobr Offerynnau Taro Tony Moore

Dyfarnwyd i’r chwaraewr offerynnau taro mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni

Max Manuel

Gwobr Tîm Lles

Am gyfraniad cyffredinol i’r Gerddorfa

Aled Thistlewood

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Haf o Gyngherddau Syfrdanol gan Gerddorion Ifanc Gorau Cymru

Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi y bydd aelodau ein carfan 2024 hynod dalentog ar draws Band Pres, Cerddorfa a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn teithio ledled Cymru yr haf hwn, gan arddangos eu sgil a’u hymrwymiad mewn cyfres o gyngherddau cyhoeddus syfrdanol.

Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi y bydd aelodau ein carfan 2024 hynod dalentog ar draws Band Pres, Cerddorfa a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn teithio ledled Cymru yr haf hwn, gan arddangos eu sgil a’u hymrwymiad mewn cyfres o gyngherddau cyhoeddus syfrdanol. Byddant yn ymweld â lleoliadau ar draws y wlad o Sir Benfro i Ddinbych ym mis Gorffennaf, Awst a Medi ac mae tocynnau ar werth nawr.

Yn dilyn proses glyweld gynhwysfawr yn gynharach eleni, mae aelodau ein ensembles wedi cael eu dewis i gynrychioli Cymru gyda lle chwenychedig yn eu priod Ensembles Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Cyn bo hir bydd ein haelodau’n cychwyn ar gwrs preswyl wythnos o hyd, yn gweithio gyda thimau creadigol cyffrous o bob rhan o’r byd, yn perffeithio eu repertoire cyngherddau cyn camu ar y llwyfan i syfrdanu cynulleidfaoedd ym Mangor, Llanelwy, Llanbedr Pont Steffan, Abertawe a Chaerdydd. Bydd y tri Ensemble hefyd yn perfformio yn Eglwys Gadeiriol fawreddog Tyddewi fel rhan o Ŵyl Gerdd Abergwaun 2024.

Dywedodd Matthew Jones, Uwch Gynhyrchydd CCIC: “Un o rannau gorau fy swydd yw profi perfformiadau gwych ein ensembles cerddoriaeth. Ymhlith rhai o gerddorion mwyaf dawnus Cymru, mae ein haelodau ifanc yn gweithio’n galed yn ystod ein cyrsiau preswyl yn yr haf i roi rhaglen gyffrous o gerddoriaeth at ei gilydd i chi ei mwynhau. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’n perfformiadau, lle gallwn ddathlu’r gorau o dalent gerddorol Cymru gyda’n gilydd.”

Am y tro cyntaf erioed, bydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio cyngerdd cynhwysol, hamddenol. Yn cael ei gynnal yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd Caerdydd, mae'r perfformiad hwn sy’n fyrrach o ran hyd wedi'i gynllunio i ddarparu amgylchedd croesawgar a hygyrch i bob cynulleidfa, gan gynnwys pobl anabl, plant iau ac aelodau o'r gynulleidfa sy’n niwrowahanol.

 Mae dathlu gwaith Cyn-fyfyrwyr CCIC hefyd yn nodwedd o'r tymor eleni. Bydd yr ensembles yn perfformio cerddoriaeth a ysgrifennwyd gan dri chyn-aelod gyda Steel Tracks gan Michael Triggs, a aned yng Nghaerdydd, yn cael ei berfformio gan y Band Pres, Five Windows gan Niamh O'Donnell o Aberystwyth yn rhan o raglen y Gerddorfa tra bydd y Côr yn perfformio Cainc, comisiwn newydd sbon gan y gyfansoddwraig a aned yng Nghaerfyrddin, Claire Victoria Roberts, i gerdd a ysgrifennwyd gan y bardd Cymraeg enwog, Mererid Hopwood.

Gyda haf cyffrous o gyngherddau syfrdanol yn dod i leoliad yn agos atoch chi, mae rhywbeth at ddant pawb. Peidiwch âcholli allan-ewch i'n tudalen Beth Sydd Ymlaen am restr lawn ac ymunwch â ni i glywed dyfodol cerddoriaeth Gymraeg.

Read More
Guest User Guest User

Ein Cyngerdd Hamddenol yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd

Ar 31 Awst, bydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio cyngerdd hamddenol, wedi'i gynllunio i fod yn gynhwysol a chroesawgar ar gyfer pob oedran ac anghenion mynediad.

Yn y canllaw hwn, gallwch ddarganfod mwy am beth i'w ddisgwyl, a beth fydd gennym ni ar waith ar y diwrnod i'ch helpu i fwynhau'r cyngerdd.

Ar 31 Awst, bydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio cyngerdd hamddenol, wedi'i gynllunio i fod yn gynhwysol a chroesawgar ar gyfer pob oedran ac anghenion mynediad.

Yn y canllaw hwn, gallwch ddarganfod mwy am beth i'w ddisgwyl, a beth fydd gennym ni ar waith ar y diwrnod i'ch helpu i fwynhau'r cyngerdd.

Beth yw Cyngerdd Hamddenol?

Cyngerdd sy'n addas ar gyfer pob cynulleidfa, ni waeth eu hoedran na'u hanghenion mynediad.

Mae gan y lleoliad seddi hyblyg gyda digon o le ar gyfer cadeiriau olwyn, cerbydau symudedd neu bramiau/bygis.

Bydd dau le ymlacio ar gyfer unrhyw un sy'n teimlo wedi eu llethu, wedi cyffroi’n fawr neu a fyddai'n elwa o amser tawel ar unrhyw adeg yn ystod y cyngerdd.  Mae'r rhain wedi'u lleoli yn y cyntedd ac mewn ystafell ar wahân lle gellir trosglwyddo'r cyngerdd drwy sgrin. Os ydych chi angen unrhyw gefnogaeth, bydd aelod o staff CCIC mewn crys-t coch yn gallu eich cyfeirio i'r mannau hyn.

Bydd y cyngerdd hwn yn fyrrach na chyngerdd cerddorfaol nodweddiadol. Bydd yn cynnwys elfennau o brif raglen gyngerdd y Gerddorfa a bydd yn para tua 1awr 15munud.

Bydd polisi drws agored ac mae aelodau'r gynulleidfa yn rhydd i fynd a dod a chyfathrebu fel maen nhw angen.

Ni fydd aelodau'r gerddorfa yn gwisgo’r wisg gyngerdd ffurfiol, yn hytrach byddant yn gwisgo eu dillad eu hunain.


Y Gerddoriaeth

Five Windows gan Niamh O’Donnell

Ysgrifennwyd y darn hwn gan gyfansoddwr ifanc o Aberystwyth o'r enw Niamh (i’w ynganu Neeve) O'Donnell. Ysbrydolwyd cerddoriaeth Niamh gan wahanol baentiadau gan yr artistiaid George Braque a Wassily Kandinsky. Mae'r gerddoriaeth, wedi'i rhannu'n bum adran yn disgrifio'r hyn mae Niamh yn ei weld a'i deimlo wrth edrych ar y paentiadau. Gallwch ddod o hyd i recordiad o'i darn yma: Niamh O'Donnell; Five Windows - recordiad

The Firebird Suite gan Igor Stravinsky

Bale a ysgrifennwyd gan y cyfansoddwr Rwsiaidd Igor Stravinsy ym 1910 oedd The Firebird. Yn ddiweddarach, creodd Stravinsky dair cyfres o'r gerddoriaeth bale ar gyfer perfformiadau cyngerdd. Y gerddoriaeth y byddwch chi'n ei glywed yn y cyngerdd hwn yw symudiadau dethol o'r gyfres a ysgrifennwyd ym 1945.

Mae thema'r gerddoriaeth yn seiliedig ar chwedlau gwerin Rwsiaidd, a byddwch yn clywed Stravinsky yn darlunio gerddi hudolus, tywysogion drwg, cariad ac wrth gwrs y Firebird hudolus!

Romeo a Juliet gan Sergei Prokofiev

Ysgrifennodd cyfansoddwr Rwsieg arall, Sergei Prokofiev, y bale Romeo a Juliet yn seiliedig ar ddrama William Shakespeare ym 1940. Bydd y gerddorfa yn perfformio symudiadau dethol o'r bale yn y perfformiad hwn, gan gynnwys un symudiad y bydd unrhyw un sy'n gwylio The Apprentice, yn ei adnabod yn syth!

Mae pob symudiad yn disgrifio elfen wahanol o stori enwog Shakespeare am y cariadon trist eu tynged hyn yn hyfryd mewn cerddoriaeth.


Ar y Diwrnod

Bydd y cyngerdd yn dechrau am 3.30pm, ond byddwn yn agor y drysau o 2.30pm, felly mae croeso i chi ddod yn gynnar ac ymgyfarwyddo â gofod y cyngerdd a'r lleoliad.

Bydd gennym ni staff ar gael i helpu gyda pharcio a’ch arwain chi i'r lleoliad.

Bydd y Gerddorfa'n dechrau gwneud eu ffordd i ardal y llwyfan o tua 3.15pm ac yn treulio peth amser yn chwarae eu hofferynnau i gynhesu'n barod ar gyfer dechrau'r cyngerdd.

Oherwydd amgylchiadau annisgwyl, ni fydd y cyngerdd hamddenol hwn yn cynnwys dehongliad BSL mwyach. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

Y Lleoliad

Mae Canolfan yr Holl Genhedloedd yn lleoliad cwbl hygyrch heb unrhyw ymylon mwy nag 1cm i fynd o amgylch yr adeilad cyfan.

Bydd yr holl weithgarwch ar gyfer y cyngerdd hwn yn digwydd ar y llawr gwaelod, ond mae lifft i'r llawr cyntaf os oes angen.

Mae toiledau hygyrch ar gael ar y llawr gwaelod.

Maes Parcio

Mae 260 o leoedd parcio am ddim mewn dau faes parcio cyfagos, gyda digon o barcio hygyrch ar gael. Mae gennym ni hefyd y gallu i ddynodi lleoedd parcio hygyrch ychwanegol os oes angen.

Bydd parcio hygyrch yn cael ei ddarparu ym maes parcio'r Gorllewin, sy'n hygyrch drwy Sachville Avenue, o Heol yr Eglwys Newydd.

