Yn dilyn cyfnod preswyl dwys dros dri diwrnod yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Medi, bydd ein haelodau Hard Côr yn perfformio yng ngŵyl Llais ar 13 Hydref.
Roedd y cwrs preswyl yn cynnwys hyfforddiant gan arbenigwyr megis Dionne Bennett, Faith Nelson, Tumi Williams, Molara a Matthew Hann, yn ymdrin â meysydd diwydiant, gweithdai ysgrifennu caneuon a pherfformio.
Mi fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn ardal Glanfa, sydd wedi’i leoli ym mhrif ran yr adeilad, o flaen Radio Platfform.
Grŵp lleisiol i bobl ifanc yw Hard Côr, sy’n dod â phobl 16–25 oed sy’n byw yng Nghaerdydd ynghyd i ganu, rapio, bît-bocsio a chreu cerddoriaeth gyda’i gilydd.
Mae Hard Côr yn brosiect ar y cyd rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
Digwyddiad am ddim - does dim angen tocynnau ar gyfer y sioe hon
Glanfa
Canolfan Mileniwm Cymru
Bae Caerdydd