Mae’r goreuon o blith offerynwyr pres ifanc Cymru yn barod i arddangos eu brwdfrydedd a’u potensial.
Dan gyfarwyddyd yr arweinydd Cymreig Paul Holland, Cyfarwyddwr Cerdd Band Flowers, Caerloyw, bydd y cyngerdd yn cynnwys gwaith Eric Ball High Peak, gwaith heriol sydd wedi bod yn hen ffefryn mewn cystadlaethau bandiau pres ers dros 50 mlynedd. Gwaith arall a berfformir fydd Five Blooms in a Welsh Garden gan Gareth Wood, darn telynegol hyfryd sy’n dathlu harddwch naturiol Cymru.
Y peth cyntaf wnaiff ddal eich llygad pan gerddwch i mewn i gyngerdd band pres yw’r offerynnau. Ond y peth gorau am gyngerdd band pres yw’r teimlad cymunedol. Y cerddorion i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i greu rhywbeth arbennig iawn.
“Those who made it to this concert will certainly have left lifted in musical spirit…delivered with purposeful accomplishment.”
4BarsRest ar Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, 2022
Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Arweinydd Paul Holland Cornet Lode Violet
Cerddoriaeth yn cynnwys: High Peak Eric Ball Five Blooms in a Welsh Garden Gareth Wood
Tocynnau £10-12, £5 dan 26s. https://bookings.nyaw.org.uk/sales/enwhats-oncydigwyddiadau/ennybbw---st-davids-cathedralc/enticketscytocynnau