Teithio i'r Lleoliad

Mae Canolfan yr Holl Genhedloedd mewn safle da ar gyfer gyrru ac mae 260 o leoedd parcio am ddim i fynychwyr mewn dau faes parcio cyfagos.

Gallwch gyrraedd Maes Parcio y Gorllewin trwy Sachville Avenue oddi ar Heol yr Eglwys Newydd. Dyma'r lleiaf o'r ddau faes parcio ac felly mae'n llenwi'n gyflymach. Bydd y maes parcio hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer parcio hygyrch ac felly rydym ni’n annog unrhyw un nad oes angen parcio hygyrch i ddefnyddio maes parcio'r Dwyrain yn lle hynny.

Gallwch gyrraedd Maes Parcio y Dwyrain yn syth oddi ar ffordd ymadael yr A48 i mewn i Gaerdydd ac mae'n cynnig dros 200 o lefydd.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yn ymwneud â'r cyngerdd hwn, yna cysylltwch â ni ar nyaw@nyaw.org.uk neu ffoniwch ni ar 029 2280 7420 a byddwn yn falch o helpu.

Read More
Guest User Guest User

Aelodau Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn mynd tu ôl i'r llenni gyda 'Nye' y National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru

Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gyffrous i lansio ei chynnig aelodaeth ar gyfer 2024 gyda Llwybrau Proffesiynol yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Theatr Clwyd ac mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru gyda'r cyfle unigryw hwn i gymryd rhan mewn diwrnod dwys o weithdai dan arweiniad gweithwyr proffesiynol y diwydiant.

Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) yn gyffrous i lansio ei chynnig aelodaeth ar gyfer 2024 gyda Llwybrau Proffesiynol yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Theatr Clwyd ac mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru gyda'r cyfle unigryw hwn i gymryd rhan mewn diwrnod dwys o weithdai dan arweiniad gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Wedi'i gynllunio i feithrin talent ifanc ledled Cymru, mae Llwybrau Proffesiynol yn agored i bobl ifanc 16–22 oed, sydd eisiau ennill sgiliau perfformio a dysgu am y diwydiant theatr gan gynnwys rolau cefn llwyfan.

Ym mis Mai, gwyliodd mwy na 40 o bobl ifanc un o'r sioeau mwyaf poblogaidd yn y dref, wrth iddynt fynd y tu ôl i'r llenni yng nghynhyrchiad diweddaraf y National Theatre (NT) a Chanolfan Mileniwm Cymru (WMC) o 'Nye'. Gyda Michael Sheen yn serennu, cyn-fyfyriwr ThCIC, roedd y cast a'r tîm creadigol hefyd yn cynnwys nifer o gyn-fyfyrwyr ThCIC gan gynnwys Remy Beasley, Lee Mengo, Dyfan Dwyfor a Mali O'Donnell.

Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yw un o’r pethau mwyaf arbennig wnes i erioed ac rydw i’n ei gario gyda mi, hyd heddiw
— Remy Beasley, cyn-fyfyriwr ThCIC

Dan arweiniad Cyfarwyddwr Cyswllt Nye, Francesca Goodridge a Bablu Shikdar o Ganolfan Mileniwm Cymru, cymerodd yr aelod o ThCIC ran mewn gweithdai sgript a theatr gorfforol yn seiliedig ar olygfeydd o Nye ochr yn ochr â sesiynau ar gyflwyno, podledu a llwybrau gyrfa, gan gynnig mewnwelediadau amhrisiadwy i'r llwybrau amrywiol yn y celfyddydau.

Cafodd y garfan gipolwg hefyd ar y cynlluniau newydd cyffrous ar gyfer y gofodau creadigol a'r cyfleoedd i bobl ifanc yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Roedd uchafbwyntiau eraill y dydd yn cynnwys mynediad at baratoadau cyn y perfformiad cast Nye ynghyd â sesiwn holi ac ateb gydag aelodau'r cast a'r tîm creadigol ar y cynhyrchiad. Rhoddodd hyn lwyfan ysbrydoledig i aelodau ifanc ThCIC gysylltu â gweithwyr proffesiynol profiadol ac ennill gwybodaeth uniongyrchol o'r diwydiant. Fe wnaeth y cyfranogwyr ifanc hefyd fwynhau gwylio Nye yn Theatr Donald Gordan, gan ddenu brwdfrydedd mawr.

Yn ystod y sesiwn holi ac ateb, dywedodd y cyn-fyfyriwr, Remy Beasley: "Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yw un o'r pethau mwyaf arbennig wnes i erioed ac rydw i'n ei gario gyda mi, hyd heddiw. Mae'r rhan fwyaf o’r ffrindiau gorau sydd gen i nawr yn dod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Bydd y berthynas hon yn parhau am ddegawdau o'ch bywyd. Mae'n lle arbennig iawn i fod."

Dywedodd Megan Childs, Cynhyrchydd ThCIC: "Roedd hwn yn ddechrau perffaith i raglen ThCIC 2024, gan ddod ag aelodau ThCIC o'r gorffennol a'r presennol at ei gilydd drwy'r ddrama nodedig hon gan Tim Price a National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru, sydd ei hun yn awdur cynyrchiadau ThCIC yn y gorffennol. Rydym ni’n ddiolchgar iawn am haelioni cwmni Nye a Chanolfan Mileniwm Cymru wrth groesawu’r genhedlaeth nesaf o artistiaid o Gymru i’w hymarfer a’u sioe, gan gynnig y cydbwysedd perffaith o ysbrydoliaeth a datblygu sgiliau mae Llwybrau Proffesiynol yn anelu ato."

Mae ThCIC yn estyn diolch o galon i National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru am wneud y profiad cyfoethog hwn yn bosibl.

Wrth edrych tua'r dyfodol, mae ThCIC yn edrych ymlaen yn eiddgar at benwythnos preswyl llawn o weithgarwch Llwybrau Proffesiynol yn Theatr Clwyd ym mis Mehefin yn canolbwyntio ar y ddrama Rope gan Patrick Hamilton yn ogystal â chyhoeddi manylion cynhyrchiad hir-ddisgwyliedig yr haf mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Cymru a chwmni theatr Fio.

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn galw am gydnabyddiaeth gyhoeddus bod cyfranogiad y celfyddydau yn hanfodol i les meddyliol pob person ifanc.

Yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl 2024, rydym ni’n tynnu sylw at yr argyfwng ym maes iechyd meddwl i arddegwyr yng Nghymru, a'r rôl arwyddocaol y gallai cyfranogiad yn y celfyddydau ei chwarae wrth fynd i'r afael â hyn.

Yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl 2024, rydym ni’n tynnu sylw at yr argyfwng ym maes iechyd meddwl i arddegwyr yng Nghymru, a'r rôl arwyddocaol y gallai cyfranogiad yn y celfyddydau ei chwarae wrth fynd i'r afael â hyn.

Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yng Nghymru

Nododd 24% o bobl ifanc yn eu harddegau yng Nghymru lefelau “uchel iawn” o symptomau iechyd meddwl yn y blynyddoedd yn dilyn cyfnod clo COVID-19, yn ôl adroddiad diweddaraf y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd merched bron ddwywaith yn fwy tebygol na bechgyn o fod wedi adrodd am lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl.

Yn yr un modd, cyhoeddodd Mind Cymru ymchwil yn dangos bod 34% o bobl ifanc 16-24 mlwydd oed wedi profi iechyd meddwl oedd yn dirywio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Dywedodd niferoedd uchel eu bod yn teimlo dan fwy o straen (42%), yn fwy pryderus (41%), yn fwy isel (36%) ac yn dioddef cwsg gwaeth (39%), ac roedd tua thraean hefyd yn nodi eu bod yn datblygu teimladau o unigrwydd (30%).

Effeithiau Rhyfeddol Cyfranogiad y Celfyddydau

Mae tystiolaeth a gyhoeddwyd gan y Grŵp Ymchwil Bioymddygiadol Cymdeithasol yn UCL yn dangos bod pobl ifanc sy'n cymryd rhan yn rheolaidd yn y celfyddydau mewn llai o berygl o brofi iselder yn ystod glasoed. Mae ganddynt hunan-barch uwch hefyd, sydd yn ei dro yn effeithio ar ddatblygiad a lles gydol oes.

Ar gyfer y cannoedd o bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn ensembles a phrosiectau ieuenctid CCIC, rydym ni wedi gweld yn uniongyrchol y rôl bwysig mae'r celfyddydau yn ei chwarae yn eu hiechyd a'u hapusrwydd:

Dywedodd Aelod o Gwrs Preswyl CCIC: “Roedd bod yn aelod o CCIC yn werthfawr iawn i'm hiechyd meddwl dros y cyfnod clo... Roedd dychwelyd i gwrs preswyl yn bersonol yn 2022 yn brofiad anhygoel, a wnaeth yn bendant fy helpu i adennill llawer o'r hyder yr oeddwn wedi'i golli dros y cyfnod clo.”

Rydym ni wedi clywed straeon newyddion yr un mor gadarnhaol gan ein mudiadau partner niferus ledled Cymru, gan gynnwys Gwasanaethau Cerdd Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig  y BBC,  Urdd Gobaith Cymru, Elusen Aloud, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Ballet Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Theatr Clwyd ac eraill. Mae gan Gymru ecoleg gyfoethog ac amrywiol o gyfleoedd celfyddydol i bobl ifanc, o oedran cynradd, hyd at addysg uwch, a thu hwnt. Fe wnaeth cyflwyno'r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gerdd yn 2022 helpu i gynyddu cydweithio ar draws yr holl sefydliadau cerddoriaeth cenedlaethol, ac rydym yn datblygu strategaethau tebyg ar draws y sectorau theatr a dawns.

Buddsoddiad Cyhoeddus yn y Celfyddydau

Yn ei chyllideb ar gyfer 2024-25, gwnaeth Llywodraeth Cymru doriadau ar draws sawl sector er mwyn mynd i'r afael â diffyg sylweddol yn ei chyllideb gwerth £23bn. Mae cymorth i ddiwylliant, chwaraeon a thwristiaeth wedi gostwng £16m (gan gynnwys toriad o 10.5% i Gyngor Celfyddydau Cymru) wrth i'r llywodraeth ail-flaenoriaethu gwariant ar gyfer gwasanaethau iechyd. Bydd hyn yn gostwng £1.9m arall wrth i gyllidebau awdurdodau lleol gael eu heffeithio.

