Back to All Events

Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Ballet Cymru - Glan yr Afon, Casnewydd

  • Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon Ffordd y Brenin Casnewydd NP20 1HG (map)

Bydd y bartneriaeth hon rhwng Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Ballet Cymru yn gweld dawnswyr proffesiynol y dyfodol yn perfformio fel rhan o’r noson gyffrous hon o ddawns driphlyg.

Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a pherfformio o'r radd flaenaf i rai o'n dawnswyr ifanc mwyaf talentog. Mae'n tynnu ar egni a brwdfrydedd pobl ifanc dros ddawns a dawnsio, ac yn ei droi'n rym creadigol, cyfoes sy'n dathlu'r gorau o fyd dawns ieuenctid yng Nghymru heddiw.

Ers ei sefydlu yn 2000, mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru wedi gweithio gyda rhai o goreograffwyr gorau gwledydd Prydain, gan gynnwys Wayne McGregor, Henri Oguike, Errol White, Theo Clinkard, Odette Hughes, Kerry Nicholls, Caroline Finn a Laila Diallo.

Previous
Previous
November 4

Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Ballet Cymru - Glan yr Afon, Casnewydd

Next
Next
July 28

Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru - Neuadd Prichard-Jones, Bangor