Saif Cadeirlan Llanelwy, eglwys gadeiriol hynafol leiaf Prydain, ar lwybrau rhyfela hanesyddol tywysogion Cymru. Mae ennyd arbennig yn haeddu lleoliad arbennig – mae pensaernïaeth a ffenestri gwydr lliw ysblennydd Cadeirlan Llanelwy’n cynnig y llwyfan perffaith i’n Cerddorfa lawn ddod at ei gilydd, o’r diwedd, wedi i’w dathliadau pen-blwydd yn 75 oed gael eu torri’n fyr yn 2020.
Kwamé Ryan, yr arweinydd o Ganada, fydd yn cyfarwyddo’r Gerddorfa yn Scheherazade gan Rimsky-Korsakov. Stori wedi ei phlethu o gerddoriaeth egsotig am y Dywysoges Bersiaidd, Scheherazade, yr oedd ei gŵr y Swltan mor sicr ynghylch anffyddlondeb pob dynes fel ei fod wedi addo i ladd pob un o’i wragedd wedi eu noson gyntaf gyda’i gilydd. Adroddodd Scheherazade 1001 o straeon cyn cysgu, pob un â diweddglo iasol mor hudolus fel bod ei dienyddiad wedi ei ohirio noson ar ôl noson, a chafodd fyw.
Ystyrir Korngold fel un o ddyfeisiwyr gwreiddiol y sgôr ffilm symffonaidd. Yn ei Goncerto disglair i’r Ffidil o 1945, mae Korngold yn dychwelyd i’w wreiddiau yn Fienna a chyn iddo fynd i Hollywood, tra’n benthyca o’r llu o sgorau ffilm a gyfansoddodd dros y ddegawd flaenorol.
A hithau’n ddim ond 29 oed, mae’r gyfansoddwraig a’r trefnydd Prydeinig Dani Howard yn ennill cydnabyddiaeth yn rhyngwladol gyda pherfformiadau rheolaidd ledled Ewrop, UDA ac Asia. Mae Argentum (y gair Lladin am arian) yn ddarn byr, bywiog a hwyliog ond myfyriol sy’n seiliedig ar ddathlu, a gomisiynwyd gan y Royal Philharmonic Society a Classic FM yn 2017.
Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Arweinydd Kwamé Ryan
Ffidil Jennifer Pike
Dani Howard Argentum ‘6
Korngold Violin Concerto ‘24
Rimsky-Korsakov Scheherazade ‘42
Tocynnau £14 (dan 26 oed £5, consesiynau £12)