O ganlyniad, bydd darpariaeth celfyddydol ar gyfer pobl ifanc yn anochel yn cael ei lleihau. Mae'r holl dystiolaeth uchod yn awgrymu y byddwn ni’n gweld effaith uniongyrchol ar iechyd meddwl a chorfforol pobl ifanc ledled Cymru, gydag effeithiau pwysig i'r GIG a'r gwasanaethau cymdeithasol. Gallai'r costau ychwanegol canlyniadol hynny fod yn fwy na'r £18m sydd wedi'i dynnu oddi wrth ddarpariaeth y celfyddydau.

Dywedodd Evan Dawson, Prif Swyddog Gweithredol CCIC: "Mae'r gyllideb ar gyfer addysg a chyfranogiad celfyddydol yng Nghymru yn sicrhau enillion enfawr ar y buddsoddiad hwnnw. Mae angen i'r llywodraeth ddeall ar frys y bydd gwario llai ar ddarpariaeth y celfyddydau i bobl ifanc yn cynyddu straen ar y GIG. I'r gwrthwyneb, os ydym yn buddsoddi mwy mewn darpariaeth celfyddydau wedi'i thargedu, byddem yn cefnogi iechyd meddwl i bawb, wrth adeiladu Cymru hyderus, greadigol a hael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Dywedodd David Jackson OBE, Cadeirydd CCIC: “Mae effaith gadarnhaol cyfranogiad yn y celfyddydau ar iechyd meddwl yn amlwg ers tro, ac ni fu erioed fwy o angen yr effaith hon nag yn awr. Mae'n hollbwysig y dylai Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru barhau i ddatblygu ac ehangu ei gweithgareddau er budd pobl ifanc Cymru.”

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn lansio Criw Creu Newid.

Ar Ddiwrnod y Ddaear 2024, rydym yn gyffrous i lansio'r Criw Creu Newid - cydweithfa ieuenctid newydd sy'n cefnogi pobl greadigol ifanc i ddylanwadu ar ddyfodol y celfyddydau ledled Cymru. Bydd yn meithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr y celfyddydau, gan ganolbwyntio ar faterion amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol.

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn grymuso'r genhedlaeth nesaf o gerddorion, actorion, dawnswyr a gwneuthurwyr i greu dyfodol creadigol, hyderus a hael i Gymru.

Ar Ddiwrnod y Ddaear 2024, rydym yn gyffrous i lansio'r Criw Creu Newid - cydweithfa ieuenctid newydd sy'n cefnogi pobl greadigol ifanc i ddylanwadu ar ddyfodol y celfyddydau ledled Cymru. Bydd yn meithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr y celfyddydau, gan ganolbwyntio ar faterion amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol.

Credwn y dylai pob person ifanc gael mynediad at ystod eang o gyfleoedd artistig a diwylliannol fel rhan o fywyd iach, cysylltiedig â chyflawn. Gan ddod â gweledigaethwyr ifanc o bob rhan o Gymru at ei gilydd,  bydd Criw Creu Newid yn darparu llwyfan i lunio cyfeiriad strategol ac artistig CCIC, a dylanwadu ar newid yn sector celfyddydau ehangach Cymru. Bydd y gydweithfa yn helpu i nodi'r rhwystrau sy'n atal cymaint o bobl ifanc rhag cymryd rhan yn y celfyddydau, a sut y gellid goresgyn y rhain. Bydd yn grymuso pobl ifanc i yrru cynnydd a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ledled y sefydliad.

Yn ogystal â hwyluso deialog a gweithrediadau, bydd Criw Creu Newid yn gwasanaethu fel canolbwynt ar gyfer meithrin arweinwyr sector celfyddydau Cymru yn y dyfodol. Trwy ddosbarthiadau meistr a sesiynau hyfforddi sgiliau dan arweiniad gweithwyr proffesiynol dylanwadol, bydd aelodau'n cael cyfle i hogi eu sgiliau arwain ac ehangu gorwelion eu gyrfaoedd eu hunain.

Dywedodd Mason Edwards, Cynhyrchydd Cynorthwyol gyda CCIC: "Rwy'n falch iawn i weld lansiad y Criw Creu Newid wrth i Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru barhau â'i waith tuag at feithrin Llais Ieuenctid ym mhob rhan o'r sefydliad. Fel aelodau ar y cyd, nid yn unig y bydd gan y bobl ifanc hyn sedd wrth fwrdd CCIC, ond hefyd y cyfle i ddod at ei gilydd fel y genhedlaeth nesaf o arweinwyr y celfyddydau a helpu i lunio dyfodol celfyddydau Cymru er gwell".

Mae'r Criw Creu Newid yn cynnwys deg bobl ifanc, 18-25 oed o sawl cefndir ledled Cymru - wedi'u huno gan eu hangerdd am y celfyddydau a'u hymrwymiad i newid cadarnhaol. Byddant yn cyfarfod drwy gydol y flwyddyn i gydweithio ar fentrau allweddol fel stiwardiaeth amgylcheddol, partneriaethau cymunedol, cyfrifoldeb cymdeithasol a mesurau amrywiaeth a chynhwysiant.

Wrth wraidd y prosiect mae Adroddiad Criw Creu Newid, dogfen uchelgeisiol a luniwyd gan ei aelodau i arwain gwaith CCIC yn y blynyddoedd sydd i ddod. Bydd hyn yn cynrychioli gweledigaeth ar y cyd o ddyfodol mwy cyfiawn, teg a bywiog, gan wasanaethu fel cwmpawd wrth i CCIC lywio'r ffordd o'n blaenau.

Dywedodd Rightkeysonly, aelod o’r Criw Creu Newid CCIC: "Gan fy mod yn gorfforol anabl, yn niwroamrywiol, ac yn rhan o'r gymuned LGBT+ fy hun, rwy'n cael fy ngyrru i wella mynediad i'r celfyddydau, gan nad oedd bob amser ar gael i mi dyfu i fyny. Rwy'n credu bod CCIC yn gwneud y celfyddydau yn fwy hygyrch i unigolion amrywiol, a hoffwn gyfrannu at y daith honno".

Dywedodd Karema Ahmed, aelod arall o’r Criw Creu Newid CCIC: "Mae ymuno â CCIC fel Criw Creu Newidyn cynnig cyfleoedd dysgu amhrisiadwy. Rwyf wrth fy modd â'r safbwyntiau amrywiol yn y prosiect, gan ein galluogi i ddeall ein gilydd yn well. Rwy'n gobeithio, ar ôl y prosiect hwn, ein bod i gyd yn gallu cael gwell persbectif ar yr hyn sydd angen newid er gwell i'r dyfodol".

 I ddarganfod mwy am y prosiect ac i ddarllen straeon unigol y Criw Creu Newid, ewch draw i dudalen we Criw Creu Newid.

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn helpu pobl ifanc i wneud eu marc ar y sîn gerddoriaeth Gymraeg.

Ddiwedd mis Mawrth, roedd cerddoriaeth anhygoel yn llenwi'r awyr wrth i dros 20 o gerddorion ifanc o bob cwr o Gymru ddod at ei gilydd yn Rockfield Studios, Trefynwy ar gyfer yr wythnos breswyl "Cerdd y Dyfodol."  

Mae'r prosiect "Cerdd y Dyfodol," dan arweiniad Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC), yn rhaglen datblygu cerddoriaeth gyfoes ar gyfer gwneuthurwyr cerddoriaeth Cymru yn y dyfodol. Mae'n galluogi pobl ifanc 16-18 mlwydd oed, o gefndiroedd amrywiol, i ddarganfod eu potensial fel artistiaid, ac yn eu cefnogi i gamu i mewn i'r sîn gerddoriaeth Gymraeg bresennol. Mae'r prosiect yn cynnwys genres fel Grime, Indi, Electronica ac RnB.  

Wedi'i gynnal yn stiwdios eiconig Rockfield, lle mae sêr fel Queen, Led Zeppelin, Coldplay ac Oasis wedi gwneud recordiadau eiconig, roedd cwrs preswyl Cerdd y Dyfodol yn daith gyffrous o greadigrwydd, cydweithio a darganfod. Diolch i gyllid hael gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, dewiswyd y cerddorion uchelgeisiol hyn i gymryd rhan yn y rhaglen wythnos rhad ac am ddim o weithdai cyfansoddi caneuon, trafodaethau diwydiant, sesiynau recordio a chydweithio a chyfleoedd mentora. 

Dywedodd Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol: "Sefydlwyd ein Cronfa Sgiliau Creadigol i greu cyfleoedd i ddarpar bobl greadigol o bob cefndir a hyrwyddo arfer cynhwysol ar draws y sectorau. Mae'n wych gweld CCIC yn rhoi eu cyllid i ddefnydd rhagorol drwy ddarparu profiadau ymarferol a bywyd go iawn i artistiaid cerddoriaeth ein cenhedlaeth nesaf, ac mewn lleoliad mor eiconig! Bydd ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn ein galluogi i nodi ffyrdd newydd o weithio gyda'n gilydd a fydd o fudd i bobl ifanc greadigol ac yn agor drysau newydd i'r diwydiannau creadigol."

Trwy gydol yr wythnos, cafodd cyfranogwyr eu harwain gan ein Mentoriaid o’r diwydiant proffesiynol a Mentoriaid y Dyfodol, gan fireinio eu sgiliau ac archwilio gorwelion newydd ym maes cynhyrchu cerddoriaeth, cyfansoddi caneuon a pherfformio. O feistroli'r grefft o bresenoldeb llwyfan i ymchwilio i gymhlethdodau peirianneg sain, roedd y cwrs preswyl yn llwyfan i dalentau ifanc ddisgleirio a thyfu. I lawer o gyfranogwyr, roedden nhw eisoes wedi datblygu sgiliau mewn cynhyrchu cerddoriaeth gyfrifiadurol - ond dyma oedd eu cyfle cyntaf i ddysgu sut i gydweithio mewn amser real gyda cherddorion eraill. 

