Mae Paul Holland, cyn-aelod Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Chyfarwyddwr Cerddorol y Band Pres Flowers a enillodd Bencampwriaeth 2024, yn dychwelyd i arwain ei gyn-fand mewn rhaglen wych o gerddoriaeth sy’n sicrhau rhywbeth at ddant pawb.
Yr unawdydd fydd yr offerynnwr taro ifanc disglair, Jordan Ashman, enillydd cystadleuaeth Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC 2022. Gallwn addo noson fendigedig, yn llawn egni, angerdd a doniau cerddorol syfrdanol.