Mae Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC) yn nodedig am fod yn gerddorfa genedlaethol ieuenctid gyntaf y byd, gan berfformio am y tro cyntaf yn 1946. Eleni, yn 2026, mae CGIC yn dathlu 80 o flynyddoedd o hyfforddiant o’r radd flaenaf ac o berfformiadau bywiog, gan weithio ochr-yn-ochr â rhai o’n cerddorion proffesiynol gorau.
Fel rhan o’r dathliadau pen-blwydd yn 80 oed, bydd CGIC yn cynnull cerddorfa o gyn-aelodau fydd yn Ymarfer, Hel atgofion a Pherfformio ar Ddydd Sul 3 Mai 2026 o dan gyfarwyddyd arbenigol Carlo Rizzi, yr Arweinydd rhyngwladol nodedig.
Ymunwch â ni i wylio Cerddorfa Cyn-aelodau 80fed Pen-blwydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn fyw yn Neuadd Hoddinott y BBC, Bae Caerdydd, dros Ŵyl Fai eleni!
Archebwch eich tocynnau heddiw ar gyfer y perfformiad bythgofiadwy hwn.
Rhaglen i’w chadarnhau.