Dywedodd Lily Webbe, Cynhyrchydd dan Hyfforddiant Cerdd y Dyfodol CCIC: "Roedd cwrs preswyl Cerdd y Dyfodol yn brofiad mor gadarnhaol a gwefreiddiol i bawb a gymerodd ran. Rwy'n gobeithio bod y profiad hwn wedi eu hysbrydoli i archwilio eu creadigrwydd a'u helpu i ddarganfod y nifer o lwybrau a chyfleoedd gwahanol sydd gan y sîn gerddoriaeth Gymreig i'w cynnig. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r holl fentoriaid a mentoriaid y dyfodol gwych sydd wedi bod yn rhan o'r prosiect hwn, a'r tîm anhygoel yn Rockfield. Roedd eu cefnogaeth yn help mawr i wneud y cwrs preswyl yn brofiad gwirioneddol hudol i bawb."  

Dywedodd Sky, cyfranogwr yn y rhaglen Cerdd y Dyfodol eleni: "Mae'r cyfnod preswyl hwn wedi helpu pawb o ran adeiladu ein dewrder wrth recordio cerddoriaeth wreiddiol ac mae hefyd wedi rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i ni mewn perthynas â rhyddhau, marchnata a hyrwyddo ein cerddoriaeth hefyd. Er mai dim ond am dridiau y buom ni yno, mae'r sgyrsiau’r diwydiant, cydweithfa'r prosiect a’r gallu cydweithio â phobl newydd o genres ac arddulliau amrywiol wedi fy helpu i fagu fy hyder fy hun hefyd".

Ond nid yw'r daith yn gorffen yn y fan honno. Wrth i ni ffarwelio â chwrs preswyl Cerdd y Dyfodol, edrychwn ymlaen at y bennod nesaf yn nhaith gerddorol y cyfranogwr ifanc. Cyn bo hir, byddwch yn gallu clywed dyfodol cerddoriaeth Gymraeg drosoch chi eich hun mewn gig sydd ar y gweill, lle bydd yr artistiaid ifanc eithriadol hyn yn camu ar y llwyfan yn barod i roi'r cyfan maen nhw wedi'i ddysgu ar waith.  

Ymunwch â CCIC wrth i ni ddathlu potensial diderfyn y genhedlaeth nesaf yn The Corn Exchange, Casnewydd ar Ebrill 28 a pharatoi i weld dyfodol cerddoriaeth yn ei holl ogoniant. 

 Archebwch eich tocynnau trwy Corn Exchange heddiw! 

 
Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn rhoi hwb i'w ymrwymiad i gefnogi perfformwyr ifanc Byddar ac anabl.

Dechreuodd tîm staff Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) 2024 gyda dull newydd o gefnogi perfformwyr ifanc b/Byddar ac anabl ledled Cymru. Dros bedwar diwrnod, bu'r tîm staff cyfan yn gweithio gydag arbenigwyr celfyddydau cynhwysol Taking Flight i ddatblygu eu gallu i gefnogi, cysylltu ac ymgysylltu â phobl ifanc f/Fyddar ac anabl.

A diverse group of individuals posing for a photo in a classroom or office setting, appearing to be in a collaborative or learning environment.

Dechreuodd tîm staff Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) 2024 gyda dull newydd o gefnogi perfformwyr ifanc Byddar ac anabl ledled Cymru. Dros bedwar diwrnod, bu'r tîm staff cyfan yn gweithio gydag arbenigwyr celfyddydau cynhwysol Taking Flight i ddatblygu eu gallu i gefnogi, cysylltu ac ymgysylltu â phobl ifanc Fyddar ac anabl. Nod yr hyfforddiant oedd galluogi'r rhai ar draws y sefydliad i ddarparu lefel llawer uwch o gymorth pwrpasol i bob perfformiwr ifanc unigol, a sicrhau y gall ensembles a phrosiectau CCIC fod yn groesawgar i bob person ifanc.

Fe wnaeth y gyfres o weithdai arloesol a rhyngweithiol alluogi aelodau staff i gynyddu eu dealltwriaeth o gynwysoldeb a mynediad drwy hyfforddiant ymarferol, gyda chefnogaeth tîm gwych o hwyluswyr Taking Flight sydd â phrofiad byw o anabledd. Rhoddwyd sylw i arbenigeddau megis ymwybyddiaeth o ddallineb, ymwybyddiaeth Byddar a hyfforddiant cydraddoldeb penodol i’r sector yn fanwl, gan arwain at drafodaethau sy'n ysgogi'r meddwl fel man cychwyn ar gyfer newid parhaus a gwreiddio.

Yn dilyn yr hyfforddiant, dywedodd Evan Dawson, Prif Weithredwr CCIC: "Yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, rydym ni’n gwybod bod creadigrwydd a chyfranogiad diwylliannol yn elfennau hanfodol o fywyd iach, hapus a chysylltiedig. Dylai pob person ifanc yng Nghymru gael cyfle i archwilio ei botensial artistig ei hun. Nid yw talent yn gwahaniaethu - felly mae'r cyfle hwn i weithio'n fanwl gyda Taking Flight wedi ein helpu i ddeall y prif rwystrau i bobl ifanc Fyddar ac anabl ymgysylltu â ni. Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i wneud Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gymuned groesawgar, gefnogol a gwirioneddol greadigol i bawb. Mae'n wirioneddol gyffrous."

Gyda 17% o aelodau ensemble CCIC yn nodi eu bod nhw’n F/fyddar neu'n anabl yn 2023, mae aelodau staff yn edrych ymlaen at gymhwyso'r hyfforddiant hwn yn uniongyrchol i'w gwaith ar draws ensembles, prosiectau a thu hwnt. Mae hyn yn cynnwys prosiectau fel y rhaglen bartneriaeth "Assemble" gyda National Youth Theatre GB, sydd wedi'i chynllunio i gefnogi pobl ifanc Byddar ac anabl trwy ymyriadau tymor hir mewn ysgolion nad ydynt yn ysgolion prif ffrwd.

Dywedodd Hope Dowsett, Cynhyrchydd Cyfranogiad a Dysgu yn CCIC: "Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Taking Flight am gynnal cyfres o sesiynau hyfforddi mor ysgogol, craff a diddorol gyda ni. Fe wnaeth pob aelod o staff a gymerodd ran elwa a gwella eu gwybodaeth o weithio gyda phobl anabl, ac rydym ni bellach yn dechrau cymhwyso'r wybodaeth hon yn uniongyrchol i'n gwaith. Bydd hyn yn ein galluogi i ddarparu profiad hyd yn oed yn well i'r bobl ifanc anhygoel rydyn ni'n gweithio gyda nhw bob blwyddyn."

Dywedodd Steph Bailey-Scott, Swyddog Cyfranogiad, Mynediad a Chynhwysiant yn Taking Flight: "Roedd hi'n bleser pur cael cynnal ein sesiynau hyfforddi gyda thîm CCIC, roedd eu hangerdd am bopeth o ran mynediad a chynhwysiant mor wych i'w weld. Rwy'n credu bod y tîm hwn yn mynd i fynd yn bell iawn, ac rwyf mor gyffrous i’r holl bobl ifanc Fyddar/anabl a niwroamrywiol a fydd yn cymryd rhan yn eu holl brosiectau sydd ar y gweill."

Bydd CCIC yn parhau i adolygu ac adnewyddu ei ddarpariaeth hyfforddi yn y maes hwn, fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i ddod â mwy o gyfleoedd artistig i fwy o bobl ifanc ledled Cymru o'r ystod ehangaf o gefndiroedd.

Os gallech chi neu eich sefydliad elwa o dderbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd gan Taking Flight, cysylltwch â steph@takingflighttheatre.co.uk.

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Cydweithrediad cenedlaethol newydd i gryfhau dawns ieuenctid yn Nghymru

Mae tri sefydliad dawns blaenllaw wedi nodi carreg filltir bwysig yng nghelfyddydau Cymru trwy arwyddo memorandwm cyd-ddealltwriaeth, mewn ymgais i gefnogi twf dawns yng Nghymru.

Mae tri sefydliad dawns blaenllaw wedi nodi carreg filltir bwysig yng nghelfyddydau Cymru trwy arwyddo memorandwm cyd-ddealltwriaeth, mewn ymgais i gefnogi twf dawns yng Nghymru.

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, a Ballet Cymru wedi dod at ei gilydd i alluogi ymgysylltiad dawns ieuenctid cryfach a chyfranogiad ledled y wlad.

Gan gynrychioli ymdrech unedig, bydd y gynghrair strategol hon yn sefydlu fframwaith cynhwysfawr ar gyfer darpariaeth dawns ieuenctid ledled y wlad. Drwy gyfuno eu hadnoddau a'u harbenigedd, bydd y sefydliadau'n creu seilwaith cadarn a chynhwysol sy'n meithrin twf dawns ieuenctid yng Nghymru.

Bydd hyn yn sicrhau bod pob agwedd ar eu cynigion yn canolbwyntio ar hygyrchedd, cynhwysiant, ansawdd, a chyfleoedd datblygu a pherfformiad pellach. Mae hyn, yn ei dro, yn gosod dawns ieuenctid fel rhan annatod o hunaniaeth ddiwylliannol Cymru.

Mae llofnodi'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn nodi eiliad ganolog yn y daith gydweithredol i gefnogi a chryfhau'r dirwedd ddawns yng Nghymru. Gydag ymrwymiad ar y cyd i feithrin talent a meithrin cynwysoldeb, bydd y gynghrair yn gosod y sylfaen ar gyfer twf cynaliadwy ac arloesedd mewn mentrau dawns ieuenctid ledled y wlad.

Dywedodd Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Evan Dawson: "Yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, rydym ni’n gyffrous iawn am gael perthynas agosach fyth â Ballet Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

"Gan weithio gyda'n gilydd a gyda'r sector dawns ehangach, rydym ni am ddarparu cyfleoedd creadigol a blaenllaw yn y byd i ddawnswyr ifanc a choreograffwyr. Mae'n gyfnod heriol iawn i bawb sy'n gweithio yn y celfyddydau ar hyn o bryd, ond rydym ni’n hyderus y bydd y cydweithrediad strategol newydd hwn yn helpu'r genhedlaeth nesaf o ddawnswyr i wneud y mwyaf o'r adnoddau sydd gennym wrth gefnogi sefydliadau dawns ar lawr gwlad ledled Cymru hefyd."

