Back to All Events

Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru - Theatr Sherman, Caerdydd

  • Theatr Sherman Ffordd Senghennydd Caerdydd CF24 4YE (map)

The In-Between
Alexandria Riley a Gary Owen

Comedi newydd am dyfu i fyny.

Mae Fay wedi cael digon. Dydi cyfle mwyaf ei bywyd, y cam nesaf yn ei gyrfa, a chanlyniad blynyddoedd o waith ... ddim iddi hi.

Mae hi hanner ffordd drwy ei chwrs yn un o golegau cerddoriaeth gorau’r wlad. Ond mae ei thiwtoriaid yn dweud wrthi ei bod yn methu. Mae hi’n gweithio mor galed ag y gall hi, yn rhoi popeth – a dydi hynny ddim yn ddigon.

Nain Fay oedd ei chefnogwr mwyaf hi cyn iddi farw. A gyda Nain wedi mynd, beth ydi’r pwynt? Os bydd Fay yn llwyddo, ni fydd yr un person wnaeth gredu ynddi yno i weld ei llwyddiant. Ac os bydd hi’n methu ... bydd yn siomi’r un person wnaeth gredu ynddi.

Ac felly dydi Fay ddim yn mynd i fethu. Mae hi’n mynd i wneud y peth aeddfed, ymddwyn fel oedolyn. Mae hi’n mynd i roi’r gorau iddi.

Mae Fay wedi ysgrifennu llythyr swyddogol yn rhoi’r gorau i’w chwrs. Pan fydd hi’n rhoi’r llythyr i’w thiwtor, bydd hi’n rhydd. Y cyfan sydd raid iddi ei wneud yw cerdded o’i thŷ i’r coleg, a bydd y cyfan drosodd. Yr holl anawsterau, yr holl boeni. Yr holl freuddwydion. Ac yn llythrennol, y cyfan sydd raid iddi ei wneud ydi cerdded ar draws y parc. Beth allai ddigwydd mewn hanner awr o gerdded i wneud i Fay newid ei meddwl.

Gawn ni weld.

Cynhyrchiad ar y cyd â Theatr Clwyd

Tocynnau £15 (dan 25 oed £7.50, consesiynau £10)
Swyddfa Docynnau Theatr Sherman
www.shermantheatre.co.uk / 029 2064 6900

Previous
Previous
September 2

Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Next
Next
September 3

Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru - Eglwys Gadeiriol Llandaf, Caerdydd