Stiwdio recordio yng Nghaerdydd.
Mae technegwyr sain wrthi’n brysur yn gosod offer ar gyfer sesiwn recordio. Ond wrth i’r perfformwyr gamu at y meics, mae rhywbeth o’i le… pa fath o stori maen nhw am ei hadrodd?
Mae clasur Dylan Thomas wedi ei ail-ddychmygu ar gyfer lleisiau ifanc di-ofn Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
Mae’r addasiad Cymraeg a Saesneg newydd hwn yn cyfuno byd telynegol Llareggub, gyda Chymru gyfoes heddiw sy’n ferw o gerddoriaeth, meicroffonau a phedalau dolen. Mae’n gynhyrchiad sy’n arddangos brwdfrydedd a photensial cast o berfformwyr hynod dalentog.
Dyma gyfle i brofi stori Gymreig ddiamser ar ffurf newydd, wreiddiol.
Pob perfformiad wedi ei gapisynu yn y Gymraeg a’r Saesneg
BSL a Sain Ddisgrifiad: Awst 31
Gwyliwch ein taflen gyhoeddusrwydd deongledig drwy BSL gan Catherine McShane yma.
Mae’r cynhyrchiad amatur hwn o “Under Milk Wood” (Y Fersiwn Terfynol) yn cael ei gyflwyno drwy ganiatad Concord Theatricals Ltd. ar ran Samuel French Ltd. www.concordtheatricals.co.uk
Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cyflwyno Under Milk Wood / Dan y Wenallt
Cyfarwyddwyd gan Emma Baggott
Addaswyd gan Mari Izzard
Yn seiliedig ar drosiad Cymraeg T James Jones
Cynllunydd: Elin Steele
Cyfarwyddwr Cysylltiol: Alice Eklund
https://www.shermantheatre.co.uk/event/under-milk-wood/
Tocynnau £15 (dan 25 oed £7.50, consesiynau £10)
Swyddfa Docynnau
https://www.shermantheatre.co.uk/?lang=cy
029 2064 6900