Dywedodd Jamie Jenkins, Cynhyrchydd Dawns Ieuenctid Cenedlaethol Cymru: "Bydd y bartneriaeth newydd hon yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i lunio dyfodol dawns ieuenctid ledled Cymru ac ar yr un pryd cefnogi a dathlu darpariaeth dawns ieuenctid sydd eisoes wedi'i sefydlu.  Mae NDCWales, Ballet Cymru a Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cydweithio'n gam i gyfeiriad cadarnhaol."

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig NDCWales, Matthew Robinson: "Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn ceisio ysbrydoli a gyrru datblygiad artistiaid yfory drwy'r gwaith rydym ni’n ei wneud ar lwyfannau ac oddi arno. Wrth i ni gychwyn ar y cydweithrediad strategol hwn gyda Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Ballet Cymru, mae ein huchelgais ar y cyd ar gyfer pobl ifanc yn fy llenwi ag optimistiaeth ar gyfer y dyfodol. Rydym ni’n edrych ymlaen at weithio gydag artistiaid, athrawon a sefydliadau annibynnol anhygoel Cymru i sicrhau bod ein gwaith rhyng-gysylltiedig yn cael yr effaith fwyaf ar bobl ifanc. Gall artist gwych ddod o unrhyw le, ac rydym ni wedi ymrwymo gyda'n gilydd i alluogi artistiaid ifanc, ble bynnag y bônt yng Nghymru, i lunio dyfodol dawns."

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Ballet Cymru, Darius James OBE a'r Cyfarwyddwr Artistig Cynorthwyol, Amy Doughty: "Mae Ballet Cymru yn gwmni bale cenedlaethol i Gymru sy'n herio ffiniau a disgwyliadau traddodiadol. Rydym ni’n falch iawn o fod yn gweithio'n agos gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru i greu cyfleoedd newydd yn strategol i ysbrydoli a chefnogi ein cenhedlaeth nesaf o ddawnswyr. Mae'r ymdrech gydweithredol genedlaethol hon i ddyrchafu dawns, cynyddu cynhwysiant, a darparu mwy o fynediad i ddawnswyr ifanc ledled Cymru, yn hynod gyffrous."

Dywedodd Laura Drane o Gyngor Celfyddydau Cymru: "Mae croeso cynnes i'r cynlluniau hyn i gryfhau cyfranogiad a mynediad at ddawns ieuenctid. Mae'n gyffrous clywed sut mae'r tri sefydliad cenedlaethol yn bwriadu cydweithredu a rhannu adnoddau, gan ddod â'u blynyddoedd o arbenigedd ynghyd. Bydd y bartneriaeth hon yn helpu i ddatblygu'r sector ac yn effeithio ar deithiau artistig pobl ifanc Cymru."

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Theatr Clwyd a Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cynnig Llwybrau Proffesiynol i bobl ifanc ledled Cymru yr haf yma

Mae Theatr Clwyd a Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) wedi bod yn cydweithio ers 6 blynedd gan ddarparu cyfleoedd unigryw i bobl ifanc ledled Cymru ac ni fydd eleni yn eithriad.

Yr haf yma byddant yn cynnal eu Rhaglen Breswyl Llwybrau Proffesiynol 2024 yn Theatr Clwyd. Mae Llwybrau Proffesiynol yn agored i bobl ifanc 16 i 22 oed sydd eisiau meithrinsgiliau perfformio a dysgu am y diwydiant theatr, gan gynnwys y swyddi cefn llwyfan. Yn ystod y cyfnod preswyl o 3 diwrnod yn Theatr Clwyd (28 Mehefin -1 Gorffennaf), bydd 50 o bobl ifanc yn mynd y tu ôl i’r llenni ar gynhyrchiad haf y lleoliad o Rope gan Patrick Hamilton. Byddant yn gweithio gyda'r timau creadigol proffesiynol ar y sioe ac yn gweld drostynt eu hunain sut mae'n cael ei chreu. Bydd gweithdai hefyd ar sgiliau perfformio a chlyweliad, a chyflwyniad i gefn y llwyfan, gan gynnwys cynllunio setiau a gwisgoedd, cynllunio’r goleuo a’r sain a rheoli’r llwyfan. Bydd y cyfnod preswyl yn ddwyieithog ac rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y theatr i ymgeisio. 

Dywedodd Evan Dawson, Prif Weithredwr Celfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru: Mae gan Gymru draddodiad theatrig mor gyffrous, ond mae’n anodd i bobl ifanc ddeall yr ystod eang o wahanol yrfaoedd ar y llwyfan ac yng nghefn y llwyfan y gallent eu cael. Mae’r bartneriaeth yma rhwng Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Theatr Clwyd yn gyfle gwych i ysbrydoli, cefnogi a chysylltu ein cenhedlaeth nesaf o actorion, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr goleuo, peirianwyr sain, gwneuthurwyr gwisgoedd, cynhyrchwyr a mwy!”

Eisoes eleni mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Theatr Clwyd wedi mynd i 8 ysgol ar draws Gogledd a De Cymru yn cyflwyno gweithdai i roi cipolwg ar beth i'w ddisgwyl yn y clyweliadau a'r cyfnod preswyl Llwybrau Proffesiynol.

Mae’r cyfranogwyr preswyl blaenorol wedi dweud: Mae Llwybrau Proffesiynol yn cael ei alw yn hynny am reswm, rydych chi wir yn cael eich addysgu gan, a'ch trin fel, gweithiwr proffesiynol. Rydych chi’n cael dysgu'r sgiliau y bydd arnoch eu hangen yn bendant i symud ymlaen o fewn y celfyddydau."

“Mae cymaint o wahanol bethau rydw i wedi’u dysgu ac rydw i wedi sylweddoli nad dim ond un ffordd gul i mewn i'r diwydiant sydd, mae cymaint o wahanol lwybrau a siwrneiau y mae pobl yn eu dilyn”

(Cyfnod Preswyl y Pasg Llwybrau Proffesiynol 2023 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru)

Dywedodd Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Cymunedau, Lles ac Addysg Theatr Clwyd, am y bartneriaeth: Rydyn ni’n falch iawn o barhau i gynyddu cyfleoedd i bobl ifanc ledled Cymru gyda TheatrIeuenctid Genedlaethol Cymru. Gyda’n gilydd fe fyddwn ni’n ymdrechu i agor y cyfleoedd i bob rhan o Gymru ac i sicrhau ein bod ni’n datblygu pob elfen o greu theatr!

Mae’r archebion ar gyfer y gweithdai clyweliad ar gyfer y cyfnod preswyl a chyfleoedd eraill i aelodau ThCIC ar agor tan 27 Chwefror gyda chlyweliadau’n cael eu cynnal ledled Cymru rhwng 9 Mawrth a 25 Mawrth mewn lleoliadau niferus, gydag opsiwn ar gyfer sesiynau ar-lein ar zoom. I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais a beth i’w ddisgwyl o’r gweithdy clyweliad ewch i: https://www.ccic.org.uk/clyweliadau

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Aelodau Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi'u dewis i gynrychioli Ewrop

 Mae'n bleser gan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru gyhoeddi bod tri uwch aelod o Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (BPCIC) wedi cael eu dewis i gynrychioli Cymru yn y Band Pres Ieuenctid Ewropeaidd (EYBB) blynyddol eleni.  

Three young musicians posing with their brass instruments

 Mae'n bleser gan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru gyhoeddi bod tri uwch aelod o Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (BPCIC) wedi cael eu dewis i gynrychioli Cymru yn y Band Pres Ieuenctid Ewropeaidd (EYBB) blynyddol eleni.  

Bydd Alice Tracey, Erin Maloney, a Patrick Miller (sydd wedi bod yn aelodau o'r CCIC ers 2019) yn teithio i Palanga, Lithwania ddiwedd mis Ebrill. Yn ogystal â chynrychioli BPCIC, bydd Alice a Patrick hefyd yn cynrychioli Band Pres Llwyncoed ac Erin yn cynrychioli Band Flowers.  

Yn ystod y cyfnod preswyl rhyngwladol, bydd Alice, Erin a Patrick yn cydweithio â rhai o'r cerddorion band pres ifanc gorau o bob rhan o Ewrop o dan arweinyddiaeth Philip Harper (cyn arweinydd BPCIC a Chyfarwyddwr Cerdd y Band Cory byd-enwog).  

Bydd eu hamser gyda Band Pres Ieuenctid Ewrop yn dod i ben gyda chyfres o gyngherddau'n cael eu cynnal yn ystod wythnos gyntaf mis Mai. Bydd cystadleuaeth Band Pres Ewrop hefyd yn cael ei chynnal yn ystod yr wythnos honno, gan roi cyfle i fandiau o bob rhan o'r cyfandir gystadlu am un o'r gwobrau mwyaf mawreddog yng nghalendr y Band Pres.  

Wrth sôn am eu llwyddiant, dywedodd Uwch Gynhyrchydd CCIC, Matthew Jones: "Mae Erin, Alice a Patrick yn aelodau hŷn hirsefydlog o Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac maen nhw i gyd yn gerddorion rhagorol.  Mae'n gyfle gwych iddyn nhw weithio gyda cherddorion bandiau pres gorau o bob rhan o Ewrop, ac rwy’n siŵr y byddan nhw'n cael amser gwych tra'n gwneud Cymru'n falch". 

Dywedodd Alice Tracey, un o'r tri aelod a ddewiswyd: "Rydw i mor ddiolchgar am gyfle mor wych ac rwy'n gyffrous iawn i gwrdd a chwarae ochr yn ochr â cherddorion o bob rhan o Ewrop".  

