Back to All Events

Ymunwch â Chywaith Dawns Ieuenctid Theatr Clwyd mewn Partneriaeth â Dawns Ieuenctid Genedlaethol Cymru


  • Theatr Clwyd Raikes Lane Mold, Wales, CH7 United Kingdom (map)

Dawns Ieuenctid 7, 8 a 9

Ymunwch â Chywaith Dawns Ieuenctid Theatr Clwyd mewn Partneriaeth â Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru!

Dewch i archwilio eich creadigrwydd trwy ystod o arddulliau dawns, gan gynnwys bale, cyfoes, dawns telynegol, gwerin a masnachol gyda'n Cyswllt Dawns Angharad Jones.

Mae'r Cywaith Dawns Ieuenctid yn rhoi'r cyfle i chi ehangu eich hyfforddiant dawns a chymryd rhan mewn cyfleoedd perfformio cyffrous. Byddwch yn archwilio technegau dawns, coreograffi, perfformio a chreadigrwydd. Dyma ofod anghystadleuol i ddawnsio a mynegi eich hun trwy eich arddull symud unigryw chi.

Addas i unrhyw un sy'n caru symud!

Nid oes angen profiad blaenorol, dim ond fod yn barod i roi cynnig arni.

Pryd mae’r grŵp hwn yn cael ei gynnal?

Tymor y Gwanwyn: Llun 20 Ionawr – Sad 12 Ebrill 2025

Tymor yr Haf: Dydd Llun 28 Ebrill – Sad 5 Gorffennaf 2025

Hanner Tymor: 26 Mai 2024 – 31 Mai 2025

Previous
Previous
January 28

PREMIÉRE: 25 mlynedd o Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru

Next
Next
February 26

Sesiwn Blasu Clyweliad Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru AM DDIM!