CLYWELIADAU

RY’N NI’N CHWILIO AM BERFFORMWYR TALENTOG I YMUNO Â’N ENSEMBLES CENEDLAETHOL!

Os wyt ti’n 22 oed neu’n iau, yn Gymro/Cymraes neu’n byw/astudio yng Nghymru ar hyn o bryd, ry’n ni am glywed gennyt.

Eleni, byddwn yn cynnal clyweliadau ym mhob cwr o Gymru, i chwilio am aelodau newydd i gynrychioli Cymru yn ein hensembles cenedlaethol.

Unwaith i’r ceisiadau agor, galli ymgeisio am glyweliad yn dy ganolfan glyweliadau lleol - neu galli ddewis i anfon clyweliad ar fideo wedi ei recordio adref atom.

Os hoffet gael gwybod pryd fydd ceisiadau’n agored, defnyddia’r ffurflen isod i ymuno gyda’n rhestr bostio clyweliadau.

Fe anfonwn neges iti pan mae’r cyfnod ymgeisio’n agor, yn ogystal â newyddion a diweddariadau gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. (Fel arfer dim amlach na unwaith bob 2-3 mis)

Fel arall, galli ofyn i gael dy gynnwys ar ein rhestr bostio trwy e-bostio nyaw@nyaw.org.uk

Auditions | Clyweliadau

* indicates required
/ / ( dd / mm / yyyy )
I'm interested in auditioning for...