Mae'r EYBB wedi bod yn gweithredu ers dechrau'r 2000au. Mae'n gyfle gwych i chwaraewyr pres ifanc talentog ledled Ewrop chwarae a datblygu gyda'i gilydd ar lefel gyfandirol am wythnos. Byddant yn perfformio fel band pres llawn ar wahanol achlysuron yn ystod Pencampwriaethau Band Pres Ewrop 2024, gan gynnwys cyngerdd Cystadleuaeth Cyfansoddwr Ewrop, Seremoni Agoriadol, a Chyngerdd y Grand Gala. 

Bydd rhaglen Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru eleni yn dechrau gydag ymarferion byw yng nghanol mis Mawrth cyn cwrs preswyl a thaith perfformio 11 diwrnod gyda lleoliadau ar draws Bangor, Caerfyrddin ac Abertawe. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan CCIC. 

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

2023 Wrapped

Wrth i ni nesáu at ddiwedd 2023, ac wrth i ni fidio adieu i nodiadau a chamau dawns derfynol y tymor rhyfeddol hwn, roeddem am fyfyrio ar ein gwaith eleni, yn llawn creadigrwydd, cymuned, ac eiliadau di-ri o ysbrydoliaeth.

Wrth i ni nesáu at ddiwedd 2023, ac wrth i ni fidio adieu i nodiadau a chamau dawns derfynol y tymor rhyfeddol hwn, roeddem am fyfyrio ar ein gwaith eleni, yn llawn creadigrwydd, cymuned, ac eiliadau di-ri o ysbrydoliaeth.

O Fangor i Gaerdydd, Llanbedr Pont Steffan i Gasnewydd, yr haf hwn fe wnaethom deithio’n ymhell a llydan, gan gynnal cyfanswm o 9 preswylfeydd ar draws 4 lleoliad ledled Cymru. Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau creadigol eraill gan gynnwys Ballet Cymru, Theatr Clwyd a BBC NOW, gwnaethom berfformio mewn 18 digwyddiad cyhoeddus, gan arddangos talentau a chreadigrwydd anhygoel y 282 o bobl ifanc sy’n aelodau CCIC. Darparwyd cyfanswm o brofiadau hyfforddi o ansawdd uchel i 959 o bobl ifanc yn 2023.

"Ar ôl bod yn aelod o CCIC dwi fel person newydd... ar y cyfan, rwy'n gerddor LLAWER gwell na'r hyn y byddwn wedi bod heb CCIC " -  Aelod CCIC 2023

"Mae TCIC wedi gwasanaethu fel byffer gwych i mi fel rhywun sy’n rhy hen ar gyfer theatr ieuenctid nôl adre ac fel rhywun oedd ddim yn mynd i'r brifysgol... Roedd TCIC yno i mi bob tro. " - Aelod TCIC 2023

"Mae bod yn rhan o Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru wedi helpu i ailgynnau fy nghariad at ddawnsio" - Aelod NYDW 2023

Gan ddechrau ym mis Gorffennaf gyda pherfformiadau gan Fand Pres Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, hyd at Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn cau ein perfformiadau yn 2024 mewn steil yng Nghasnewydd, rydym wedi gadael ein marc ar y sîn gelfyddydol yng Nghymru eleni. Gyda chyfanswm syfrdanol o 70,000+ o aelodau gynulleidfa yn cefnogi ein gwaith. Gwelsom hefyd torriad record yn y nifer a ddaeth i wylio cynhyrchiad arloesol, dwyieithog ac uchel ei glod gan critigyddion Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru o Dan Y Wenallt/Under Milk Wood, gyda dros 800 o bobl yn gwylio’r perfformiad. Yn ogystal ym mis Tachwedd cafwyd cyngerdd ochr yn ochr ychwanegol rhwng Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, ym Mae Caerdydd.

Yn ei adolygiad Dan Y Wenallt/Under Milk Wood ar gyfer Cylchgrawn Barn, dywedodd Gruffudd Owen: "Dyma'r defnydd mwyaf naturiol, pwrpasol ac effeithiol o ddwyieithrwydd i mi ei weld ar lwyfan erioed... Roedd y cynhyrchiad hefyd yn arwydd o beth all theatr yng Nghymru fod."

Wrth sôn am ein perfformiad DGIC o 'Twenty Tales' a berfformiwyd fel digwyddiad triphlyg gyda Ballet Cymru a Marcat Dance, dywedodd y canwr-gyfansoddwr Cerys Matthews trwy X: "Roedd yn wych - Dewis cerddoriaeth, symud, dylunio, gwisgoedd a choreograffi ac undod cyffredinol. Yn hollol bewitching".

Yr haf hwn fe wnaethom ddyfarnu £71,404 mewn bwrsariaethau tuag at ffioedd, gan gefnogi 54% o'n haelodau. Mae’r swm torriad-record hwn, ynghyd â threuliau teithio ychwanegol i aelodau, yn adlewyrchu ein hymrwymiad i greu amgylchedd cynhwysol a chwalu'r rhwystrau i fynediad i ein aelodau.

Wrth sôn am lwyddiant y flwyddyn, dywedodd ein Cadeirydd, David Jackson: "Wrth i 2023 ddirwyn i ben, ac wrth i ni baratoi ein hunain am flwyddyn arall, hoffwn longyfarch y tîm sydd wrth wraidd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar y ffocws trawiadol y maent yn parhau i'w gynnal ar fanteision cyfranogiad y celfyddydau a hyfforddiant lefel uchel i bobl ifanc Cymru. Diolch iddyn nhw mae gennym y weledigaeth, a chynllun credadwy, i fynd i'r afael â thangynrychiolaeth yn y gweithlu yn sector diwylliannol Cymru, ac i gefnogi llwybrau i'r sector hwnnw sydd o fudd i'r byd celfyddydol ehangach yn genedlaethol. Hoffwn ddiolch hefyd i'm cyd-ymddiriedolwyr am eu holl waith caled a'u hymrwymiad. Hoffwn feddwl bod y dyfodol yn edrych yn ddisglair i CCIC a phobl ifanc Cymru. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb".

Wrth i ni ffarwelio â'r flwyddyn ryfeddol hon, estynnwn ein diolchgarwch dyfnaf i bawb a gyfrannodd at ei llwyddiant ysgubol. Y artistiaid, y cynulleidfaoedd, y cymunedau – mae eich brwdfrydedd a'ch cefnogaeth wedi ein gyrru i uchderau newydd, ac ni allwn aros i barhau â'r daith hon gyda'n gilydd yn 2024.

Hoffem hefyd ddiolch yn fawr iawn i'n cyllidwyr sydd wedi gwneud ein gwaith yn bosibl yn 2023: Cyngor Celfyddydau Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru, Sefydliad Paul Hamlyn, Ymddiriedolaeth Leverhulme, Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Sefydliad Moondance, Cronfa Bwrsariaeth Neil a Mary Webber,  Cyfeillion Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Ymddiriedolaeth Bluefields a Celfyddydau & Busnes Cymru.

Hoffech chi fod yn rhan o'n taith 2024? Allech chi fod yn ddyfodol y celfyddydau Cymraeg? Mae ceisiadau ar gyfer ein Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru bellach ar agor, gallwch wneud cais yma.

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Partneriaeth newydd yn ceisio creu dyfodol disglair i gerddorion cerddorfaol ifanc yng Nghymru

Mae partneriaeth newydd wedi cael ei chyhoeddi rhwng Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (BBC NOW) a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (NYAW), i ddarparu cyfleoedd cerddorfaol a chorawl a llwybrau gyrfa proffesiynol i bobl ifanc ledled Cymru.

Mae partneriaeth newydd wedi cael ei chyhoeddi rhwng Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (BBC NOW) a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (NYAW), i ddarparu cyfleoedd cerddorfaol a chorawl a llwybrau gyrfa proffesiynol i bobl ifanc ledled Cymru.

Cyhoeddwyd y fenter yn ystod cyngerdd “ochr wrth ochrl” ar y cyd gan y ddwy gerddorfa yn Neuadd Hoddinott y BBC ddiwedd mis Tachwedd. Gyda’i gilydd, maen nhw wedi ymrwymo i rymuso darpar gerddorion proffesiynol ledled Cymru drwy gefnogi sgiliau perfformio a meithrin eu twf proffesiynol drwy gyfleoedd perfformio cerddorfaol. Byddant hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru, gan gefnogi’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth.

Bydd cerddorion ifanc ar ddechrau eu gyrfaoedd yn elwa o gyfuniad cyfoethog o gyfleoedd datblygu, gan gynnwys cyngherddau ochr yn ochr â cherddorion proffesiynol y BBC, perfformiadau canu corawl, sesiynau mentora a gweithdai, comisiynu cerddoriaeth newydd, a phrosiectau gyda cherddorion a chyfansoddwyr sy’n gweithio y tu allan i’r sector cerddoriaeth glasurol draddodiadol.

Mae BBC NOW ac NYAW wedi cydweithio’n llwyddiannus ers 2001, gan redeg cyngherddau ochr yn ochr ar gyfer cerddorion ifanc, sy’n cael gwybodaeth a phrofiad drwy berfformio gyda chwaraewyr proffesiynol. Mae’r cyngherddau hyn wedi rhoi’r hyder i genedlaethau o gerddorion ifanc ddilyn gyrfaoedd proffesiynol, ac mae’r ymrwymiad newydd hwn yn ceisio creu llwyfan deinamig i bobl ifanc drwy gynnig cyfle unigryw iddynt fireinio eu crefft ac arddangos eu doniau ar lwyfan ehangach.

Sefydlwyd NYAW yn 2017 ac mae’n ceisio datblygu llwybrau creadigol ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru. Mae’n uno ac yn arwain y gwaith o ddatblygu pum ensemble ieuenctid cenedlaethol arobryn a sefydledig Cymru, sy’n cynnwys Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Sefydlwyd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ym 1945, a hi oedd y gerddorfa ieuenctid gyntaf erioed yn y byd, ac mae wedi bod yn perfformio’n rheolaidd ers hynny.

