The In-Between
Alexandria Riley a Gary Owen
Comedi newydd am dyfu i fyny.
Mae Fay wedi cael digon. Dydi cyfle mwyaf ei bywyd, y cam nesaf yn ei gyrfa, a chanlyniad blynyddoedd o waith ... ddim iddi hi.
Mae hi hanner ffordd drwy ei chwrs yn un o golegau cerddoriaeth gorau’r wlad. Ond mae ei thiwtoriaid yn dweud wrthi ei bod yn methu. Mae hi’n gweithio mor galed ag y gall hi, yn rhoi popeth – a dydi hynny ddim yn ddigon.
Nain Fay oedd ei chefnogwr mwyaf hi cyn iddi farw. A gyda Nain wedi mynd, beth ydi’r pwynt? Os bydd Fay yn llwyddo, ni fydd yr un person wnaeth gredu ynddi yno i weld ei llwyddiant. Ac os bydd hi’n methu ... bydd yn siomi’r un person wnaeth gredu ynddi.
Ac felly dydi Fay ddim yn mynd i fethu. Mae hi’n mynd i wneud y peth aeddfed, ymddwyn fel oedolyn. Mae hi’n mynd i roi’r gorau iddi.
Mae Fay wedi ysgrifennu llythyr swyddogol yn rhoi’r gorau i’w chwrs. Pan fydd hi’n rhoi’r llythyr i’w thiwtor, bydd hi’n rhydd. Y cyfan sydd raid iddi ei wneud yw cerdded o’i thŷ i’r coleg, a bydd y cyfan drosodd. Yr holl anawsterau, yr holl boeni. Yr holl freuddwydion. Ac yn llythrennol, y cyfan sydd raid iddi ei wneud ydi cerdded ar draws y parc. Beth allai ddigwydd mewn hanner awr o gerdded i wneud i Fay newid ei meddwl.
Gawn ni weld.
Cynhyrchiad ar y cyd â Theatr Clwyd
Tocynnau o £10 (consesiynau ar gael)
Swyddfa Docynnau Theatr Clwyd
www.theatrclwyd.com / 01352 344101
Yn ystod y perfformiad yma bydd:
Sain Ddisgrifiad
Dehongliad Iaith Arwyddion Prydain gan Hannah Wilson
Capsiynau