Dathlwch 80 mlynedd o Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru - Tocynnau ar werth nawr!

Mae Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC) yn nodedig am fod y gerddorfa genedlaethol ieuenctid gyntaf yn y byd, gan lwyfannu ei pherfformiad cyntaf yn 1946. Eleni, yn 2026, mae CGIC yn dathlu 80 mlynedd o hyfforddiant lefel uchel a pherfformiadau bywiog, gan weithio ochr yn ochr â rhai o’r cerddorion proffesiynol gorau.

Fel rhan o’r dathliadau 80fed pen-blwydd, bydd CGIC yn cynnull cerddorfa o gyn-aelodau fydd yn Ymarfer, Hel atgofion a Pherfformio ar Ddydd Sul 3 Mai 2026 o dan gyfarwyddyd arbenigol yr Arweinydd rhyngwladol adnabyddus, Carlo Rizzi. 

Mae gan Carlo enw da hirsefydlog fel un o arweinyddion operatig mwyaf blaenllaw’r byd, ac mae galw mawr amdano fel artist gwadd yng nghanolfannau a gwyliau mwyaf arobryn y byd. Mae hefyd wedi bod yn gyfaill da i Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ac mae wedi arwain y Gerddorfa’n rheolaidd ers eu harwain am y tro cyntaf yn 2012. 

Dywedodd Matthew Jones OBE, Uwch Gynhyrchydd a Dirprwy Brif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: “Ry’n ni mor gyffrous i ddathlu 80 mlynedd anhygoel o CGIC gyda’n cyn-aelodau a’n cefnogwyr, gan lansio dathliadau 2026 yn Neuadd Hoddinott ym mis Mai. Ry’n ni’n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl sydd â chysylltiad (neu beidio!) gyda’r gerddorfa yn ymuno gyda ni!”

Bydd Cerddorfa Cyn-aelodau 80fed Pen-blwydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio’n fyw yn Neuadd Hoddinott y BBC, Bae Caerdydd, ar ŵyl y banc cyntaf mis Mai. Bydd y cyngerdd yn cychwyn am 4.30pm ac yn para 90 munud, gyda chyfle i chi rannu eich atgofion o CGIC ar gamera cyn ac ar ôl y perfformiad.

Os ydych chi’n gyn-aelod o CGIC, gallwch gofrestru i ymuno â’r Gerddorfa Cyn-aelodau ar gyfer y dathliad cyffrous unigryw hwn. Dysgwch fwy ar www.ccic.org.uk/cgic-80 

Mae tocynnau’r cyngerdd ar werth nawr ac ar gael ar www.ccic.org.uk/digwyddiadur 


Next
Next

Cwrdd â Thiwtoriaid Diwrnod Darganfod Gwerin a Jazz CCIC 2026