Dywedodd Evan Dawson, Prif Weithredwr NYAW: “Bydd y bartneriaeth hon gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC o fudd enfawr i gerddorion ifanc Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Yn ogystal â pherfformio cerddoriaeth wych o’r safon uchaf, byddant yn cael gweithio’n ddwys i amserlen broffesiynol ac yn dysgu’n uniongyrchol gan gerddorion y BBC maent wedi’u lleoli gyda nhw. Bydd yn rhoi cipolwg iddyn nhw ar fyd cerddorfaol lle gallen nhw weld eu dyfodol eu hunain, gan feithrin ein cenhedlaeth nesaf o gerddorion o Gymru. Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm gwych yn BBC NOW dros y blynyddoedd nesaf i ddatblygu cyfleoedd creadigol i bobl ifanc ledled Cymru.”

Dywedodd Lisa Tregale, Cyfarwyddwr Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC: “Yn BBC NOW, rydyn ni’n credu bod cerddoriaeth a chreu cerddoriaeth yn rhywbeth i bawb, felly rydyn ni’n croesawu’r cyfle hwn yn gadarnhaol i gydweithio â NYAW yn agosach byth i helpu i ysbrydoli cerddorion, cantorion a chyfansoddwyr ifanc ledled Cymru. Mae pawb yn BBC NOW yn edrych ymlaen at adeiladu ar y gwaith rydyn ni wedi’i wneud gyda NYAW dros y blynyddoedd, a gyda’n gilydd ein nod yw datblygu hyd yn oed mwy o gynlluniau creadigol, hwyliog a chynhwysol a fydd o fudd i gerddorion ifanc ym mhob man.”

Dywedodd Mari Lloyd Pritchard, Cydlynydd Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru: “Mae gweithio mewn partneriaeth wrth galon y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol wrth i ni ymdrechu gyda’n gilydd i ddatblygu cymaint o gyfleoedd â phosibl i blant a phobl ifanc ddatblygu eu sgiliau chwarae a chael mynediad at lwybrau gyrfa. Rydyn ni’n falch iawn o weld y cydweithio newydd a chyffrous hwn.”

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Arddangos y genhedlaeth nesaf o ddawns Cymru

Ai ti yw dyfodol dawns Cymru? Mae ceisiadau i fod yn aelod NYDW 2024 bellach ar agor!

Fel rhan o breswyliad dwys yr haf Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) eleni, daeth ugain o ddawnswyr ifanc a fwyaf talentog Cymru at ei gilydd yng Nghaerdydd i ddysgu gan dîm o goreograffwyr ac artistiaid dawns uchel eu parch. Am y tro gyntaf, gweithion nhw gyda Chyfarwyddwr Artistig a Choreograffydd Dawns Marcat, Mario Bermúdez, i greu gwaith newydd sbon sy'n archwilio themâu symudiad, gweadau a pherthnasoedd llwythol yn ystod eu pythefnos o breswyliad.

"Mae bod yn rhan o Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru wedi helpu i ailgynnau fy nghariad at ddawns, ac mae'r profiad hwn wedi fy ysbrydoli ac wedi gwneud i mi weld llwybrau posib sydd yno i mi gyda dawns gyfoes" – Aelod NYDW 2023

Perfformiwyd y gwaith newydd o’r enw 'Twenty Tales' gan gwmni DGIC yn 2023, ei berfformiad cyntaf byd-eang yng Nglan yr Afon, Casnewydd, ar y 3ydd a'r 4ydd o Dachwedd 2023. Roedd y gwaith yn un o dri a berfformiwyd bob noswaith, gyda pherfformiadau gan Gyfarwyddwr Artistig Ballet Cymru, Darius James a'r coreograffydd, Marcus Jarrell Willis yn cael eu perfformio gan y cwmni dawns Ballet Cymru. Yn ogystal, cafwyd perfformiad cerddorol byw gan y gantores a'r cyfansoddwr caneuon o Gymru, Cerys Matthews.

"Roedd yn wych - Dewis o gerddoriaeth, symudiad, dylunio, gwisgoedd a choreograffi a thros bob undod. Hollol bewitching" Cerys Matthews (trwy X)

"Mae coreograffi trawiadol, symudiad cymunedol, gwisgoedd a mynegiant NYDW yn anhygoel"  - Aelod o'r gynulleidfa 'Twenty Tales'. 

Dywedodd Jamie Jenkins, Cynhyrchydd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru: "Rwy'n hynod falch o'r aelodau Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, y mae eu gwaith caled eithriadol a'u hangerdd diysgog tuag at ddawns yn amlwg yn eu perfformiadau arbennig o 'Twenty Tales'. Maen nhw'n dyst i'r doniau rhyfeddol y mae dawnswyr ifanc yng Nghymru wedi eu cefnogi gan diwtor dawns, arweinwyr a chymunedau".

Wnaethoch chi fethu perfformiad Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru eleni? Peidiwch a phoeni, gallwch weld perfformiad o 'Twenty Tales' yma.

Ond nid dyna'r cyfan a gyflawnodd DGIC eleni. Ym mis Gorffennaf, goreograffodd a pherfformiodd aelodau DGIC, Isaac a Layla, deuawd eu hunain fel rhan o Ŵyl Genedlaethol U.Dance yn Newcastle, gan gynrychioli Cymru ar lwyfan y Gogledd ac yn swyno cynulleidfaoedd o bob rhan o'r DU. Yn ddiweddar penodwyd Isaac i Fwrdd Ymddiriedolwyr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

Gan weithio gyda'r cyn-fyfyrwyr, Daisy Belle Howell, creodd aelodau DGIC ddau ddarn trawiadol a berfformiwyd a ffilmiwyd mewn gwahanol leoliadau o amgylch Caerdydd. Gallwch wylio'r ddau berfformiad yma. Ers dod yn aelod o DGIC, mae Daisy wedi mynd ymlaen i weithio fel dawnsiwr a choreograffydd proffesiynol yng Nghymru a thu hwnt ac mae'n gyd-gyfarwyddwr ar gwmni perfformio a digwyddiadau o Fanceinion, ‘Night People’.

Hefyd, aeth DGIC i mewn i’w drydedd flwyddyn o bartneriaeth â Celtic Creative, rhaglen gyfnewid gyda Chwmni Dawns Ieuenctid Cenedlaethol yr Alban sy'n rhoi cyfle i berfformwyr ifanc yn y ddwy wlad ddysgu oddi wrth ei gilydd a gan artistiaid proffesiynol gwahanol.

Mae 2023 wedi bod yn flwyddyn brysur a hynod o lwyddiannus i DGIC, ond mae 2024 yn edrych hyd yn oed yn well. Cyn bo hir, bydd y tîm yn dechrau ei daith clyweliadau 2024 yn Abertawe, cyn mynd ar daith i drefi a dinasoedd ar hyd a lled Cymru drwy gydol mis Chwefror, gan chwilio am y dawnswyr gorau sydd gan Gymru i'w gynnig.

Ai ti yw dyfodol dawns Cymru? Mae ceisiadau i fod yn aelod NYDW 2024 bellach ar agor! Ymgeisiwch trwy tudalen Clyweliadu CCIC heddiw.

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn croesawu tri aelod ifanc newydd i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr

Mae Bwrdd CCIC wedi penodi tri ymddiriedolwr ifanc newydd, fel rhan o'u hymrwymiad i wreiddio llais ieuenctid yn ei waith beunyddiol.

Mae Bwrdd CCIC wedi penodi tri ymddiriedolwr ifanc newydd, fel rhan o'u hymrwymiad i wreiddio llais ieuenctid yn ei waith beunyddiol.

Dechreuodd yr ymddiriedolwyr newydd Isaac Lewis, Rhys Watkins a Mared Browning yn eu rolau newydd yn ystod eu cyfarfod bwrdd cyntaf ddydd Mercher, 8 o fis Tachwedd. Pob un yn artist o fewn eu hawliau eu hunain, mae’r ymddiriedolwyr newydd yn dod â safbwyntiau ffres i’r bwrdd ac yn gosod llais y genhedlaeth iau ar y lefel uchaf o benderfyniadau CCIC.

Dywedodd Evan Dawson, Prif Swyddog Gweithredol CCIC: “Nod Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yw ysbrydoli, cefnogi a chysylltu ein cenhedlaeth nesaf o artistiaid Cymreig - ond dim ond os bydd lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed ar bob lefel o arweinyddiaeth y sefydliad y gallwn wneud hyn gyda dilysrwydd. Dyna pam dwi mor gyffrous i groesawu Mared, Isaac a Rhys i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Mae pob un ohonyn nhw’n dod â chyfoeth o brofiad unigol, creadigrwydd a hiwmor da, a fydd yn helpu i lunio ein prosiectau a’n strategaeth dros y blynyddoedd i ddod.”

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr CCIC, dan arweiniad ei gadeirydd, yn chwarae rhan sylfaenol yn y gwaith y mae CCIC yn ei wneud. Gan weithredu er lles gorau’r elusen, maen nhw’n helpu i osod ein cynllun strategol ac yn goruchwylio ei ddatblygiadau, gan sicrhau y gall y sefydliad barhau i ddod â’r cyfleoedd gorau posibl i’r genhedlaeth nesaf o dalent Cymreig trwy eu hamrywiol ensembles a phrosiectau cenedlaethol.

Dywedodd David Jackson OBE, Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr: “Rwy’n falch iawn o groesawu ein tri ymddiriedolwr newydd i Fwrdd CCIC – bydd eu setiau sgiliau amrywiol a’u brwdfrydedd yn bendant yn rhoi syniadau newydd i’n cyfarfodydd. Rwy’n hyderus y bydd CCIC yn elwa o’u syniadau a’u hegni, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda nhw i gyd.”

Mae’r penodiadau newydd yn helpu i wneud bwrdd CCIC yn fwy amrywiol, gyda chyfanswm o 40% o gynrychiolaeth menywod a 40% o dan 30 oed. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd CCIC ei gynllun busnes newydd, gan osod targed iddo’i hun o sicrhau bod o leiaf 30% o’r bwrdd yn siarad Cymraeg erbyn diwedd 2026. Yn dilyn y penodiadau diweddar, mae CCIC yn falch ei fod eisoes wedi croesi hanner ffordd gyda 20% o’r bwrdd yn rhugl yn y Gymraeg.     

