Back to All Events

Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru - Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

  • Neuadd Dewi Sant Yr Aes Caerdydd CF10 1AH (map)

Wedi ei sefydlu yn 1945, gall CGIC gyfrif llu o gyfansoddwyr, arweinyddion, unawdwyr a cherddorion proffesiynol amlwg ymhlith ei chyn-aelodau, y bydd eu henwau’n gyfarwydd iawn i gynulleidfaoedd Neuadd Dewi Sant. Mae Alun Hoddinott, Karl Jenkins, Gareth Wood, Grant Llewellyn a Paul Watkins yn eu plith. Ymunwch ag ensemble 2022, a sêr cerddoriaeth glasurol yfory, yn eu neuadd gyngerdd genedlaethol yng nghanol eu prifddinas, Caerdydd.

Kwamé Ryan, yr arweinydd o Ganada, fydd yn cyfarwyddo’r Gerddorfa yn Scheherazade gan Rimsky-Korsakov. Stori wedi ei phlethu o gerddoriaeth egsotig am y Dywysoges Bersiaidd, Scheherazade, yr oedd ei gŵr y Swltan mor sicr ynghylch anffyddlondeb pob dynes fel ei fod wedi addo i ladd pob un o’i wragedd wedi eu noson gyntaf gyda’i gilydd. Adroddodd Scheherazade 1001 o straeon cyn cysgu, pob un â diweddglo iasol mor hudolus fel bod ei dienyddiad wedi ei ohirio noson ar ôl noson, a chafodd fyw.

Ystyrir Korngold fel un o ddyfeisiwyr gwreiddiol y sgôr ffilm symffonaidd. Yn ei Goncerto disglair i’r Ffidil o 1945, mae Korngold yn dychwelyd i’w wreiddiau yn Fienna a chyn iddo fynd i Hollywood, tra’n benthyca o’r llu o sgorau ffilm a gyfansoddodd dros y ddegawd flaenorol.

A hithau’n ddim ond 29 oed, mae’r gyfansoddwraig a’r trefnydd Prydeinig Dani Howard yn ennill cydnabyddiaeth yn rhyngwladol gyda pherfformiadau rheolaidd ledled Ewrop, UDA ac Asia. Mae Argentum (y gair Lladin am arian) yn ddarn byr, bywiog a hwyliog ond myfyriol sy’n seiliedig ar ddathlu, a gomisiynwyd gan y Royal Philharmonic Society a Classic FM yn 2017.

Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Arweinydd
Kwamé Ryan
Ffidil Jennifer Pike

Dani Howard Argentum ‘6
Korngold Violin Concerto ‘24
Rimsky-Korsakov Scheherazade ‘42

Tocynnau £10-18 (dan 26 oed £5, consesiynau ar gael)
Swyddfa Docynnau Neuadd Dewi Sant
www.stdavidshallcardiff.co.uk / 02920 878 444

Previous
Previous
July 30

Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru - Gŵyl Three Choirs, Henffordd

Next
Next
August 24

Cerdd y Dyfodol - Clwb Ifor Bach, Caerdydd