Mae’r goreuon o blith offerynwyr pres ifanc Cymru yn barod i arddangos eu brwdfrydedd a’u potensial.
Dan gyfarwyddyd yr arweinydd Cymreig Paul Holland, Cyfarwyddwr Cerdd Band Flowers, Caerloyw, bydd y cyngerdd yn cynnwys gwaith Eric Ball High Peak, gwaith heriol sydd wedi bod yn hen ffefryn mewn cystadlaethau bandiau pres ers dros 50 mlynedd. Gwaith arall a berfformir fydd Five Blooms in a Welsh Garden gan Gareth Wood, darn telynegol hyfryd sy’n dathlu harddwch naturiol Cymru.
Bydd yr unawdydd cornet o Wlad Belg, Lode Violet, Prif Gornet band gwobrwyedig Brassband Willebroek, yn ymuno â’r cerddorion ifainc hefyd. Ac yntau yn dal yn ei 20au, mae Lode yn un o sêr newydd byd y bandiau pres a daw â’i ddawn ifanc i ysbrydoli chwaraewyr y band.
Mae gweddill y rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o ddarnau sy’n arddangos hyblygrwydd y band. Yn cynnwys gweithiau a ysbrydolwyd gan bensaernïaeth eglwysi cadeiriol a hyd yn oed y gêm Monopoly.
Ac i’r rheini sydd heb gael digon o ddathlu brenhinol eleni, efallai y bydd trefniant mawreddog Frank Wright o’r Crown Imperial gan Walton, a ysgrifennwyd ar gyfer coroni George VI, at eich dant.
Y peth cyntaf wnaiff ddal eich llygad pan gerddwch i mewn i gyngerdd band pres yw’r offerynnau. Ond y peth gorau am gyngerdd band pres yw’r teimlad cymunedol. Y cerddorion i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i greu rhywbeth arbennig iawn.
“Those who made it to this concert will certainly have left lifted in musical spirit…delivered with purposeful accomplishment.”
4BarsRest ar Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, 2022
Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Arweinydd Paul Holland Cornet Lode Violet
Cerddoriaeth yn cynnwys: High Peak Eric Ball Five Blooms in a Welsh Garden Gareth Wood Yn ogystal â Debussy, Walton a Paul Lovatt-Cooper
Tocynnau £10-12, £5 dan 26s. Lleoliad: Neuadd Dora Stoutzker
www.rwcmd.ac.uk Swyddfa Docynnau: 029 2039 1391 E-bost: boxoffice@rwcmd.ac.uk