Back to All Events

Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru - Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

  • Neuadd Dewi Sant Yr Aes Caerdydd CF10 1AH (map)

Awydd taith i’r Weriniaeth Tsiec heb adael eich sedd?

Mae’r afon Vltava yn llifo trwy gefn gwlad Tsiecia a dinas brysur Prag. Mae cerddoriaeth Smetana yn eich cludo ar daith gyda’i glannau godidog. Fe glywch alawon gogoneddus, ysgubol a ysbrydolwyd gan y golygfeydd syfrdanol fydd yn gwneud ichi ysu i ymweld â’r wlad.

Efallai eich bod mewn hwyl i glywed rhywbeth ychydig mwy chwerwfelys?

Roedd Richard Strauss yn gyfansoddwyr ysgrifennodd lawer o gerddoriaeth i gantorion. Mae ei Four Last Songs am gariad a cholled. Ein soprano yw Elizabeth Llewellyn, y mae ei llais wedi’i ddisgrifio fel “pleser operatig pur”. Disgrifir y gwaith yma’n aml fel ffarwel olaf Strauss, felly gallwch ddisgwyl cerddoriaeth yn llawn ing cynnil.

Ac os ydych chi’n chwilio am rywbeth pwerus a dramatig?

Ysgrifennwyd Symffoni Rhif 5 Shostakovich yn ystod cyfnod o ferw gwleidyddol mawr pan oedd yr Undeb Sofietaidd dan reolaeth Joseph Stalin. Fe glywch ymdeithganau militaraidd ac alawon pres buddugoliaethus, i blesio’r torfeydd. Ond cewch hefyd enydau o harddwch a thristwch. Mae fel pe bae Shostakovich yn ceisio mynegi ei holl deimladau am fyw o dan reolaeth Stalin i gyd mewn un darn o gerddoriaeth.

Mae’r cerddorion ifanc hynod dalentog hyn yn barod i ddangos eu brwdfrydedd e’u potensial. Felly, waeth os ydych chi’n un o selogion cerddoriaeth glasurol ers amser maith, neu’n gwrando am y tro cyntaf, rydych yn siŵr o adael wedi eich ysbrydoli a’ch dyrchafu.

“Full of inspiration and hope for the future of Wales.”
Nation Cymru
 

Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Arweinydd
Carlo Rizzi
Soprano Elizabeth Llewellyn

Smetana Vltava o Má vlast
R Strauss 
Four Last Songs
Shostakovich 
Symffoni Rhif 5

Tocynnau £10-18 (dan 26 oed £5, consesiynau ar gael)
Swyddfa Docynnau Neuadd Dewi Sant:
www.stdavidshallcardiff.co.uk / 02920 878 444

Previous
Previous
August 4

Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru - Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Next
Next
August 25

Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru - Neuadd Prichard-Jones, Bangor