Yn allweddol yn y broses o greu rolau ymddiriedolwyr ifanc oedd Karen Pimbley, yr is-gadeirydd. “Mae pobl ifanc wrth galon holl weithgarwch CCIC, felly roedd yn gam naturiol i gynnwys pobl ifanc ar lefel gwneud penderfyniadau ar ein Bwrdd. Rydym wrth ein boddau y bydd ein hymddiriedolwyr ifanc newydd yn helpu i lunio’r llwybr ar gyfer ensembles a phrosiectau’r sefydliad yn y blynyddoedd i ddod ac nid oes amheuaeth y byddant yn dod yn llysgenhadon gwych i’r sefydliad.”

Read More
Guest User Guest User

Y nifer uchaf erioed o gerddorion ifanc ledled Cymru yn gwneud cais i ymuno â Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Mae dros 330 o gerddorion wedi gwneud cais, o'r ystod ehangaf erioed o gefndiroedd a daearyddiaeth.

Bob hydref, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn gwahodd pobl ifanc dalentog i glyweliadau ar gyfer ein côr, cerddorfa, band pres, ensembles dawns a theatr cenedlaethol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau cerddoriaeth oedd 8 Hydref. Mae dros 330 o gerddorion wedi gwneud cais, o'r ystod ehangaf erioed o gefndiroedd a daearyddiaeth.

Gwnaeth 124 o gantorion ifanc gais i ymuno â'r côr cenedlaethol, sydd yn fwy nag erioed o'r blaen. Maen nhw'n cynnwys sawl un sydd â chefndiroedd nad ydynt yn gorawl, sydd wedi bod yn derbyn cefnogaeth drwy raglen arloesol "Sgiliau Côr" CCIC.

Mae Cymru yn ffodus iawn o gael cerddorion mor dalentog
— Nation.Cymru

Cafodd cyfnodau clo Covid effaith sylweddol ar ddysgu a datblygu offerynnau cerdd. Ond eleni mae 214 o bobl ifanc wedi gwneud cais i ymuno â'r ensembles offerynnol - cynnydd o 18% ers y llynedd - sy'n dangos bod ceisiadau bron wedi dychwelyd i niferoedd cyn Covid.

Ers y pandemig, mae CCIC wedi bod yn gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru i helpu i sicrhau y gall cerddorion ifanc ar draws y wlad anelu at le yn ensemble cenedlaethol Cymru, yn ddifater o ble maen nhw ddod o na'u hamgylchiadau ariannol.

"Ar ôl bod yn aelod o CGIC dwi fel person newydd...Mae cael eich amgylchynu gan gymaint o bobl ifanc eraill sy'n caru cerddoriaeth gymaint â chi yn ei wneud yn hollol anhygoel!" Aelod CGIC, 2023

Mae CGIC wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau ariannol a rhwystrau eraill i gymryd rhan yn yr ensembles cenedlaethol. Mae croeso i'r rhai na allant fforddio talu ffioedd clyweliadau wneud cais, ac eleni manteisiodd 35% o'r ymgeiswyr ar y cynnig hwn. Yn yr un modd, mae clyweliadau fideo ar gael i'r rhai a allai deimlo nad ydynt yn gallu bod yn bresennol yn bersonol, ac eleni mae 27% o ymgeiswyr wedi dewis y llwybr hwn.

"Mae Cymru yn ffodus iawn o gael cerddorion mor dalentog a fydd yn sicrhau y bydd cerddoriaeth glasurol yn y genedl yn parhau i ffynnu." Nation.Cymru ar gyngerdd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2023, Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

Mae proffil ac enw da ensembles ieuenctid Cymru wedi bod yn tyfu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn ffurfio Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2017 i ddod â phob un ohonynt i mewn i un sefydliad. Yn ystod yr haf, mynychodd dros 3,400 o aelodau cynulleidfa berfformiadau cerddoriaeth a theatrig eithriadol o ansawdd uchel ledled Cymru, ym Mangor, Tyddewi, Caerdydd a Llanbedr Pont Steffan.

Dywedodd Matt Jones, Uwch Gynhyrchydd CCIC: "Mae Cymru yn genedl o artistiaid! Yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, rydym ni’n gweithio'n galed i nodi ac annog y cerddorion, actorion, dawnswyr mwyaf talentog a mwy; a’u cyflwyno nhw i ystod eang iawn o gynulleidfaoedd. Rydym ni i gyd yn gyffrous iawn i gwrdd ag ymgeiswyr eleni, a bydd llawer ohonynt yn mynd ymlaen i brofi cyfleoedd datblygu a pherfformio arloesol, gan weithio gyda rhai o arweinwyr a chyfarwyddwyr proffesiynol mwyaf blaenllaw y DU." 

Dwedwyd, Mari Lloyd Pritchard, Cyd-lynydd, Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru: “Mae’n ryddhad mawr gweld fod cynydd yn y nifer sydd eisiau ymuno a’n ensemblau Cenedlaethol. Gyda dyfodiad y Cynllun Addysg Cerdd i newydd i Gymru, rydym yn falch o fod yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o annog ac ysbrydoli plant a phobl ifanc i ganu neu chwarae offeryn.

“Mae cyd-chwarae mewn ensemble yn brofiad arbennig, nid yn unig ar gyfer datblygiad eich llwybrau cerddorol ond hefyd at iechyd a lles cerddorion ifanc yn gyffredinol ac rydym yn falch iawn fod buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn addysg gerdd yn golygu fod llawer mwy o gyfleoedd, i bob oedran ym mhob Sir yng Nghymru, i fantesio ar brofiadau safonol i gyd-ganu a chyd-chwarae.”

Bydd clyweliadau'n cael eu cynnal yn ystod mis Tachwedd, gyda'r côr, y gerddorfa a'r bandiau pres yn cael eu ffurfio erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd y rhai nad ydynt yn llwyddiannus yn cael cynnig cefnogaeth amgen. Bydd ceisiadau ar gyfer ensembles dawns a theatr yn agor yn fuan. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn www.ccic.org.uk.

Read More
Guest User Guest User

Celfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr i gynyddu mynediad i'r celfyddydau ar gyfer pobl ifanc anabl

Yn lansio'r mis hwn, bydd “Assemble” yn gweld Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn gweithio mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr yn Ne Cymru.

Yn lansio'r mis hwn, bydd “Assemble” yn gweld Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn gweithio mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr yn Ne Cymru. Mae'r prosiect, sydd hefyd yn digwydd yn Llundain a Manceinion, wedi'i gynllunio i fynd i'r afael ag ynysu ymysg pobl ifanc anabl 16-19 mlwydd oed trwy hybu eu cysylltiadau â'u cymuned gelfyddydol leol.

Bydd CCIC yn gweithio gyda thair ysgol nad ydynt yn brif ffrwd, ledled De Cymru, sy'n arbenigo mewn anghenion cymorth dysgu cymedrol neu ddifrifol.

Rydym ni’n gyffrous iawn i weithio gyda’n partneriaid yn NYTGB ar “Assemble”, a fydd yn gadael gwaddol barhaol ledled Cymru
— Evan Dawson, Prif Weithredwr, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Bydd y partneriaid yn adeiladu rhwydwaith o sefydliadau lleol ar gyfer pob ysgol sy'n darparu cyfleoedd a llwybrau dilyniant i'r celfyddydau a chyflogaeth. Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yr ariannwr cymunedol mwyaf yn y DU.

Un o uchafbwyntiau'r rhaglen fydd cyfranogiad Ffrindiau Gigiau (prosiect clodwiw gan elusen Stay Up Late) sy'n paru gwirfoddolwyr ifanc â chyfranogwyr niwroamrywiol i fynd i gigiau, cyngherddau, a digwyddiadau diwylliannol eraill megis mynychu'r theatr ochr yn ochr â hyfforddiant perthnasol. Bydd Ffrindiau Gigiau yn hyfforddi a chefnogi “Ffrindiau” gwirfoddol i fynd gyda'r bobl ifanc i theatr a digwyddiadau diwylliannol eraill yn eu cymunedau.

Dywedodd Evan Dawson, Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: “Mae unigedd ymysg pobl ifanc anabl yn broblem enfawr yng Nghymru. Yng Nghelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, rydym ni wedi gweld enghreifftiau dirifedi o sut y gall prosiectau theatr a chelfyddydau ysbrydoli, cefnogi a chysylltu pobl ifanc o ystod eang o gefndiroedd. Felly rydym ni’n gyffrous iawn i weithio gyda'n partneriaid yn NYTGB ar “Assemble”, a fydd yn gadael gwaddol barhaol ledled Cymru, gan helpu pobl ifanc anabl i ymgysylltu â chyfleoedd celfyddydol a diwylliant yn eu cymunedau lleol. Mae'n enghraifft arloesol o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau celfyddydol yn gweithio mewn partneriaeth.”

Dywedodd Paul Roseby OBE, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr: “Mae Assemble yn gam nesaf pwysig yn ein rhaglen cynhwysiant genedlaethol gynyddol a'n hymdrechion i drwsio'r cyswllt nad yw'n gwasanaethu talent ifanc anabl ar hyn o bryd. Bydd Assemble yn dod â phobl at ei gilydd, yn mynd i'r afael ag ynysu ac yn grymuso lleisiau ifanc i ffynnu. Rydym ni’n ddiolchgar i'n partneriaid yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth.”

I gael rhagor o wybodaeth am weithgarwch y prosiect ledled y DU, ewch i nyt.org.uk/assemble

Read More
Guest User Guest User

Ein Datganiad ar Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru

O fis Ebrill 2024, bydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn derbyn cynnydd mewn cyllid refeniw, fel rhan o broses Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru.

O fis Ebrill 2024, bydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn derbyn cynnydd mewn cyllid refeniw, fel rhan o broses Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru.

Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn golygu y gallwn ni barhau i gefnogi pobl ifanc, a gweithio tuag at weledigaeth lle mae pob person ifanc yn cael y cyfle i lwyddo yn y celfyddydau perfformio, ni waeth beth fo’u cefndir. Bydd hefyd yn golygu y gallwn ni barnhau i gefnogi’r sector celfyddydau ehangach trwy bartneriaethau cryf gyda sefydliadau ledled Cymru, a thrwy gyflogi cannoedd o artistiaid llawrydd bob blwyddyn.

Hoffem ddiolch i Gyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth gynyddol, ac am eu ffydd yn ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.

Read More