Mae Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru’n grŵp o gantorion ifanc hynod dalentog o bob cwr o Gymru, ac yn llawn brwdfrydedd a photensial. Ar gyfer y cyngerdd hwn, maen nhw wedi creu rhaglen o’u ffefrynnau.
Cewch glywed popeth o gerddoriaeth llawn awyrgylch Eric Whitacre i alawon hyfryd cyfansoddwyr o Gymru. Bydd hyd yn oed drefniant o un o ganeuon bythgofiadwy Stevie Wonder.
Mae gan gerddoriaeth y grym i godi ein hysbryd, hyd yn oed ar adegau anodd, a dyna’r llinyn sy’n rhedeg trwy’r gerddoriaeth y maent wedi ei ddewis: gobaith.
Mae Eric Whitacre yn adrodd hanes sut y breuddwydiodd Leonardo Da Vinci am greu peiriant hedfan. Tra bo’r cyfansoddwr o Gymro Gareth Glyn yn adleisio’r optimistiaeth ddilynodd dymchwel Mur Berlin. Mae gwaith torcalonnus Kim André Arnesen yn archwilio gobaith yn yr amgylchiadau mwyaf anobeithiol. A wnaethon ni sôn am Stevie Wonder?
Mae Tim Rhys-Evans, sy’n fwyaf adnabyddus am ei waith gydag Only Men Aloud ac Only Boys Aloud, wedi trefnu rhai o’r darnau’n arbennig ar gyfer y cyngerdd hwn. Felly chi fydd yn eu clywed am y tro cyntaf erioed. Fel cyn-aelod o’r côr ei hun, mae Tim yn gwybod yn union beth mae’n gymryd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddoniau corawl Cymreig.
O’r côr i’r arweinydd i’r gynulleidfa, cewch eich amgylchynu â phobl sy’n caru cerddoriaeth a chanu.
Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Arweinydd Tim Rhys-Evans
Cerddoriaeth gan Eric Whitacre, Stevie Wonder, Gareth Glyn, Huw Watkins a Lucy Walker.
Tocynnau £10 - £12, £5 dan 26s Swyddfa Docynnau: www.pontio.co.uk 01248 38 28 28