NEWYDDION

News National Youth Arts Wales News National Youth Arts Wales

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn lansio prosiect Eich Dyfodol Creadigol sy’n dod â gweithdai Cerddoriaeth a Dawns am ddim i bobl ifanc Blaenau Gwent a Thorfaen

Mae’r fenter uchelgeisiol traws-sector sy’n cael ei harwain gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a’i hariannu gan Grant Arloesi Tlodi Plant Llywodraeth Cymru yn lansio ddydd Sadwrn yma yn ne ddwyrain Cymru.

Mae’r fenter uchelgeisiol traws-sector sy’n cael ei harwain gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a’i hariannu gan Grant Arloesi Tlodi Plant Llywodraeth Cymru yn lansio ddydd Sadwrn yma yn ne ddwyrain Cymru. 

Nod Eich Dyfodol Creadigol yw mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb dwfn sy’n bodoli mewn mynediad i gyfleoedd lles a chreadigol i bobl ifanc dan anfantais yn Nhorfaen a Blaenau Gwent – dwy o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru o ran cyfleoedd.  

Gan gydweithio â sawl partner, gan gynnwys Ballet Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Cerdd Gwent, byddwn yn cynnig cyfres o weithdai am ddim a gynlluniwyd ar y cyd, i bobl ifanc 10-18 oed, rhwng mis Tachwedd 2025 a mis Mawrth 2026, a hynny mewn sawl canolfan. 

Dywedodd Louise Prosser o Ballet Cymru: “Mae Ballet Cymru wrth ei bodd yn gweithio mewn partneriaeth â Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i ddod â sesiynau dawns a cherddoriaeth difyr, hygyrch a chyffrous  i chwe chymuned newydd. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gysylltu â phobl ifanc, tanio creadigrwydd, a datblygu cysylltiadau parhaol drwy brosiect Eich Dyfodol Creadigol.” 

Dywedodd Linton o Gerdd Gwent: “Mae’n wych cydweithio â CCIC ar brosiect Eich Dyfodol Creadigol. O’r diwedd, rydym yn gweld cynllunio cydgysylltiedig drwy byramid addysg gerdd. Mae hwn yn brosiect gwerthfawr a fydd yn rhoi gymaint i’r disgyblion sy’n cymryd rhan!” 

Bydd y gweithdai dwy awr o hyd dan arweiniad gweithwyr proffesiynol o ddiwydiannau dawns, cerddoriaeth a chreadigol yn rhoi sgiliau canu, cyfansoddi, cynhyrchu cerddoriaeth, dawns a choreograffi, yn ogystal â sgiliau creadigol a lles i bobl ifanc yr ardal. Gall pobl ifanc ddewis cymryd rhan ym mhob un gweithgaredd neu ambell un. 

Dywedodd Bruna Garcia, Rheolwr Prosiect Eich Dyfodol Creadigol, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: "Mae mor bwysig bod pob person ifanc yn cael y cyfle i ddatblygu ei greadigrwydd a magu hyder. Mae Eich Dyfodol Creadigol yn ofod diogel lle gall pawb archwilio’u diddordeb mewn cerddoriaeth, dawns, a datblygu sgiliau gwerthfawr, a chael hwyl wrth wneud hynny!" 

 

Os ydych chi’n berson ifanc neu’n adnabod person ifanc rhwng 10 a 18 oed ac yn byw ym Mlaenau Gwent neu Dorfaen, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych chi... 
 

 Pam ymuno? 

  • Gweithiwch gyda gweithwyr proffesiynol blaenllaw o’r diwydiannau dawns, cerddoriaeth a chreadigol 

  • Dysgwch sgiliau newydd, gwnewch ffrindiau a magwch hyder 

  • Perfformiwch, dangoswch ac archwiliwch eich potensial creadigol 

  • Darperir lluniaeth 

Cofrestrwch HEDDIW

A allech chi fod yn rhan o’n Panel Cynghori Ieuenctid? 

Rydym ni’n chwilio am grŵp o bobl ifanc amrywiol rhwng 14 a 18 mlwydd oed i helpu i lunio Dyfodol Creadigol a sicrhau bod y prosiect yn berthnasol ac yn hygyrch i'ch cymuned.    

Byddwch yn helpu i lunio dyluniad prosiectau, sicrhau hygyrchedd ac annog ymgysylltiad â'r gymuned. Yn ogystal â chynghori ar farchnata, a gweithredu fel llysgenhadon prosiect i'ch cyfoedion.   

Rydym ni’n credu y dylai llais ieuenctid fod yn ganolog i'r hyn rydyn ni'n ei wneud felly rydyn ni eisiau clywed gennych!   

  • Dweud eich dweud: Helpu i lunio prosiect cerddoriaeth a dawns cyffrous i bobl ifanc yn eich ardal chi.   
      

  • Ennill profiad: Sgiliau arweinyddiaeth, cynllunio digwyddiadau, gwneud penderfyniadau creadigol.   
      

  • Cael eich gwobrwyo: Teithio wedi’i dalu, lluniaeth wedi'i ddarparu, geirda ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol, taleb love to shop.   
      

  • Cael effaith: Dylanwadu ar sut mae gweithdai Dyfodol Creadigol yn edrych a sut rydym ni’n cyrraedd pobl ifanc.  

COFRESTRWCH
Read More